Dr Gethin Matthews, Uwch-Ddarlithydd yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, yn cofio holi rhai o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd

A ninnau newydd gofio 75 mlynedd ers Diwrnod VE, mae’n rhyfedd meddwl ei bod yn 25 mlynedd ers imi wneud cyfres o gyfweliadau gyda dynion a wasanaethodd yn y Lluoedd Arfog yn yr Ail Ryfel Byd.

Nôl yn 1995 roeddwn yn gweithio fel ymchwilydd ar y rhaglen nosweithiol Heno (heb unrhyw gymwysterau na hyfforddiant mewn hanes, ond fod gennyf ddiddordeb brwd).

Roedd golygyddion y rhaglen yn hoffi fy awgrym o wneud deg cyfweliad gyda gwŷr a wasanaethodd gyda’r Fyddin, y Llynges neu’r Llu Awyr am eu profiadau, ac fe gafodd yr eitemau hyn eu darlledu dros y pythefnos yn arwain at 8 Mai 1995. Yna, fe olygais y darnau at ei gilydd i wneud rhaglen hanner awr, a alwyd Yn Eu Geiriau Eu Hunain. Fe’i darlledwyd ar S4C adeg hanner-canmlwyddiant Diwrnod VJ.

Ar lefel bersonol, roedd hwn yn gam mawr ymlaen imi, yn rhannol oherwydd hwn oedd fy nghomisiwn cyntaf i S4C, ac hefyd oherwydd mai hwn oedd y tro cyntaf imi gyfweld â phobl fy hunan.

Digwyddodd hyn yn ddamweiniol, gan nad oedd y cyflwynydd ar amser ar gyfer y cyfweliad cyntaf a, phan gyrhaeddodd, roedd y ffilmio wedi gorffen, ac roeddwn i wedi cael yr hyder i benderfynu nad oeddwn i angen neb arall i ofyn y cwestiynau ar fy rhan!

Mewn gwirionedd, roedd hi’n ddigon hawdd gofyn cwestiynau gan fod gan bob un o’r hynafgwyr hyn stori ddiddorol i’w hadrodd, a chaent ei dweud yn eu geiriau eu hunain, fel pe baent yn siarad â chyfaill am eu profiadau. Y ffordd y cynlluniwyd yr eitemau oedd bod y dynion yn rhannu eu hatgofion ddwywaith – unwaith yn wynebu’r camera, a’r eildro o’r ochr, gan roi cyfle imi greu stori hunangynhwysol wrth olygu.

Wrth ystyried prinder yr adnoddau (â rhaglen o dri chwarter awr i’w pharatoi bob nos, roedd amser i ymchwilio yn brin), ar hap a damwain y dewiswyd y sawl i’w cyfweld.

Dewis pobl

Roedd y cyntaf o’r rhai a gyfwelwyd yn gymydog i un o’m hen fodrybedd. Tadcu cydweithiwr ac ewythr un arall oedd eraill ar y rhestr. Gan fy mod am gael rhywrai o ogledd Cymru yn y rhaglen er mwyn cynnwys ystod eang o leisiau, cysylltais â nifer o glybiau’r Lleng Brydeinig yn y gogledd a gofyn iddynt a oedd ymhlith eu haelodau gyn-filwyr â chanddynt stori ddiddorol i’w hadrodd.

Canlyniad y fethodoleg ddiffygiol hon oedd dewis y deg: pump o’r Fyddin, dau o’r Llynges a thri o’r Llu Awyr. Roedd hyn yn rhoi darlun da o rai agweddau o’r rhyfel (roedd dau o’r Llu Awyr yn perthyn i’r Bomber Command) ond gwybodaeth fwy cyfyngedig am eraill (nid oedd neb ymhlith yr ymosodwyr yn Normandi).

Dadlennol

Mae’n ddadlennol edrych yn ôl ar y cyfweliadau, gan wybod yr hyn a wn yn awr – wedi llawer troad yn fy ngyrfa, rwyf bellach yn ddarlithydd ac un o’m meysydd ymchwil yw  hanes llafar. (Mae pennod yn fy llyfr Creithiau am Gymru a’r Rhyfel Mawr yn delio gyda dibynadwyedd cyflweliadau gyda chyn-filwyr, a’r llynedd cyhoeddodd Y Traethodydd erthygl gen i am atgofion y diweddar Gwynfor Hughes am ei brofiadau yn Arnhem).

