Ar 1 Tachwedd 2012, am 6pm, deng mlynedd ar hugain ar ôl lansiad S4C daeth Euryn Ogwen Williams a Dafydd Sills-Jones ynghyd yn yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, i drafod arwyddocâd lansiad S4C.

Fe wnaethon nhw hynny drwy ystyried awr gyntaf y sianel; awr oedd yn yn ddatganiad o annibyniaeth diwylliannol Cymreig, yng nghyd-destun ymfflamychol y 1980au cynnar. Roedd angen i S4C daro’r dôn cywir o’r dechrau, ac roedd yr awr gyntaf yn holl bwysig.

Ar 1 Tachwedd 1982, Euryn Ogwen Williams oedd rheolwr rhaglenni cyntaf S4C, ac ef oedd yn gyfrifol am saernio’r awr gyntaf. Roedd Dafydd Sills-Jones yn ddeng mlwydd oed, ac yn gwylio’r awr gyntaf yn swyddfa cwmni teledu ei dad, Sgrin ’82, yn Aberystwyth. Doedd yr un ohonynt wedi gwylio’r awr gyntaf ers hynny.

Mae’r sgwrs sydd yn dilyn yn ceisio cloddio o dan groen yr awr gyntaf er mwyn dadansoddi gwreiddiau’r sianel, ac i gnoi cil am yr holl feddwl, y paratoi, a’r elfen ddamweiniol a arweiniodd at gyfansoddiad awr gyntaf S4C.

*

Dafydd Sills-Jones: Barod? 

Euryn Ogwen Williams: Barod. Y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain i fi edrych arno.

DSJ: Beth am drafod, cyn dechrau gwylio, beth oedd yn digwydd yn union, ble oeddech chi pan wylioch chi’r awr gyntaf am y tro cyntaf? Beth oedd wedi digwydd y diwrnod cyn, a efallai y dyddiau cyn i’r sianel lansio 

EOW: Dw i ddim yn cofio llawer, felly well i mi beidio creu y myth yn ormodol, yr un peth dwi’n cofio ein bod ni wedi recordio fo. Roedd ambell ran wedi’i ffilmio yn hytrach na defnyddio camera byw, oherwydd bod ni eisiau bod yn saff bod e am fynd allan yn iawn. Y peth oedd yn rhaid ei osgoi oedd cael unrhyw beth i fynd o’i le. Oherwydd y traddodiad Cymreig, yn sicr yn fy ngenedlaeth i, oedd lansiad Harlech, cyn iddo fo newid i fod yn HTV, a oedd yn un trychinebus. Doedd e ddim cweit mor ddrwg a lansiad Granada yn y 50au. Yn lansiad Granada, gafon nhw’r boi enwog yma o Ganada, a’i hedfan o drosodd i gyflwyno’r rhaglen. Roedd y noson yn dechrau am 6 o’r gloch, ac roedden nhw wedi dechrau ymarfer am tua 11.00, ac roedd y boi yn hollol feddw, doedd e ddim yn gallu sefyll! Roedd e’n disaster.

Y disaster mawr Cymreig oedd noson gyntaf Harlech, pan ddaethon nhw a chyfarwyddwr rhaglen mawr o Lundain. Rwy’n siwr oedd e’n gwybod beth oedd e’n neud, ond doedd e ddim yn nabod y bobl, na’r stiwdios, na’r stori roedden nhw’n ceisio creu, a roedden nhw wedi llenwi’r stiwdio ym Mryste gyda Richard Burton, Liz Taylor – roedden nhw i gyd yno, yr enwogion – a wedyn roedd yna rai yng Nghaerdydd, ond roedd Harlech newydd gymryd drosodd, a doedd neb wedi checio bod Caerdydd a Bryste yn lincio ato’i gilydd… mi aeth y noson o ddrwg i waeth, mi oedd hi’n siambyls.

DSJ: Roedden nhw’n ceisio gwneud dau ddarllediad byw ar yr un pryd? 

EOW: Un darllediad byw oedd yn mynd trwy Caerdydd i Fryste, a wedyn allan. Am gyfnod dim ond cyflwynydd yn y stiwdio fach yng Nghaerdydd oedd na, yn dweud “and any minute now we will be going to Bristol… the dancers are there, the band is there, Geraldo and his orchestra are there, but we are unable to make contact…”.

