Amanda Jones – Uwch Ddarlithydd Nyrsio, Prifysgol Abertawe, a Gail McDonald – Athrawes Cynghori, Dechrau’n Deg, Ceredigion, sy’n ystyried yr ymchwil am ddefnydd plant o ddyfeisiau electronig, y peryglon a’r cyngor…

Cyflwyniad

Mae’n amlwg fod plant a phobl ifainc yn treulio mwy o’u hamser yn defnyddio dyfeisiau electronig. Gall hynny fod yn wylio’r teledu, gwrando ar gerddoriaeth neu chwarae gêmau electronig (Academy of Paediatrics, 2016). Mae’r gwaith ymchwil o fewn y maes hwn yn dechrau cydnabod problemau a thrafferthion wrth or-ddefnyddio’r dyfeisiau (Ofcom, 2014). Mae’n flaenoriaeth i godi ymwybyddiaeth rhieni a gofalwyr o’r byd technolegol sy’n esblygu’n gyflym.

Gallwn gydnabod fod y cyfleoedd i ddysgu a chyflwyno gwaith drwy ddyfeisiau electronig yn bwysig o fewn plentyndod a datblygiad plant (Formby, 2014). Gall codi ymwybyddiaeth am gyfyngu amser cyswllt plant a phobl ifainc ar y dyfeisiau wneud gwahaniaeth i batrymau cysgu a rheoli ymddygiad (Hysing et al, 2015). Mae’r defnydd o gyfrwng symudol ar gyfer ymdawelu plant yn y tymor byr yn ofid gan fod angen iddynt ddysgu strategaethau hunan reoleiddio a sgiliau cymdeithasol yn hytrach na chael eu sylw wedi’i dynnu gan sgrîn (Radesky et al., 2015).

Y defnydd ar gynnydd

Gwelwyd cynnydd yn nifer y rhieni sy’n defnyddio dyfeisiau electronig fel iPads i ddarllen i’w plant yn hytrach na llyfrau oherwydd newidiadau diwylliannol a phwysau gan y cyfryngau o fewn cymdeithas (Kings College London, 2016). Teimla 54% o blant eu bod yn gor-ddefnyddio dyfeisiau electronig (Jiang, 2018).

Erbyn hyn gwelir bod un o bob tri phlentyn yn berchen ar eu iPad eu hunain a bod chwech o bob deg (62%) yn defnyddio tabled yn y cartref, ac mae hynny wedi codi o bron hanner mewn blwyddyn (42% yn 2013) (Ofcom, 2014).

Y newid mwyaf yw’r amser y mae plant yn ei dreulio o flaen y sgrîn ac yn defnyddio dyfeisiau electronig. Yn 2013 roedd plentyn o flaen sgrîn am gyfartaledd o dair awr y dydd ond erbyn 2015 cododd y gyfartaledd yma i chwech awr a hanner y dydd (Wakefield, 2015).

Mae ystadegau’r American Academy of Pediatrics (APP) yn dangos bod 76% o blant yn eu harddegau yn cael mynediad at ddyfais electronig yn ddyddiol. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfrwng cymdeithasol fel Facebook, sef yr un mwyaf poblogaidd o fewn yr oedran yma ac mae 91% o fechgyn yn adrodd bod ganddynt fynediad at ddyfais chwarae gêmau o fewn eu cartrefi (Common Sense Media, 2011). Adroddodd 38% o blant eu bod yn berchen ac yn defnyddio dyfais electronig, o gymharu gyda 72% yn 2013 (Louis, 2015).

Gwelodd EU Kids Online gynnydd yn y defnydd o rwydweithiau cymdeithasol wrth i blant fynd yn hŷn. Defnyddiwyd cyfrwng cymdeithasol gan 23% o blant oed 11-12 mlwydd oed, gan gynyddu i 36% ymhlith rhai 15-16 mlwydd oed. Mae gorddefnydd o rwydweithiau cymdeithasol yn arwain at rannu gormod o wybodaeth, at ddylanwadu ar hunanddelwedd corfforol a bod yn agored i gynnwys a chyngor niweidiol. Gall hyn gael effaith negyddol ar eu lles (Frith, 2017).

