Seren Evans, Ymchwilydd Doethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, sy’n disgrifio gwaith ymchwil i’r pwnc.

Cyflwyniad

Yn dilyn proffesiynoli’r gêm yn ôl yn 1995, gwelwyd newidiadau cyflym yn nodweddion ffisiolegol chwaraewyr Rygbi’r Undeb (Duthie et al., 2003), megis taldra, cyfansoddiad y corff a chryfder. O ganlyniad nid yn unig newidiwyd natur y gêm, ond hefyd yr anafiadau i chwaraewyr.

Camp sydd yn cynnwys ysbeidiau o ddwyster uchel, ffrwydrol, a digwyddiadau gyda chyswllt corfforol yw Rygbi’r Undeb (Fuller et al., 2017; Roberts et al., 2008) ac mae’r cyfryngau yn trafod traweffaith hyn ar faich anafiadau a dyfodol y gêm yn aml iawn. Nid yw’n syndod bod mwyafrif yr anafiadau yn digwydd yn ystod gemau o gymharu â sesiynau ymarfer (Williams et al., 2013), gyda chwaraewyr rhyngwladol yn cronni symudiadau ffrwydrol yn ardal y dacl, yn gorchuddio mwy o dir ar gyflymder mawr ac yn cymryd rhan mewn gwrthdrawiadau grymus ar hyd yr 80 munud o chwarae.

Er hynny, mae oddeutu 83-112 anaf fesul 1000 awr o ymarfer o fewn Rygbi’r Undeb, a’r lleoliadau mwyaf cyffredin yw’r glun, pen-glin a phen. Mae hyn wrth gwrs yn ddibynnol ar y safle chwarae; blaenwyr yn fwy tebygol o dderbyn anaf i’r ysgwydd, o ganlyniad efallai i natur eu safle chwarae (rycio, sgrym, llinell), ac olwyr yn fwy tebygol o dderbyn anaf i linyn y gâr, eto oherwydd natur eu safle chwarae: maent yn rhedeg yn llawer cyflymach o gymharu â’r blaenwyr.

Mae 79% o anafiadau rygbi’r undeb yn ganlyniad i ddigwyddiadau lle mae cyswllt corfforol, 54% o rheiny ym maes y dacl (Fuller et al., 2007). Ond mae anafiadau heb gyswllt corfforol (wrth wneud gweithgareddau megis rhedeg, arafu wrth redeg, newid cyfeiriad) yn peri baich cynyddol ar dimau Rygbi’r Undeb ac yn codi’r cwestiwn; a oes modd atal y rhain rhag digwydd yn y lle cyntaf?

Sut mae anafaiadau’n digwydd yn y lle cyntaf?

I ddeall anafiadau, a chyn i ni dybio mai’r gwrthdrawiadau corfforol sydd yn achosi’r risg uchaf i les chwaraewyr y gamp, mae angen edrych ar y ffactorau cynhenid ac anghynenid sydd yn gallu egluro pam cafwyd anaf yn y lle cyntaf. Ffactorau cynhenid yw’r rhai sy’n perthyn i’r chwaraewr ei hun – natur y corff ac yn y blaen. Ffactorau anghynhenid yw’r rhai sy’n dod o’r tu allan i’r chwaraewr. Cyn i’r ffactorau allanol, anghynhenid, effeithio arno, mae chwaraewr yn rhagdueddol o gael anaf; gyda’r ffactorau allanol, byddwn yn dweud ei fod yn dueddol o gael anaf.

Mewn modelau anafiadau hŷn (Ffigwr 1), perthynas linol, uniongyrchol, sydd yn cael ei disgrifio wrth drafod anafiadau. Mae athletwr rhagdueddol yn berchen ar nifer o ffactorau risg cynhenid megis oedran, cyfansoddiad y corff, ffitrwydd ffisegol a rhyw. Yn dilyn dod i gyswllt â ffactorau risg anghynhenid (deunyddiau, tirwedd, gwrthwynebwyr, tywydd ayyb), maent yn troi’n athletwr tueddol. Ac yn ôl Meeuwise (1994), un digwyddiad cymell (rhaglen ymarfer, grym cymalau, sefyllfa chwarae) sydd ei angen i dderbyn anaf.

Digwyddiad cymell

Bellach rydym yn ymwybodol bod angen mwy o wybodaeth i ddarlunio yn gyflawn sut mae anafiadau yn digwydd mewn chwaraeon. Mae Ffigwr 2 (Meeuwisse et al., 2007), yn cydnabod y gallai nifer o ddigwyddiadau a all beri risg o anaf weithiau sbarduno addasiad yng ngwneuthuriad ffisiolegol y chwaraewyr yn hytrach nag anaf. Mae’r chwaraewyr hynny wedyn yn mynd ymlaen i gyfranogi mewn sesiynau/gemau wedi ei hamddiffyn rhag y risg penodol hwnnw.

Digwyddiad cymell

Anafiadau cyswllt neu ddigyswllt?

Mae modelu anafiadau felly yn gallu caniatáu i ni ddatgelu ffactorau risg a hyd yn oed ddechrau rhagfynegi anafiadau o bob math; boed yn rhai gyda chyswllt corfforol, neu heb gyswllt.