Felly, beth bynnag oedd e, doedd rhaglen agoriadol S4C ddim am fod yn sioe, ddim am fod yn fyw. Roedd hi’n ddechrau cyfnod semioteg – stwff Umberto Echo ar y wyddor newydd o “signs and signals” – roedd hwnnw yn rhan o’n meddwl ni, a’r penderfyniad oedd bod yr awr gyntaf am roi arwyddion clir o beth oedd S4C, oherwydd bod ’na nifer o bobl yn dweud bod e’n rhywbeth gwahanol. Roedd gen ti un garfan oedd yn meddwl bod hi am fod yn gyfan gwbl Gymraeg, a doedd hi ddim, a gallai hi ddim bod. Roedd ’na garfan arall, yr hen ddarlledwyr, yn credu mai nhw oedd yn rhedeg y peth, a felly roedd rhaid rhoi arwydd ynglŷn â hynny. Hefyd, yr arwydd arall pwysig roeddwn i’n trio rhoi allan oedd ein bod ni’n fach, ac nad oedden ni’n dilyn patrwm traddodiadol darlledwyr wrth fod ymhell o’r gynulleidfa. Roedd eisiau i’r gynulleidfa deimlo eu bod nhw’n rhan o’r sianel. A hefyd roedden ni wedi defnyddio SuperTed fel y cerbyd i greu y cyffro, yn enwedig ymysg plant, bod na rhywbeth newydd ar fin dechrau. Dim ond un pennod o SuperTed oedd ganddo ni! Roedd hi’n cymryd mwy o amser i wneud animeiddio nag oeddwn i wedi meddwl, felly rhywsut roedd rhaid rhoi hwnnw mewn lle digon clir i ddangos bod SuperTed yn dod, oherwydd bod ni’n gwybod byddai rhaid aros hyd at ddechre’r flwyddyn wedyn i gael gyfres cyfan o SuperTed.

Felly roedd yr holl bethau yna eisiau cael eu rhoi rhywsut yn yr awr gyntaf. Rhyw fath o astudiaeth semioteg fyddai’n ddiddorol o’r awr gyntaf.

DSJ: Iawn te, i ffwrdd a ni! [chwarae’r dvd]. Reit ni am stopio ar ôl 7 eiliad, ar y plat cyntaf; h.y. y rhestr o raglenni y noson cyntaf. 

DSJ: O edrych ar yr amserlen yma a oedd yn dechre’r sianel, mae’r awr gyntaf yna yn eithaf cyfrinachol, sef “6-7, Croeso i S4C, welcome to S4C”.

EOW: Diddorol ei fod yn y ddwy iaith. Peth arall sy’n ddiddorol i sylwi arno foydi’r logo ar y gwaelod.

Roedden ni wedi lansio hwn rai misoedd ynghynt oherwydd ein bod ni’n gwybod ein bod ni am greu problem i ran o’r gynulleidfa gyda’r cysyniad yna, y ‘brand’. Mi fuon ni’n hir iawn yn penderfynu yn union lle roedden ni eisiau mynd hefo fe. Roedden ni wedi dewis cwmni i greu’r logo; roeddwn i a Chris Grace, a oedd yn gyfrifol am yr amserlen, yn nabod bachgen a oedd wedi sefydlu cwmni newydd, sef Martin Lambie-Nairn. Roedden ni’n nabod o pan oedd e’n gweithio i London Weekend Television. Mi aethon ni ato fe. Mi wnaethon ni ofyn i un neu ddau o gwmnïau o Gymru i roi syniadau i ni, a daeth dim byd cyffrous o hynny. Mi aethon ni i Martin, gan bod y cwmni yma wedi dechrau, a gofyn fyddai e yn cyflwyno tri syniad bach i ni, ynglŷn â pha gyfeiriad y dylen ni fynd.

Mi wnaethon ni fynd am Martin, heb yn wybod i ni bod e hefyd wedi pitchio i wneud logo Channel 4, a mi enillodd hwnnw hefyd. Roedden ni wedi cael e cyn Channel 4, ond mae’n debyg bod hyn yn dweud lot am y berthynas rhyngom ni a Channel 4.

DSJ: O edrych ar hwn mae’n ddiddorol iawn; bod ‘Wales’ o flaen ‘Cymru’, a wedyn mae ‘Wales 4 Cymru’, bron yn dweud bod yr ochr Saesneg o Gymru yn bleidiol dros yr ochr Gymreig o Gymru. Oedd hynny’n fwriadol? 