Y cyngor

Mae’r APP yn cydnabod nad oes angen oed penodol i gyflwyno ffônau symudol i blant; maent yn teimlo y byddai hyn yn llesterio’r defnydd gyda phlant a phobl ifainc sy’n dioddef salwch neu haint difrifol sydd angen cymorth brys. Mae hefyd yn caniatáu i rieni plant a phobl ifainc sydd â salwch difrifol i fod ar gael pan fo angen hynny o achos eu salwch ond, eto, mae’n hyrwyddo annibyniaeth (Edwards & Titman, 2011).

Er bod yr APP yn gweld bod defnyddio dyfeisiau electronig yn gallu bod yn fuddiol i blant oed ysgol er mwyn datblygu eu gwybodaeth, er mwyn cyflwyno syniadau newydd a’u caniatáu i gael mynediad i wybodaeth hyrwyddo iechyd, mae hefyd yn gonsyrn oherwydd yr anhawster i rieni sicrhau bod yr amser y maent ar y rhyngrwyd a’r hyn y maent yn edrych arno yn cael eu goruchwylio.

Dydy’r rhan fwyaf o blant oed cyn-ysgol ddim yn berchen ar dabledi eu hunain felly, wrth ddefnyddio dyfeisiau’r rhieni, maent yn agored i’r gêmau y mae’r rhieni wedi dewis iddynt. Fel arfer mae’r cynnwys yn addas i’r plant ond unwaith y mae’r plentyn yn berchen ar ei d/ddyfais eu hunain, dydy’r cynnwys ddim yn cael ei fonitro mor fanwl ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hamdden yn fwy nag ar gyfer addysg (Chaudron, 2015).

Gwelwyd bod plant yn gor-ddefnyddio sgrîn ond does dim argymhelliad eto gan yr ymchwilwyr ynghylch beth sy’n ddiogel. Mae’r APP wedi gosod ambell argymhelliad o ddim mwy nag un awr y dydd i blant rhwng dwy a phum mlwydd oed, a dim mwy na dwy awr y dydd i blant a phobl ifainc rhwng pump a deunaw mlwydd oed (American Academy of Pediatrics, 2016).

Gwelwyd bod y gorddefnydd o ddyfeisiau electronig yn gallu cael effaith negyddol ar batrwm cysgu plant a phobl ifainc ond maent yn nodi bod angen gwaith ymchwil ychwanegol yn y maes hwn (Cain a Gradisar, 2010). Mae’r gwaith ymchwil hwn yn nodi bod cwsg yn bwysig i ailwefru ac ymlacio gweithgarwch yr ymennydd a rheoli ymddygiad ac emosiynau plentyn neu berson ifanc, a gall gorddefnyddio’r dyfeisiau effeithio ar batrymau cysgu ac ymddygiad. Gwelir cynnydd mewn tymer ddrwg a stranciau.

Gall yr amser y mae plant a phobl ifainc yn defnyddio dyfeisiau electronig yn ddyddiol wynebu’r plant â sefyllfaoedd peryglus sydd weithiau yn arwain at broblemau amddiffyn plant a diogelwch plant (Becta, 2008).
Mae Deddfwriaethau a Deddfau dros Gymru a Lloegr yn cadarnhau hyn ac yn cynnig cyngor a chanllawiau i awdurdodau lleol er mwyn datblygu strategaethau i’r cyhoedd er mwyn sicrhau amddiffyn plant a phobl ifainc o fewn y diriogaeth gyhoeddus. (Rights of the Child, 2011).

Gwelodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod manteision o ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i blant a phobl ifanc, drwy cyfoethogi cyfeillgarwch presennol, ond hefyd maent yn rhoi rhybudd o’r effeithiau negyddol os bydd person ifainc o flaen sgrîn yn rhy hir yn ystod diwrnod ysgol (Frith, 2018).

Ymhlith y cyrff sy’n rhoi gwybodaeth a chanllawiau angenrheidiol i rieni, gofalwyr, plant a phobl ifainc am gadw’n ddiogel wrth ddefnyddio dyfeisiau electronig, mae cymdeithasau fel Child Exploitation and Online Protection (CEOP) (National Crime Agency, n.d). O ran y wybodaeth, awgrymwyd bod rhieni yn medru cadw llygad am arwyddion rhybudd yn eu plant neu berson ifanc eu bod yn cael eu “paratoi” (groom) trwy’r rhyngrwyd neu drwy ddyfais electronig. Gall gorddefnyddio dyfeisiau electronig gan bobl ifainc hefyd eu gwneud yn agored i seiber-fwlio (Department of Education, 2014).

