Mae Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wedi dweud wrth golwg360 mai “yn nwylo pobol Cymru y dylai fod y penderfyniad dros ein dyfodol cyfansoddiadol ni”.

Daw hyn wrth i fudiadau sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth alw am yr hawl i Senedd Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Mewn llythyr agored at y Comisiwn Cyfansoddiadol a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, mae mudiadau a phleidiau – gan gynnwys YesCymru, Cymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru, Plaid Werdd Cymru, Undod a Llafur dros Annibyniaeth – yn galw am yr hawl i Senedd Cymru gynnal pleidlais gyhoeddus ar y cwestiwn.

Mae’r mudiadau’n rhybuddio bod angen proses eglur oherwydd yr ansicrwydd sydd i’w weld mewn gwledydd fel Catalwnia a’r Alban.

“Ysgrifennwn ar y cyd er mwyn tanlinellu un egwyddor benodol sydd gennym yn gyffredin: hawl sylfaenol pobol Cymru i benderfynu eu statws cyfansoddiadol eu hunain,” meddai’r llythyr.

“Yn nhermau gwaith eich Comisiwn, galwn felly am yr hawl i Gymru, drwy ei Senedd etholedig, benderfynu a ddylai fod yn wlad annibynnol ai peidio, a hynny heb ymyrraeth gan San Steffan.”

‘Ystyried annibyniaeth o ddifrif’

Cafodd y llythyr ei gydlynu gan Melin Drafod, a dywed Talat Chaudhri, cadeirydd y mudiad, fod “angen i Gomisiwn Llywodraeth Cymru ddangos ei fod yn ystyried annibyniaeth o ddifrif”.

“Mae angen i’r aelodau osod allan cynllun ymarferol i alluogi pobol Cymru i wneud y dewis eu hunain,” meddai.

“Ar hyn o bryd, hyd yn oed i ofyn y cwestiwn, mae ar fympwy y llywodraeth yn Llundain.

“Mae angen i hynny newid fan lleiaf.”

‘Democratiaeth sylfaenol’

“O bersbectif Cymdeithas yr Iaith rydan ni’n credu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos â phosib at y bobol sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau yna,” meddai Mabli Siriol wrth golwg360.

“Felly mae yna egwyddor yn y fan yna o ddemocratiaeth sylfaenol mai yn nwylo pobol Cymru y dylai fod y penderfyniad dros ein dyfodol cyfansoddiadol ni.

“Mae’r holl drafodaeth ynghylch annibyniaeth ac opsiynau cyfansoddiadol gwahanol wedi newid gymaint dros y blynyddoedd diwethaf.

“Dw i’n meddwl bod hwnna yn rhywbeth rili positif oherwydd rwyt ti’n gweld gymaint o bobol yn cymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus, yn rhannu barn ac yn dechrau meddwl am beth yw’r opsiynau gwahanol ar gyfer ein dyfodol ni a beth fydd yn sicrhau’r dyfodol gorau i bobol gyffredin.

“Felly mae’r ffaith fod y comisiwn wedi cael ei sefydlu o gwbl yn dangos bod gwleidyddion a Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen ymateb i’r drafodaeth yna.

“A dw i’n meddwl bod y llythyr yma yn ffordd o ddylanwadu a thrio gwneud hi’n glir os ydyn ni’n mynd i gael y trafodaethau yma, bod hefyd angen rhyw fath o fecanwaith i bobol Cymru allu gwneud y penderfyniadau yma yn y dyfodol.”

‘Brwydrau dros rymoedd datganoledig’

Rheswm arall mae’r Gymdeithas yn awyddus i sicrhau mecanwaith a fydd yn caniatáu i Gymru benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol yw’r gofid ymhlith aelodau fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosod ar ddatganoli.

“Roedd aelodau’r Gymdeithas wedi ymgyrchu’n galed dros ddatganoli yn y lle cyntaf,” meddai Mabli Siriol wedyn.

“Ac o’n persbectif ni mae’n rili pwysig er mwyn democratiaeth ac er mwyn dal pobol i gyfrif bod y gwleidyddion sy’n gwneud y penderfyniadau yna dros y Gymraeg, dros ein cymunedau ni mor agos â phosib i’r cymunedau hynny.

“Rydan ni wedi bod yn pryderu am y brwydrau yma dros rymoedd datganoledig.

“Yn ein cyfarfod cyffredinol ni yn 2020 fe ddaru ni basio cynnig yn gwrthwynebu’r ymgais yna gan Lywodraeth Prydain i dynnu rhai o’r grymoedd yn ôl ac yn sicr byddwn ni’n parhau i wrthwynebu.”