Felly gallaf ddeall rhai o elfennau gwahanol y fath hanes yn well nag y gallwn bum mlynedd ar hugain yn ôl. Mae storïau’r milwyr wedi eu crisialu gan eu bod yn atgofion sydd wedi cael eu hadrodd dro ar ôl tro. Roedd y dynion wedi meddwl am yr hyn a ddigwyddodd iddynt am ddegawdau ac wrth iddynt adrodd eu hatgofion i bwy bynnag oedd yn barod i wrando, roedd y straeon wedi eu moldio i ffurf a enynnai ddiddordeb ac empathi’r gynulleidfa. Maent weithiau yn ddigrif, ond hefyd â digon o eiliadau pruddglwyfus a thywyll.

 

John Geldart o Lanrwst

Mae stori John Geldart yn enghraifft dda o hyn. Cyn y rhyfel, fe weithiai ar fferm ei deulu yn Llanrwst, yn gyrru tractor. Pan gafodd ei gonscriptio fe’i rhoddwyd fel gyrrwr  yn y Corfflu Trafnidiaeth, ac yn y misoedd yn dilyn D-Day yr oedd yn dosbarthu nwyddau i’r llinell flaen.

Cofiai yrru trwy’r Ardennes yn Rhagfyr 1944, ac wrth iddo fynd heibio, roedd trigolion lleol yn eu croesawu gan osod llinynnau o faneri’r Cynghreiriaid. Drannoeth dechreuodd y ‘Battle of the Bulge’, ac wrth iddo ef a’r fyddin orfod dianc am yn ôl, roedd y bobl leol yn tynnu’r baneri i gyd i lawr.

John hefyd a adroddodd am un o’r digwyddiadau mwyaf dirdynnol wrth iddo sôn am gyrraedd Belsen ddau ddiwrnod wedi i’r carcharorion gael eu rhyddhau o’r gwersyll.

Roedd cyfnodau tywyll arall yn nisgrifiad byw Griff Jones o wasanaethu fel cludwr stretsier yn y frwydr ffyrnig yn erbyn milwyr Siapan yn Burma, ac yn nisgrifiad Harold Bowen o’i flynyddoedd yn garcharor rhyfel i’r Siapaneaid yn Java a Singapore. Cofiaf wneud y cyfweliad olaf hwn yn ei lolfa yng Nglanaman, gyda’r gŵr rhadlon yn disgrifio fel yr oedd yn llwgu ac yn debyg i sgerbwd byw, â’i bwysau yn ddim ond 3½ stôn.

Dianc

Cafwyd dwy stori ddyrchafol am ddihangfa (a oedd felly’n rai da i’w hadrodd i eraill). Soniodd Dillwyn Clement am y noson pan syrthiodd bom ger y babell lle cysgai mewn gwersyll hyfforddi yn Lerpwl. Fe’i arbedwyd pan drawodd shrapnel yr arian yn ei boced. Roeddent yn dal ganddo i’w dangos i eraill.

Roedd Dewi ap Gwynoro Roberts yn ymladd yng ngogledd Affrica pan drawodd fwled ei Feibl ym mhoced gesail ei siaced. Roedd ganddo’r Beibl i’w ddangos fel prawf o’r hyn a ddigwyddodd.

Cymreictod

Un cwestiwn sydd o ddiddordeb arbennig i mi bellach yw ystyried sut yr oedd eu hunaniaeth fel Cymry yn cael ei hadlewyrchu yn eu hagwedd a’u profiadau yn ystod eu gwasanaeth yn y Fyddin.

Mae’r dystiolaeth weithiau yn glir yn yr atebion, megis pan soniodd Dillwyn fel yr oedd yntau, fel Anghydffurfiwr Cymreig, yn gorfod cyflawni dyletswyddau yn y gwersyll ar y Suliau, tra bod ei gymheiriaid oedd yn Eglwyswyr neu’n Babyddion yn cael diwrnod rhydd i addoli. Fel Cymro yn yr Aifft bu’n rhaid i Ossie Williams chwarae i dîm rygbi’r uned a berthynai iddi.

Ar achlysuron eraill, mae’r dystiolaeth am eu profiadau fel Cymry yn cuddio o dan yr wyneb. Pan adroddai Dewi Roberts y stori am ei Feibl, dywedai fod eraill yn ei alw’n ‘Taff’.

