Mae tribiwnlys wedi dyfarnu o blaid Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â methiant Cyngor Abertawe i ystyried yr iaith wrth werthu adeilad Ysgol Gynradd Felindre.
Yn sgil y dyfarniad, bydd yn rhaid i’r Cyngor newid y ffordd maen nhw’n gwneud penderfyniadau polisi er mwyn rhoi sylw cydwybodol i’r Gymraeg yn y dyfodol.
Mae’r dyfarniad yn un arwyddocaol, gan y bydd yn arwain at well ystyriaeth i’r Gymraeg mewn penderfyniadau polisi a strategol.
Mae Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn dweud ei bod hi’n “croesawu penderfyniad y tribiwnlys”, sy’n “cadarnhau safbwynt y Comisiynydd ac yn gosod y Cyngor o dan orfodaeth i sicrhau ei fod yn gweithredu fel ag y dylai ac yn unol â Safonau’r Gymraeg”.
“Mae’r dyfarniad yn un pwysig gan bod y Tribiwnlys wedi cadarnhau bod penderfyniad polisi yn golygu mwy na dogfen ysgrifenedig ac yn cynnwys penderfyniadau sy’n ymwneud â chynnal busnes sefydliad, fel lleoli adeiladau cymunedol, ailstrwythuro gwasanaethau, a chau ysgolion,” meddai.
“Mae’r achos hwn yn gosod cynsail pwysig a bydd gofyn i sefydliadau ystyried y dyfarniad yn ofalus.
“Rwy’n bwriadu gohebu gyda sefydliadau cyhoeddus i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r dyfarniad yma a’u cynorthwyo i wella lle bo angen.”
‘Nifer cynyddol o gwynion’
Yn ôl y Dirprwy Gomisiynydd, mae Swyddfa’r Comisiynydd “wedi derbyn nifer o gwynion am benderfyniadau polisi yn y blynyddoedd diwethaf”.
“Mae’r gallu sydd gan unigolion i droi at y Comisiynydd os ydyn nhw’n gweld cyrff cyhoeddus yn dilyn ymarfer gwael yn bwysig,” meddai.
“Mae hefyd yn bwysig bod unigolion yn gwybod bod y Comisiynydd yno i warchod eu buddiannau.”
Yn dilyn penderfyniad Cyngor Abertawe i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre fis Awst 2019, derbyniodd y Comisiynydd gŵyn gan aelod o’r cyhoedd am y penderfyniad i werthu’r safle.
Roedd yr achwynydd yn bryderus bod y Cyngor wedi dewis gwerthu yn hytrach na defnyddio’r safle at bwrpasau cymunedol.
Mae’r Cyngor yn gweithredu safonau’r Gymraeg, sy’n ei gwneud yn ofynnol ystyried effaith penderfyniadau polisi ar yr iaith ac i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Wrth gasglu tystiolaeth, daeth yn amlwg i’r Comisiynydd na chynhaliodd y cyngor ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad o effaith gwerthu’r eiddo ar y Gymraeg.
Dyfarnodd fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â safonau’r Gymraeg ar y sail yma.
Cafodd camau gorfodi eu gosod arnyn nhw i sefydlu proses a fyddai’n ystyried effaith rheoli a gwerthu eiddo ar y Gymraeg, gyda disgwyliad hefyd eu bod yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r methiant.