EOW: Ti’n iawn, roedd y stwff yna i gyd ynddo fo.

DSJ: Erbyn hyn, tra’n gwneud rhywbeth i’r gymuned Gymreig, mae’n anochel byddai’r Gymraeg yn dod yn gyntaf. Oedd gwneud hyn yn yr 80au cynnar yn fwy dadleuol na byddai hi heddiw?

EOW: Dyna oedd un o’r dadleuon: a allwn ni ddefnyddio hwn o gwbl. Roedd e’n gweithio yn wych, a mae’n debyg mai dim ond Martin, o du allan i Gymru, a fyddai wedi gweld y posibilrwydd yna. Wrth gwrs, pan mae’r logo yn symyd mae’r Saesneg a’r Gymraeg yn diflannu, gan adael dim ond S4C. A wedyn yr S4C yn y canol yw’r hyn mae pobl yn ei weld fel arfer.

DSJ: Hwnnw oedd y neges gyntaf felly? 

EOW: Y neges gyntaf oedd y logo, a ni wedi stopio ar ôl 2 eiliad. Wedyn i fynd ymalen, ar y noson gyntaf, am saith o’r gloch roedd Newyddion Saith am y tro cyntaf erioed, o’r BBC. Am hanner awr wedi saith, Cerdded Ymlaen, gyda Dafydd Iwan; gwladgarol, cysylltu â’r chwyldro a oedd wedi dod a’r peth i fod, ond yn rhaglen gerddorol, HTV. 8 o’r gloch, sitcom am newyddion [Newydd Bob Nos], a oedd yn syniad o Lundain a pitchiwyd i ni a Channel 4, mi benderfynodd Channel 4 a ni i gydweithio i greu fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg, achos y tu allan i BBC a HTV doedd dim traddodiad comedi o gwbl ymhlith y sector annibynnol.

Ond roedd ’na nifer o unigolion oedd yn awyddus i ddechrau, a roedden ni’n teimlo bod angen iddynt gael hyfforddiant, a’r hyfforddiant gore oedd i weithio ar y rhaglen yma, ac mi ddefnyddiwyd yr un actorion – Dyfed Thomas, Nia Ceidiog – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fe’u recordiwyd gefn-yn-gefn, ac roedd hi o flaen ei hamser, heb fod yn wych. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach comisiynodd Channel 4 Drop the Dead Donkey, a mae na lot o hon yn y rhaglen diweddarach. Mi roedd hi’n newydd bob nos, a wedi’i chreu’n annibynnol.

Roedd y dewisadau yma felly yn ddatganiad i’r sector gynhyrchu; BBC rydych chi yn dal i wneud y newyddion; HTV rydych chi am gael rhaglen am hanner awr wedi saith; ond wedyn rydyn ni’n mynd yn annibynnol. Roedd y ddwy raglen Saesneg – Max Boyce a’r Dallas Cowboys a’r ffilm Network  wedi dod i ni oherwydd caredigrwydd mawr Channel 4 wrth beidio lansio tan y noson ar ôl S4C. Roedden nhw yn teimlo bod angen i S4C gael free run.

DSJ: Felly roedd y ddwy raglen yna yn noswaith gyntaf Channel 4 hefyd?  

EOW: Oedden, felly fe’u gwelwyd nhw yng Nghymru y noson gynt, a migawson ni ddewis o beth oedden ni eisiau gwylio.

DSJ: Caredigrwydd mawr wrth feddwl bod Newydd Bob Nos, Max Boyce a unai yn rhodd neu’n gyd-gynhyrchiad gyda Channel 4. 

EOW: Mae yna un arwydd mawr arall yna ynglŷn â’r berthynas â Channel 4.  Mae’n anodd meddwl mae fel hyn oedd hi, ond mi ddwedwyd yn hollol glir yn y Senedd, un o’r pwyllgorau dethol – un Leo Abse efallai – dwedwyd yn hollol glir gan arbenigwyr darlledu, na’r unig ffordd o weithredu’r ddeddf a ddaeth a S4C i fodolaeth oedd drwy ‘optio-allan’ o rhaglenni Channel 4. Felly am 7 o’r gloch roedd S4C yn rhedeg eu rhaglenni ein hunain, ond am 9 o’r gloch – bwm, ar yr union amser – roeddwn ni’n mynd nol at raglenni Channel 4.