Y broblem sydd yn codi ynglŷn ag anafiadau cyswllt fodd bynnag yw eu bod mor anodd i’w rhagweld. Pwy sydd yn gallu rhagfynegi bod chwaraewr yn mynd i daro pen yn erbyn pen-glin mewn gornest yn yr awyr am y bel?

Mae ambell beth all gael ei ychwanegu at eu rhaglen ymarfer wrth gwrs sydd yn gallu eu paratoi ar gyfer sefyllfaoedd o’r fath. Mae hyn wedyn yn codi ail gwestiwn ynglŷn ag anafiadau cyswllt; ai mater o berfformiad annigonol yw’r mwyafrif o anafiadau cyswllt (pen yn y safle anghywir, diffyg rheolaeth gorfforol)? Felly, ai mesuriadau perfformiad sydd eu hangen i hyfforddwyr dalu sylw iddynt wrth drafod mecanwaith yr anaf?

Wrth edrych ar y darlun cyflawn, mae anafiadau yn anochel mewn unrhyw gamp, felly beth am newid y cysyniad fod rhaid newid rheolau a natur y gêm yn gyfan gwbl ac, yn lle hynny, ceisio lleihau achosion o anafiadau y gellir eu hatal yn y lle cyntaf?

Mae’r ymchwil yn dangos bod anafiadau heb gyswllt corfforol yn digwydd o achos problem gyda llwyth gwaith (mesur cyffredinol o faint o waith sy’n cael ei gwblhau yn ystod sesiynau ymarfer, gemau, y gampfa, ymadfer ayyb), blinder cyhyrol, a diffyg ymarfer (Gabbett, 2010; Gabbett et al., 2016). Ac o safbwynt esblygiad y gêm, mae chwaraewyr yn rhedeg yn gyflymach, yn bellach ac mae’r angen i addasu’r llwyth gwaith yn aml yn angenrheidiol ar gyfer gwarchod lles chwaraewyr heddiw, yn ogystal ag ar gyfer llwyddiant. Wrth fonitro cyflwr chwaraewyr, mae angen system ddwys o fesuriadau corfforol a seicolegol dyddiol sydd yn gallu cydnabod arwyddion o orlwytho a blinder cyhyrau cyn iddi fod yn rhy hwyr.

Rydym wrthi yn gweithio ar greu system effeithiol o fodelu anafiadau drwy amrywiaeth o fesuriadau yn y gobaith o adnabod yr arwyddion rhybudd yn y chwaraewyr er mwyn cynghori ymarferwyr yn y gamp ynglŷn â systemau i atal anafiadau digyswllt, gyda’r bwriad o leihau baich anafiadau ar dimoedd ledled y wlad.

 

LLYFRYDDIAETH

Duthie, G., Pyne, D., & Hooper, S. (2003). Applied Physiology and Game Analysis of Rugby Union: Sports Medicine, 33(13), 973–991. https://doi.org/10.2165/00007256-200333130-00003 https://www.researchgate.net/publication/9018034_Applied_Physiology_and_Game_Analysis_of_Rugby_Union

Fuller, C. W, Brooks, J. H. M., Cancea, R. J., Hall, J., & Kemp, S. P. T. (2007). Contact events in rugby union and their propensity to cause injury. British Journal of Sports Medicine, 41(12), 862–867. https://doi.org/10.1136/bjsm.2007.037499 https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/17513332/

Fuller, Colin W, Taylor, A., Kemp, S. P. T., & Raftery, M. (2017). Rugby World Cup 2015: World Rugby injury surveillance study. British Journal of Sports Medicine, 51(1), 51–57. https://doi.org/10.1136/bjsports-2016-096275 https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/27461882/

Gabbett, T. J. (2010). The Development and Application of an Injury Prediction Model for Noncontact, Soft-Tissue Injuries in Elite Collision Sport Athletes: Journal of Strength and Conditioning Research, 24(10), 2593–2603. https://doi.org/10.1519/JSC.0b013e3181f19da4 https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/20847703/

Gabbett, T. J., Kennelly, S., Sheehan, J., Hawkins, R., Milsom, J., King, E., Whiteley, R., & Ekstrand, J. (2016). If overuse injury is a ‘training load error’, should undertraining be viewed the same way? British Journal of Sports Medicine, 50(17), 1017–1018. https://doi.org/10.1136/bjsports-2016-096308 https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/27251895/

Meeuwisse, W. H., Tyreman, H., Hagel, B., & Emery, C. (2007). A Dynamic Model of Etiology in Sport Injury: The Recursive Nature of Risk and Causation: Clinical Journal of Sport Medicine, 17(3), 215–219. https://doi.org/10.1097/JSM.0b013e3180592a48 https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/17513916/

Roberts, S. P., Trewartha, G., Higgitt, R. J., El-Abd, J., & Stokes, K. A. (2008). The physical demands of elite English rugby union. Journal of Sports Sciences, 26(8), 825–833. https://doi.org/10.1080/02640410801942122 https://www.researchgate.net/publication/5286127_The_physical_demands_of_elite_English_rugby_union

Williams, S., Trewartha, G., Kemp, S., & Stokes, K. (2013). A Meta-Analysis of Injuries in Senior Men’s Professional Rugby Union. Sports Medicine, 43(10), 1043–1055. https://doi.org/10.1007/s40279-013-0078-1 https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/23839770/