Mawr y cynnwrf, mae Cymro wedi ennill y Tour de France ond cafodd y fuddugoliaeth ei thanseilio braidd, gan faterion sy’n deillio o’n perthynas letchwith, fel Cymry Cymraeg efo’r cysyniad o ‘hunaniaeth Brydeinig’.

Mae’r berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Lloegr, o ran yr ymerodraeth Brydeinig a threfedigaethedd (colonialism), yn fater dyrys, gyda llenyddiaeth ysgolheigaidd eang a chyfoethog; ond, o ran ein bywyd pob dydd heddiw, mae ‘Prydeindod’ yn tueddu o fod yn gyfystyr efo ‘Seisnigrwydd’.

Beth bynnag, fe fu tipyn o stŵr, yn enwedig ar Twitter, ynglŷn â’r mater o ddisgrifio Geraint Thomas fel ‘Prydeiniwr’ neu ‘Gymro’ ac, yn sicr, ynglŷn â’i benderfyniad i ddal baner y Ddraig Goch uwch ei ben, yn hytrach na Jac yr undeb; yn wir, arweiniodd hyn at sylwadau digon annifyr a gwrth-Gymreig – mor annifyr fel y byddwn yn eu gosod yn rhan o’r ddadl am ‘hiliaeth’ tuag at y Cymry.

Ond i mi, fel Onomastegydd, sef rhywun sydd yn astudio enwau, un o’r agweddau mwyaf diddorol, wrth i mi ddilyn siwrne Geraint i gopa’r podiwm, oedd trafferthion sylwebyddion y wasg Saesneg wrth geisio ynganu ei enw – enw digon cyffredin yma yng Nghymru, sef un o wledydd y Deyrnas Unedig, a rhan o’r ynys sy’n dwyn yr enw ‘Prydain Fawr’.

Daeth hyn i gyd, wrth gwrs, yn sgil ymddiswyddiad y gweinidog Ceidwadol Guto Bebb, a’r halibalŵ annisgwyl a ddaeth wrth i lond dwrn o bobl ganolbwyntio ar fychanu ei enw, yn hytrach na’i gredoau gwleidyddol. Mae’r ffrae yma hefyd wedi codi’r cwestiwn hiliaeth.

Mae hyn i gyd yn amserol iawn i mi, gan fy mod newydd gyhoeddi erthygl ysgolheigaidd am y syniad fod enwau Cymreig yn enghraifft dda o’r cymhlethdod sydd wrth wraidd y cysyniad o ‘hunaniaeth Brydeinig’.

Mae enwau Cymreig yn amlygu’r bylchau a’r gwahaniaethau, a’r rheiny fel rheol yn cael eu drysu o fewn trafodaethau sy’n dueddol o ganolbwyntio ar faterion hanesyddol, gwleidyddol, a hyd yn oed biolegol.

Ond nid oes dwywaith amdani, mae enwau Cymreig yn deillio o’r iaith Gymraeg, felly dydyn nhw ddim yn gyfystyr ag enwau Saesneg.

Lleoli fy hun fel Onomastegydd

Mi ddes i faes onomasteg yn ddigon damweiniol. Wnaeth fy rhieni ystyried yn ofalus iawn wrth ddewis enw i mi. Roedden nhw eisiau enw efo naws Gymraeg, gan eu bod am fy magu yn y gymuned Gymraeg. Ond roedden nhw hefyd eisiau i bobl ddi-Gymraeg allu ynganu fy enw.

Felly, ar ôl hoffi ystyr yr enw ‘Sara’, sef ‘tywysoges’, aethant am hyn, heb yr ‘h’, gan ddewis yr ynganiad Cymraeg, sef gyda dwy ‘a’ fyr, ac ‘r’ sy’n rholio yn y canol, megis Lara Antipova yn Dr Zhivago; Særæ, o drawsgrifio’n ffoneteg . Doedd dim modd iddyn nhw ragweld y trafferthion fyddai hyn yn ei achosi i mi trwy gydol fy mywyd.

Mae pobl Saesneg eu hiaith yn dueddol o ddweud ‘Sarah’/ ‘Sera’; ac mae llond llaw o Gymry Cymraeg yn gwneud hyn hefyd. Agwedd arall o gam-ynganu, yw’r ail ‘a’, sy’n tueddu i gael ei ynganu’n ‘uh’; yn wir, dwi’n gwneud hyn fy hun, wrth siarad Saesneg – mae hi fel bod fy ngheg ar y gosodiad anghywir! Yn ôl ieithydd y bues i’n trafod hyn efo fo, mae’n fath o dreigliad yn yr iaith Saesneg. Er enghraifft, efo’r gair ‘Salad’, mae’r ail ‘a’ yn cael ei ynganu’n wahanol i’r ‘a’ gyntaf, felly mae hi fwy fel ‘Saluhd’.