DSJ: yn debyg i system ITV gyda’r rhanbarthau? 

EOW: Yn union. Wrth gwrs, doedd ganddo ni ddim bwriad o wneud hyn, ac unwaith eto mi wnaeth Channel 4 gytuno, a doedd dim rhaid iddyn nhw. Roedd cefnogaeth y darlledwyr a’r gwleidyddion i ni fod yn opt-out, a ninne yn benderfynnol o fod yn opt-in.

DSJ: Pam? 

EOW: Doedden ni ddim yn gwybod yn union be ddylai hyd y rhaglenni fod, doedden ni ddim eisiau gorffen pob nos am 9, oherwydd fod rhai rhaglenni ddim yn gweithio cyn 9. Roedden ni eisiau dangos chwaraeon, a bod dim sicrwydd bod y gêm am orffen, a byddai rhaid torri’r ddeddf neu gorffen gêm yn ei hanner, neu rhywbeth felly. Felly yn ymarfeol, roedd hi’n amhosib, ond hefyd roedden ni eisiau sefydlu ein bod ni’n annibynnol, mai nid regional opt-out oedden ni. Chwarae teg, roedd hwn yn rhan o’r pecyn, ac oherwydd bod Channel 4 wedi cytuno roedden ni’n gallu dangos yn y noson gyntaf bod ni ddim am fynd yn ôl i Channel 4 am 9 o’r gloch, a bod ni am ddangos rhaglenni Channel 4 pan mae’n siwtio ni, nid ar yr un noson a Channel 4, a bod rhai rhaglenni byddai Channel 4 yn dangos am 9, doedden ni ddim am ddangos oherwydd bod nhw ddim yn berthnasol. Felly mae hynny i gyd yn y capsiwn cyntaf yna.

DSJ: Beth am Max Boyce? Roedd dewis rhaglen Max Boyce o Channel 4 reit ddiddorol hefyd, oherwydd roedd Max Boyce yn ffigwr rhwydwaith y BBC ar y pryd, yn doedd – nid ffigwr Cymreig yn unig oedd e – a roedd y rhaglen ynglŷn â fe’n mynd i Dallas yn dangos ‘Cymru yn y byd’ fel petae?

EOW: Yn union, roedd ’na lot o bethau yn yr awr gyntaf yn ceisio tanlinellu hynny.

DSJ: Felly roedd hwn yn arwydd mewn ffordd o ddiffyg parchedig ofn Channel 4?

EOW: Ie, rydyn ni’n dangos pethau gwahanol, rydyn ni eisiau bod yn wahanol, ac oherwydd hynny roedd S4C eisiau bod yn wahanol i’r hen gyrff darlledu.

DSJ: felly, ymlaen a ni [Chwarae’r DVD] 

EOW: Tra bod y fideo yn hwn yn rhedeg ymlaen tuag ar y sero, roedd na fachgen o Lanelli, Steve Rhys, roedd e yn medru pwyso y botwm oherwydd bod e wedi’i recordio yn barod, a wedyn am 6, bwydo’r rhaglen i fyny, a fel mae’r tâp yn chwarae gallwn weld y ganolfan newydd. Er ei fod hi’n ganolfan fach, roedd modd drwy hud a lledrith teledu i wneud iddi edrych yn fawr!

Pob gair fyna yn amlwg wedi mynd trwy’r felin. Roedd hi’n ymddangos i ni mai y frwydr fawr oedd perswadio’r di-Gymraeg fod yna groeso iddyn nhw. A hefyd bod ni’n pwysleisio ymdrechion gwahanol ddarlledwyr; cyfleu y teimlad cartrefol yma. Roedd hynny’n rhywbeth a drafodwyd lot; roedd hi’n naturiol i Owen, ond roeddwn i yn teimlo bod rhaid i ni drafod e, oherwydd byddai’r syniad o greu rhywbeth cartrefol yn broblem ymhen amser, ac yn wir mi fuodd ac efallai ei fod e o hyd. Y peth cynhwysol – neges y peth – oedd eich bod chi i gyd yn rhan o hwn, boed eich bod chi’n siarad Cymraeg ai beidio. Bod yr holl beth yn Gymreig yn hytrach nag yn Gymraeg.

