‘The tune is the nation’s’: llythyrau’n dadlennu mwy am y gyfansoddwraig Grace Williams
Y gyfansoddwraig Grace Williams (1906–1977) oedd un o ffigyrau cerddorol amlycaf a mwyaf dylanwadol Cymru’r ugeinfed ganrif oherwydd cyfansoddiadau nodedig fel ei Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940) a’i chyfres [suite] gerddorfaol, Penillion (1955). Mae Elain Rhys Jones, sydd wrthi’n ysgrifennu traethawd ymchwil ar un agwedd o’i hallbwn fel cyfansoddwraig, yn taflu goleuni newydd ar y gyfansoddwraig…
Pwy oedd Grace Williams?
Ymddengys fod ei phersonoliaeth yn un mewnblyg a chaeedig – hyd yn oed yn eithaf ‘oeraidd’, yn nhyb rhai oedd yn ei hadnabod – ac ni fu llawer yn awyddus na pharod i fynd dan groen y ddelwedd gyhoeddus hon er mwyn canfod y gwir Grace Williams.
Fodd bynnag, mae cyfres o lythyrau dadlennol rhyngddi a chyfaill agos iddi, sydd ar gadw yn Archifdy Prifysgol Bangor, yn cynnig gwedd newydd ar y ffigwr pwysig ac arwyddocaol hwn.
Gohebiaeth yw hwn rhwng Williams a’r Fonesig Enid Parry (1911-1998), cyfansoddwraig a oedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn gyfaill agos iddi.
Roedd teuluoedd y ddwy yn gyfeillion agos, yn ymweld â’i gilydd yn gyson, a chyfeiria Parry at y tro cyntaf iddi weld Williams mewn cyngerdd yng Nghaerdydd: ‘syfrdanwyd fi gan y canu, a hyd yn oed yn fwy na’r canu gan y cyfeilydd ifanc – merch ysgol yn ei harddegau … Grace, merch yr arweinydd, oedd honno’.
Mae cyfanswm o 235 llythyr yn yr ohebiaeth sy’n cwmpasu cyfnod o 47 mlynedd rhwng 1929–76, ac maent yn fodd i ddod i adnabod Williams drwy gyfrwng ei llawysgrifen, ei hatgofion a’i phrofiadau personol.
Mae’r ffaith fod y casgliad wedi goroesi yn cynnig y cyfle i ni allu dod i adnabod Grace Williams yn well drwy ffynonellau cynradd, dibynadwy. Dysgwn lawer amdani fel unigolyn yn ogystal â’i pherthynas gyda’i chydweithwyr; er enghraifft, rhai yn y BBC.
Dysgwn amdani fel cyfansoddwraig yn ogystal. Er enghraifft, cyfeiria mewn un man at ‘liw cyweiriol’ a’r ffaith ei bod yn meddwl am gyweiriau cerddorol yn ddisgrifiadol wrth drafod ei threfniant o’r alaw ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’: ‘cold F major instead of lovely E major’. Cawn yma hefyd bortread diddorol o fywyd cyfansoddwraig yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Roedd llythyru yn gyfrwng i Grace Williams holi am gymorth ieithyddol a chyfieithiadau Cymraeg gan Enid Parry a’i gŵr, Syr Thomas Parry, yr ysgolhaig a’r llenor. Doedd Grace Williams ddim yn siarad Cymraeg ond, yn ôl Enid Parry, ‘yr oedd wedi meistroli cryn dipyn ar yr iaith ysgrifenedig’.
Bu’r ddwy yn cydweithio ar gyfer cystadlaethau a chyngherddau’r Eisteddfodau Cenedlaethol, ac meddai Enid Parry: ‘Yr oedd hi bob amser yn barod i newid ei cherddoriaeth pan oedd angen hynny i hyrwyddo hwylustod y geiriau.’ Profa hyn ei bod yn barod i gydymdeimlo gyda’r bardd wrth gyfansoddi, a’i bod yn parchu’r geiriau a’r farddoniaeth ym mhob iaith.
Gellir casglu o’r ohebiaeth na fu’r cydweithio rhwng Williams a chwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth yn un hawdd nac esmwyth, ac mae’n bur debyg y bu hyn yn ffactor a arweiniodd at y diffyg cyhoeddusrwydd i’w threfniannau o alawon gwerin Cymru.