Beth bynnag, fel unrhyw ysgolhaig gwerth ei halen, ysgrifennais erthygl i gyfnodolyn am hyn; medrwch ei lawr-lwytho yn rhad ac am ddim yma. Yn ystod y broses olygu ac adolygu, mi ddes i’n ymwybodol o faes onomasteg, a ddatblygais diddordeb ym mhob agwedd o’r maes – o faterion megis ailenwi nwyddau a phontydd i natur y maes yn gyffredinol, gan gynnwys y ffaith ei fod yn fratiog a rhanedig heb fawr ddim cydweithio traws-ddisgyblaethol – felly cynigais fod hunan-ethnograffeg yn fethodoleg a fyddai’n helpu pontio’r ffiniau.

Lleoli’r Gymry o fewn maes onomasteg

Wrth ddod yn fwy cyfarwydd â’r llenyddiaeth, sylwais fod yna ffocws mawr ar brofiadau mewnfudwyr – yn enwedig yn y Deyrnas Unedig. Mae yna erthyglau yn trafod trafferthion efo ynganiad a hiliaeth tuag at gymunedau lleiafrifol o fewnfudwyr.

Edrychodd un astudiaeth ar ragfarn yn y system recriwtio ym Mhrydain; datganwyd fod ceisiadau swydd efo enwau lleiafrifol ethnig (a ddim gwahaniaeth arall) yn gorfod cael eu hanfon 74% yn fwy o weithiau na cheisiadau hefo ‘enwau gwyn’ er mwyn cael cyfweliad. Aeth Wykes (2017) ymhellach, gan drafod y ‘Fraint Brydeinig Wyn’ sy’n deillio o ‘Enwau Prydeinig Gwyn’.

Yma, rhaid gofyn y cwestiwn, beth yw ‘Enwau Prydeinig Gwyn’? Ac a fyddai ceisiadau am swyddi, gan Lleucu Gwenllian Llywelyn, neu Dafydd ab Llwyd, yn mwynhau’r ‘Fraint Brydeinig Wyn’, neu’n dioddef yr un fath o ragfarn a cheisiadau gan ymgeiswyr efo enwau lleiafrif ethnig – yn yr ystyr draddodiadol?

Enwau Cymraeg wedi'u gosod mewn patrwm
Enwau Cymraeg

Yn anecdotaidd, mi fedra’ i ddweud fy mod wedi cael sawl sgwrs ers dechrau’r ymchwil yma efo Cymry Cymraeg sy’n datgan straeon am eu henwau tra Chymraeg; mae rhai straeon yn ddigri, tra bod eraill yn erchyll ac yn drist.

Yn ddiddorol iawn, efallai fod yna dueddiadau penodol i enwau Cymreig. Er enghraifft, hoffwn archwilio os oedd tuedd hanesyddol o roi enwau tra Saesneg i blant Cymraeg a Seisnigeiddio enwau oedolion, er mwyn rhoi’r ‘Fraint Brydeinig Wyn’ iddyn nhw; a fyddai hyn yn adlewyrchu tueddiadau mewn grwpiau lleiafrifol eraill?

Cafodd yr arferiad tadenwol/ patronymig ei ddisodli yn hwyrach yng Nghymru nag yn Lloegr, a gwelwn duedd o ddychwelyd at yr hen arferiad yn y cyd-destun cyfoes, gan ddilyn enw cyntaf gyda ‘ab’ ac wedyn enw’r tad, yn hytrach na chyfenw safonol. Mae rhai pobl hefyd yn ‘Cymreigio’ eu henwau, sef y gwrthwyneb i’r duedd gynt o ‘Seisnigeiddio’.

Mae yna hefyd duedd gyfoes, ymysg Cymry Cymraeg, i roi enw cyntaf ac ail enw, gan annog yr arfer o ollwng y cyfenw mewn bywyd pob dydd. Mae llond llaw o bobl yn teimlo’n gryf am hyn – ac efallai ei fod yn deillio o’r cyfnod ‘canolog’ y mae Moore (1990) yn sôn amdano, rhwng yr arferiad tadenwol a’r fersiwn cyfoes safonol. Ond hyd yma, dw i ddim wedi dod o hyd i esboniad boddhaol.

Mae’r erthygl ddiweddaraf wedi ei chyhoeddi mewn cyfnodolyn rhyngwladol i bobl frodorol, sydd yn addas iawn i’r drafodaeth dwi’n meddwl, a medrwch ei lawr-lwytho yma. Os nad oes gennych gyfrinair prifysgol, gallwch lawr-lwytho’r fersiwn cyn-fformatio yma.

Hoffwn ddefnyddio’r platfform yma i ennyn trafodaeth am y materion onomastaidd yma, felly plîs gadewch sylw, neu e-bostiwch fi: s.wheeler@bangor.ac.uk Neu cysylltwch ar drydar: @SerenSiwenna