DSJ: Wrth wylio nawr, rhaid cofio gramadeg teledu y pryd. Pa mor araf oedd y symudiad rhwng rhaglenni, yn y blynyddoedd cyn i paintbox gyrraedd. Efallai oherwydd hynny, mae’n teimlo mai araith wleidyddol yw hwn, yn fwy arwyddocaol na sianel deledu yn unig. Bron – wrth feddwl eto efallai am semioteg y peth – fod acen Saesnegaidd RP [Received Pronounciation] Owen Edwards yn ryw fath o arwydd hefyd; y fath o berson a oedd wedi dod a pethau hefo’i gilydd ym myd sefyldiadol darlledu?  

EOW: O ran hynny, mewn ysgol fonedd y cafodd Owen ei addysg, felly roedd ei Saeneg yn hollol naturiol yn fwy RP, a mi oedd Owen yn nabod Saeson yn lot gwell na fi, a’r gweddill ohonom ni, oherwydd ei fod wedi bod yn gweithio yn y BBC yn Llundain a mewn ffordd roedd hon yn araith wleidyddol, yn ei chyfnod, roedd hi’n ofnadwy o bwysig ei bod hi.  Mi oedd hwn yn gyfnod mor wleidyddol. Hwn oedd y datganiad fod yr holl chwyldro a siarad a oedd wedi bod, dyma oedd y dechre. Roedd Owen wrth ei fodd yn siarad yn gyhoeddus, ac efallai os fyddai rhywun arall wedi bod yn uwch-weithredwr, fydden nhw wedi meddwl am ffordd well o’i wneud o, ond i Owen, sefyll ar lwyfan oedd y peth.

DSJ: Oedd Owen Edwards yn ffigwr aruchel a oedd y tu allan i fywyd Cymraeg i ryw raddau, ond bod ei bresenoldeb wedi bod yn angenrheidiol i berswadio Llundain i gytuno â chynlluniau S4C? 

EOW: Dwi’n credu mae’r unig berson posib oedd Owen, oherwydd ei hygrededd ymlith y gwleidyddion a’r Saeson, roedden nhw’n derbyn ei fod e’n genedlaetholwr, ond nid yn gefnogwr i unrhyw blaid. Fo oedd the acceptable face of the nation i’r tu allan. Oedd o mewn traddodiad o uchelwyr – ei dad a’i daid – ond roedd disgwyl iddo fo fod yn gwneud rhywbeth fel hyn, felly roedd e’n medru siarad fel lord of the manor. Doedd e ddim yn berson rhaglenni o gwbl, ond mi oedd ganddo fo touch da iawn efobeth oedd pobl yn eu hoffi. Roedd e’n gwybod os oedden ni wedi comisiynu rhywbeth a fyddai neb yn ei hoffi.

DSJ: O ran y bobl a oedd yn llywodraethu darlledu? 

EOW: Na, pobl gyffredin. Roedd gynno fo reddf – fel ei dad i raddau efo’r Urdd – mi oedd ganddo the common touch, a bod e’n medru sefyll uwchben hynny i gyd.

DSJ: Bron fod e ar y pryd yn ryw fath o dywysog Cymru! Y tu allan i wleidyddiaeth, Rhydychen, Coleg Iesu, a etifeddiaeth ei daid a’i dad – niwtral bron fel ffigwr? 

EOW: Y canfyddiad ohono fo oedd ei fod yn niwtral, ag eto o ran y gynulleidfa Gymraeg roedd e’n uchel iawn ei barch.

DSJ: Beth am y penderfyniad am roi Cymraeg ar ddechrau’r araith – oedd na unrhyw gwestiwn ynglŷn â hynny? Roedd y logo yn dechrau gyda ‘Wales’?

EOW:  Yn wir, a wedyn doedd na ddim cwestiwn. Roedd hynny yn hollol glir, ond mewn ffordd roedd y logo yn helpu, oherwydd bod ni wedi dangos bod na ‘rhywbeth am ddod i fyny i chi’, drwy ddefnyddio’r logo. Roedd unrhyw un a oedd yn meddwl mai dim ond Cymraeg oedd am fod yn gwybod o’r cychwyn mai nid hynny oedd y drefn.

DSJ: Ymlaen? 

EOW: Iawn!

DSJ: Oes ’na rhywbeth i ddweud am Sbec?  