Wrth gyfeirio at Wasg Prifysgol Rhydychen, nododd yr ymateb a gafodd gan y cwmni mewn llythyr yn 1934: ‘usual excuses: lack of funds: yet they’ve always got enough cash to publish their own stuff’.
Fe geisiodd hefyd ddwyn sylw cwmni cyhoeddi Boosey & Hawkes (Llundain) i’w hymdrechion yn 1934 gan feddwl y byddai ei chyn-athro, Ralph Vaughan Williams, yn gymorth iddi: ‘I feel more hopeful because Vaughan Williams will back me (he approves [very] much of the arrangements) and also, young Benjamin Britten, who’s well in with [Boosey & Hawkes] at the moment will speak up for me’.
Gwelir yn ogystal fod arwyddocâd a phwysigrwydd y môr i Grace Williams a’i chariad tuag at y Barri yn amlwg iawn yn yr ohebiaeth. Yn 1941, dywedodd: ‘I think I must go home to the beach – you know what I’m like where the sea is concerned [and] I do miss it’. Roedd hyn, yn ôl Parry, yn dod â ‘llawenydd mawr i’w bywyd’.
Cymru a’r Gymraeg
Efallai mai’r elfen fwyaf diddorol yn yr ohebiaeth yw’r pwyslais ar hunaniaeth Gymraeg a Chymreig y gyfansoddwraig – rhywbeth sydd wedi ei ddiystyru gan nifer o ysgolheigion yn y gorffennol.
Mae sylwadau diddorol yn yr ohebiaeth am Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru (CAGC), gan gynnwys ei hymateb i’r ddadl am ‘hawlfraint’ ym myd caneuon gwerin a’r ffaith bod swyddogion CAGC yn mynnu taliad gan gyfansoddwyr am ddefnyddio alawon brodorol ym 1945: ‘[Idris Lewis] had told me that he [and Arwel Hughes] weren’t going to do any more folk song arrangements because of the greed of the [Welsh Folk Song Society] and I feel I’ll do likewise as a sort of protest’. Wrth ddisgrifio Williams, dywed Parry ei bod yn ‘dweud ei meddwl yn blaen bob amser’.
Roedd yn amlwg ei bod yn teimlo’n angerddol na ddylai cyfansoddwyr dalu am ddefnyddio alawon gwerin yn y 1940au, ac fe ddywedodd hynny’n ddi-flewyn ar dafod:
‘I’ve always felt that folk songs are the property of the nation [and] that a collector who does little more than listen to an old crone singing a tune, [and] scribble it down (a matter of a few minutes – should have no right to ownership of the tune – the tune is the nation’s. Most of these collectors did it as a labour of love – or said they did [and] they were all people with leisure [and] money [and] should only be too pleased to have their finds used by composers [and] then spread abroad. As things are, the law is on their side [and] their attitude is ‘You shouldn’t touch our tunes without our special permission [and] you must pay us our full share of performing fees’…‘I have dared to use tunes without permission – in my Fantasia’.
Roedd darllen yr ohebiaeth yn bleserus a diddorol dros ben, ond mae’n drueni na chafodd llawer o drefniannau gwerin Cymraeg Grace Williams sylw haeddiannol yn ystod ei hoes. Mae wedi creu’r camargraff nad oedd ganddi lawer o amser i gerddoriaeth draddodiadol ei gwlad.
Dyma a’m hysbrydolodd i greu astudiaeth o’i threfniannau gwerin Cymraeg ar gyfer fy ngradd ymchwil. Gobaith yr astudiaeth yma yw herio’r farn hon, gan daflu goleuni newydd ar gerddoriaeth anghyhoeddedig Gymraeg a Chymreig Grace Williams, fel nad ânt yn angof.
- Ewch i wefan Gwerddon – www.gwerddon.cymru – i bori drwy’r erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.
Llyfryddiaeth
Cotterill, Graeme, ‘Grace Williams’ yn Wyn Thomas a Pwyll ap Siôn (goln.), Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2018), 427-428.
Mathias, Rhiannon, Lutyens, Maconchy, Williams and Twentieth-Century British Music (Surrey: Ashgate Publishing Limited, 2012).
Parry, E., ‘Atgofion am Grace Williams’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 5:6 (Haf 1977), 7-14.
Williams, G,. A Rees, A. J. H. (gol.), ‘Grace Williams: A Self Portrait’, Cerddoriaeth Cymru/ Welsh Music, 5:4 (Gaeaf 1976-77), 7-18.