Mae’r dystiolaeth sy’n cefnogi rhieni a gofalwyr i fod yn fwy ymwybodol o’r amser y mae’u plant a phobl ifanc yn ei dreulio o flaen sgrîn wedi derbyn scrwtini drylwyr gan yr Academy of Pediatrics (2016). Cydnabuwyd bod angen mwy o waith ymchwil o fewn y maes ym mhob astudiaeth achos.  Bydd yr astudiaethau a gwaith ymchwil yn y maes hwn yn cynyddu gwybodaeth y cyhoedd ac yn sicrhau bod gan rieni y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cywir i’w caniatáu i wneud y penderfyniad cywir o ran defnyddio sgrin.

Llyfryddiaeth

American Academy of Pediatrics (n.d.) Cyrchwyd o https://www.healthychildren.org/English/family-life/Media/Pages/Cell-Phones-Whats-the-Right-Age-to-Start.aspx

American Academy of Pediatrics (2016). Media Use in School-Aged Children and Adolescents. Cyrchwyd on 30th December 2016 o http://pediatrics.aappublications.org/content/138/5/e20162592

Becta. (2008). Safeguarding children in a digital world. Cyrchwyd o             http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20130401151715/http://www.education.go            v.uk/publications/eOrderingDownload/BEC1-15535.pdf

Cain, N., Gradisar,M,.(2010) Electronic media use and sleep in school-aged children and adolescents: A review. Cyrchwyd o http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1389945710001632

Chaudron. S (2015 )Young Children 0-8 and Digital Technology. JRC Science and Policy reports. Cyrchwyd o  http://www.lse.ac.uk/media@lse/research/ToddlersAndTablets/RelevantPublications/Young-Children-(0-8)-and-Digital-Technology.pdf

Department of Education. (2015). Preventing and tackling bullying advice for headteachers, staff and governing bodies. Cyrchwyd o https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/444862/Preventing_and_tackling_bullying_advice.pdf 

Edwards, M., & Titman, P. (2011). Promoting psychological well-being in children with acute and chronic illness. London and Philadelphia.

Frith, E ( 2017) Social Media and Children’s Mental Health EU Kids Online 2014 (The London School of Economics and Science). Cyrchwyd o https://epi.org.uk/wp-content/uploads/2018/01/Social-Media_Mental-Health_EPI-Report.pdf

Formby, S.( 2014) Practitioner perspectives: Children’s use of technology in the Early Years.             National Literacy Trust. Cyrchwyd o http://www.literacytrust.org.uk/assets/0002/1135/Early_years_practitioner_report.pdf

Hysing, M., Pallesen, S., Stormark, K. M., Jakobsen, R., & Lundervold, A. J. (2015). Sleep and use of electronic devices in adolescence: Results from a large population-based study. BMJ Open, 5(1), 6748. doi:10.1136/bmjopen-2014-006748

Jiang, J. (2018) How teens and parents navigate screen time and device distractions. Cyrchwyd o https://www.pewresearch.org/internet/2018/08/22/how-teens-and-parents-navigate-screen-time-and-device-distractions/

Kings College London. (2016). Bedtime use of media devices doubles risk of poor sleep in children. Cyrchwyd o http://www.kcl.ac.uk/ioppn/news/records/2016/October/Bedtime-use-of-media-devices-doubles-risk-of-poor-sleep-in-children.aspx

Louis, C. S. (2015, November 2). Many children under 5 are left to their mobile devices, survey finds. Health. Cyrchwyd o http://www.nytimes.com/2015/11/02/health/many-children-under-5-are-left-to-their-mobile-devices-survey-finds.html?_r=0

National Crime Agency. CEOP Command. Cyrchwyd o https://www.ceop.police.uk/Safer-By-Design/Case-examples/

Ofcom (2014). One in three children now have their own tablet computer. Cyrchwyd o https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/latest/media/media-releases/2014/media-lit-audit-oct2014

Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011. Cyrchwyd o http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/2/pdfs/mwa_20110002_en.pdf

Wakefiled,J,.(2015) Children spend six hours or more a day on screens. Cyrchwyd o http://www.bbc.co.uk/news/technology-32067158