EOW: Rwy’n credu bod Sbec yn un o’r pethau mwyaf arwyddocaol, a wnaeth pethau ddiystyru dros y blynyddoedd. Y gair pwysig oedd ‘partneriaeth’; nid ryw gorff newydd neu sefydliad newydd oedd S4C, ond mai partneriaeth oedd e. Roedd Sbec and anferth o bwysig, a un o deals Owen oedd Sbec. Dwi ddim yn cofio sut ddaeth y teitl – o un o’r think tanks a gafon ni ar y pryd – Ann Beynon oedd yn arwain Sbec.

Y cytundeb oedd bod TV Times – sef y cylchgrawn mwyaf poblogaidd yng Nghymru – yn gorfod, o dan eu cytundeb i’r IBA, rhoi un tudalen Gymraeg yn yr issue ‘Wales and the West’. Roedd hyn yn ypsetio TV Times, oherwydd bod un tudalen cyfan yn costio uffarn o lot o bres mewn hysbysebion colledig, yn enwedig i’r gorllewin. Roedd e’n ypsetio pobl yn y gorllewin bod e yna o gwbwl, ond roedd rhaid ei roi e fyna oherwydd dyna oedd y franchise.   Y dêl wnaeth Owen oedd, tase chi yn cael rhyddid i beidio cael y dudalen Gymraeg, byddech chi yn fodlon cyhoeddi cylchgrawn ar wahan sydd dim ond yn cael ei ddosbarthu efo TV Times yn Nghymru? A dyna ddigwyddodd, ond dwi ddim yn gwybod pa mor hir a ddaliodd y cytundeb yna. Roedd rhan fwyaf o bethau yn dechrau dadfeilio yn 1988, fel oedd y sianeli newydd yn dod i fewn; Sky oedd y broblem. Tra oedd ganddot ti bedwar sianel, mi oedd trefniant Sbec efo’r TV Times dal yn bwysig, ond mi aeth ar goll yn 1988-89. Ond roedd cyfraniad Sbec yn aruthrol.

DSJ: Wrth edrych ar y dudalen yna, a logo S4C fyna gyda Sbec, a mae’n edrych fel rhywbeth sydd wedi’i sefydlu’n gadarn, a wedyn mae’r syniad yma o gylchgrawn cenedlaethol bron, a bod un ddim yn digwydd – ac wrth gwrs wnaeth Y Byd ddim digwydd cwpwl o flynyddoedd yn ôl – oedd e’n teimlo fel cychlgrawn cenedlaethol? Oedd yna erthyglau yn Sbec gyda’r amserlenni? 

EOW: Oedd, oedd. Roedd Sbec yn operation eithaf mawr. Paddy French wnaeth redeg o, y boi oedd yn ’sgwennu storis cas am bobl enwog ag ati – fe oedd y boi oedd yn gwybod sut oedd rhoi pethau fel hyn at ei gilydd. Mi wnaeth o roi pitch i fewn amdano fo, a mi wnaeth o ennill y pitch. Roeddwn i’n ymbwybodol iawn bod ni yn dechre rhywbeth efo Sbec oedd erioed wedi bod. Cylchgrawn Cymraeg, hefo digon o Saesneg ynddo fo i adael i bobl gallu ddilyn o, efo erthylgau, efo lot o luniau, glossy, efo cylchrediad o tua 300,000.

DSJ: Oedd yna rhywbeth tebyg yn y Gymraeg ar y pryd? 

EOW: Dim.

DSJ: Dim?  

EOW: Wel, yn sicr ddim efo’r cylchrediad. Roedd ganddot ti rai efocylchrediad o rai cannoedd – 800-1000 oedd cylchgronau ar y byd pop a ballu. Ond roedd hwn yn 300,000. A mae hyn ymhell cyn Golwg. Hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg, lliw, glossy cyntaf efo cylchrediad o’r math yna. Roedd e’n anferth. Ac wrth gwrs gaethon ni hi am ddim!

Dyna oedd un o gyfraniadau yr ymgyrch ar y dechrau; roedd pawb yn ofni dipyn bach o ran pethau ieithyddol; roedden ni dal yn gallu talu’r cerdyn ‘mae’n bwysig cael hwn yn iawn; mae’r llyodraeth wedi mynd efo hwn, mae’n rhaid i chi fynd efo hwn oherwydd bod un o’ch cwmniau chi – sef HTV – yn ddibynnol ar yr incwm chi’n gael ganddon ni’.