Roedd profiadau tebyg gan eraill, a p’un ai oeddent yn dod o Landderfel, Rhyd-y-main neu  Craig-Cefn-Parc, ‘Taff’ oeddent i’r Saeson. Nodwedd ddiddorol arall yw’r defnydd o iaith, er enghraifft pan oedd y gwŷr yn newid o’r Gymraeg i Saesneg wrth ail-adrodd gorchymyn a dderbyniasant.

Dim casineb

Agwedd arall sy’n dod yn amlwg wrth astudio’r cyfweliadau yw’r ystod eang o emosiynau a glywir wrth i’r dynion adrodd am eu profiadau. Nid oes casineb tuag at y gelyn yn un o’r hanesion hyn, ac mae’n werth sylwi na wnaeth Harold Bowen ddangos unrhyw falais tuag at y Siapaneaid wedi iddo ddioddef blynyddoedd o gam-drin. Nid oes enghreifftiau o frolio am fuddugoliaeth yn y cyfweliadau chwaith.

Yn achlysurol mae’r emosiynau hyn yn bositif, megis pan oedd Havard Jones yn cofio am ryddhau ynysoedd Gwlad Groeg, â’r bobl leol yn dod â blodau a gwin i’r milwyr. Balchder wrth iddo ennill aden a streipiau i roi ar ei iwnifform RAF a welwyd yng nghyfraniad Emlyn Williams.

Roedd emosiynau eraill yn negyddol.

Ofn oedd yng nghalon Robin Evans wrth i’w long hwylio tuag at y frwydr, ond diflannodd pan glywodd yr alarwm yn galw pawb i’w safle brwydro ar y llong.

Y profiad ohono ef a’i gymheiriaid yn cael eu bomio heb unrhyw le i gysgodi a gofiai Ossie Williams, gyda rhai yn methu â dygymod ac yn mynd o’u cof.

Yr anallu i wneud dim a ofidiai Hywel Evans wrth gofio am awyren uwchben yn gollwng bom, a hwnnw’n malu awyren a hedfanai islaw yn rhacs. Roedd i’r profiadau hyn eu heffeithiau hir dymor. Cofiai Ossie Williams fel y dihunai yn chwys oer flynyddoedd yn ddiweddarach pan âi awyren heibio yn y nos.

Edrych yn ôl

Wrth edrych yn ôl, carwn pe bawn wedi gofyn cwestiynau sy’n casglu mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n ennyn fy niddordeb nawr fel hanesydd. Roedd gan y dynion hyn gymaint o storïau gwerth eu hadrodd heblaw’r rhai yr oeddent wedi eu rhannu’n gyson â’u teuluoedd a’i ffrindiau.

Parafilwr oedd Dewi Roberts a ddisgynnodd yn Arnhem yn Medi 1944, ond ni chynhwysodd y rhaglen ond cyfeiriad arwynebol at ei brofiadau yno. Un peth a gofiaf yn dda, er nad yw i’w weld yn y rhaglen, oedd y chwerwder a fynegodd, nid yn erbyn yr Almaenwyr a’i cipiodd, ond yn erbyn y Rwsiaid na roesant driniaeth dda iddo ef a’i gymheiriaid pan ryddhawyd hwy o garchar rhyfelwyr.

Er hynny, mae’r rhaglen yn dal yn ddefnyddiol. Diolch i Lyfrgell Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r rhaglen hon ar gael i ni ei dadansoddi. Fe’i dangosaf yn y seminarau i fyfyrwyr yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe sy’n trafod yr hyn sydd o blaid ac yn erbyn hanes llafar. Fel darn o hanes llafar, mae’r rhaglen hon hefyd yn fodd i gywiro unrhywun a geisiai grynhoi hanes yr Ail Ryfel Byd i mewn i naratif du-a-gwyn, gan fod adroddiadau’r hynafgwyr hyn yn llawn lliw cymhlethdodau bywyd.

 

Cyfeiriadau

Matthews, G. (2019) ‘‘Sobor o Beth’: Gwynfor Hughes a’i Atgofion’, Y Traethodydd (Hydref 2019), tt.219-235

 

Matthews, G. (2016), ‘Rhwng Ffaith a Ffuglen: Atgofion Cyn-filwyr Cymraeg mewn cyfweliadau ddegawdau wedi diwedd y Rhyfel’ yn Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.241-257