Mi oedd na rhywfaint yn y Radio Times, ond mi bwdodd y BBC, a’r cwbwl a gafon ni yn y Radio Times oedd listing, a’r unig amser oedd yna wybodaeth oedd ar y rhaglenni oedd y BBC yn ei wneud. Gwnaeth hynny ddim lles i’r Radio Times, a rwy’n credu for TV Times wedi cynyddu ei gylchrediad yng Nghymru. Roedd pobl yn cael Sbec am ddim!

Dwi ddim yn gwybod beth oedd y pris wrth gymharu efo cylchgronnau Cymraeg arall ar y pryd. Yr unig gylchgrawn wythnosol ar y pryd oedd Y Faner. Roedd gen ti gylchgronnau misol, ond roedd rhaid i ti dalu. Dim on 50c oedd Sbec, a roeddet ti’n cael yr holl bethau Saesneg hefyd! Roedd honna’n dêl ffantastig, a dim ond Owen fyddai wedi medru gwneud y dêl yna, yn siarad efo Bob Phillis, oedd cadeirydd TV Times a wedyn yn gadeirydd Guardian Media Group wedyn. Roedd Bob yr un oed a fi – yn fengach na Owen – ond roedd Owen, am bob dim fel yna, roedd e’n hollol gysurus.

DFS: ymlaen? 

EOW: Ie, ymlaen!

Roedden ni wedi ffeindio allan drwy ymchwil bod HTV wedi colli lot o wylwyr. Doedd pobl ddim yn licio ffordd ffurfiol y BBC o gyflwyno rhaglenni. Doedd ganddo ni ddim syniad faint o hysbysebion oedd ganddo ni, fel oedd hi’n digwydd dim llawer oherwydd streic gan Equity yn erbyn y bedwaredd sianel, felly doedd ’na ddim hysbysebion ar Channel 4 na S4C am gyfnod ar wahân i bethau fel Midland Bank a Emrys Ivans druan, roedd o’n dod i fyny trwy’r amser. Ond wrth gwrs roedd hysbysebion yn bwysig i ni. Ond ar ben hynny, roedd y BBC wedi dweud nad oedden nhw yn hapus i gael hysbysebion o fewn 3 munud i ddechrau neu diwedd rhaglen BBC.

Roedd HTV wedi defnyddio cyflwynwyr in-vision ond wedi mynd off hwnna diwedd y ’70au, so mi benderfynon ni atgyfodi’r peth, a mae’r ‘peth Cymraeg’ i wneud oedd rhoi cyflwynwyr i’r gynulleidfa. Un profiadol, a dwy hollol newydd, gan roi hyfforddiant a phob dim iddyn nhw. Parablwyr, oherwydd hwyrach fyddai rhaid iddyn nhw siarad am 3 munud! Doedd ’na ddim cwestiwn o fod yn sicr ynglŷn â faint o amser byddai angen i’r cyflwynydd siarad. Dyna’r rheswm pam mae’r tywydd yn cael ei wneud gan S4C. Roedden ni’n cael 25 o funudau o newyddion, doedden ni ddim eisiau dechrau’r rhaglen nesaf cyn 7.30, yr unig ffordd gallwn ni lenwi’r 5 munud yma oedd drwy wneud y tywydd ein hunain, wedyn toriad masnachol cyn 7.30 a wedyn ymlaen i’r rhaglen nesaf. Wedyn y pobl oedd yn gwneud y tywydd oedd y cyflwynwyr, oherwydd allwn ni ddim fforddio gwasanaeth tywydd ar wahân, felly map a sticio siapiau wnaethon ni fel pawb ar y pryd; rwy’n sicr bod ni’n talu rhywfaint am y wybodaeth.

Ond dyna pam defnyddiwyd cyflwynwyr in-vision, er mwyn i ni gael rheolaeth llwyr dros y sefyllfa, ond hefyd o bob dim oedden ni wedi ffeindio allan o’r focus group, bod y Cymry Cymraeg eisiau rhywun in-vision, a dyna pam mae nhw yn yr awr gyntaf yma.

DSJ: Pam roedd y Cymry yn hoff o gyflwynwyr? 

EOW: Mwy cartrefol – pobl ni yw’r rhain. Ddim rhyw hen leisiau yn Llandaf.

DSJ: Rwy’n cofio gwylio’r awr gyntaf yma fel aelod o’r gynulleidfa, yn swyddfeydd cwmni cynhyrchu’n nhad – Sgrin ’82 – yn Cambrian Chambers yn Aberystwyth, a theimlo dyfodiad y gofod newydd yma, ac wrth gwrs dyna un o’r pethau mae cyflwynydd teledu yn gwneud yw creu y teimlad eich bod chi yn yr un ’stafell?

EOW: Roedd hynny yn hollol fwriadol – doedd ddim desg gan y cyflwynydd.

DSJ: Fel y cyflwynydd Paul Coia ar ddechrau Channel 4, heb ddesg hefyd, ac roedd hynny’n anarferol ar y pryd?

EOW: Ac mi gethon ni ein beirniadu yn llym, oherwydd hynny. Pam bod mor amharchus? Bod ni ddim wedi rhoi y gwahaniaeth yna, bod pobl S4C yn bwysig, a mai dyna oedd y bwriad. Roedd angen i ni ddangos unwaith i ni wadd pobl i fewn, roedd angen dangos yr arth fach, te. Hwn oedd y buddsoddiad mawr a wnaethpwyd – nid y SuperTed ei hun – ond mewn sefydlu stiwdio animeiddio. Mae Chris Grace wedi gwneud lot ar y cefndir yma a Chris ddaru yrru hwnnw ymlaen, roeddwn i yn gwneud yn sicr bod e ddim yn ypsetio gormod ar yr Awdurdod pan roedd y ffigurau yn dangos faint a wariwyd yn y cyfeiriad yna.

DSJ: Pam oedd animeiddio mor bwysig i ddechrau S4C? 

EOW: Dau beth. Roedden ni’n gwybod bod ni am angen lot o raglenni plant. Yr unig ffordd i gael lot o raglenni plant y dyddiau hynny oedd drwy gartwnau. A wedyn y peth athronyddol oedd – os wyt ti’n gweld rhywbeth sy’n perthyn i ti, os yw SuperTed yn siarad Cymraeg cyn siarad unrhyw beth arall, mae’n gwneud pob dim arall yn gredadwy hefyd. Un o’r problemau mawr oedd, gafon ni gynnig da iawn gan y BBC i brynu SuperTed, efo ffenestr go dda i ni gael dangos e yn Gymraeg cyn iddi fynd allan yn Saesneg, a mi wnaethon ni Wil Cwac Cwac ar yr un pryd i wneud y dêl i weithio. Roedd e’n rhoi statws i’r iaith i’r plant mewn ffordd.

Ond yr ail beth oedd bod Newport College of Art, fel oedd e, yn bridio’r animeiddwyr yma, a bod nhw i gyd yn mynd i Lundain pob blwyddyn. A felly un o’r rhesymau bod S4C yn ei wneud e’n economaidd oedd troi nhw yn ôl, bod angen tynnu nhw nôl i weithio â S4C. A wedyn roedd hynny yn ffitio mewn efo ein naratif gwleidyddol ni, bod ni wedi dod a diwydiant yn ôl i Gaerdydd ddylai byth wedi mynd i Lundain. Yn sicr, arbrawf tair blynedd oedd S4C i fod, ond roedd SuperTed mwy neu lai yn sicrhau dyfodol y sianel heibio i statws arbrawf o’r cychwyn, bod y peth am bara, oherwydd yn economaidd wedyn doedden nhw ddim am is-rhannu’r peth rhwng gwahanol sianeli.

DSJ: Mae SuperTed yn cyfuno llawer o bethau felly. Mae’n cyfuno y peth gwleidyddol am ddod a’r Eingl–Gymraeg o Gasnewydd yn ôl i ddiwylliant Cymraeg, creu rhywbeth gyda gwerthoedd cynhyrchu uchel iawn, efallai gyda costau is na chreu diwydiant ffilm nodwedd, atynnu pobl ifanc a felly cynulleidfa y dyfodol, cyrraedd plant ifanc ac felly’n gweithredu mewn modd addysgiadol gyda’r statws sy’n dod o hynny. Wedyn ar yr un pryd mae’r peth economaid yma ynglŷn â gwerthu SuperTed i wledydd dros y byd gyda troslais gwahanol. Felly mae S4C yn creu rhwybeth gyda gwerth economig, gwerth diwylliannol a gwerth gwleidyddol i gyd ar yr un pryd.  

EOW: Yn wir. Mi werthon ni SuperTed dros y lle. Aethon ni a 40 eiliad cyntaf SuperTed i Cannes mis Ebrill 1981, a mi werthon i o i 23 o wledydd a oedd yn fodlon dweud ‘we’ll have it when it’s ready’. Unwaith oedd y peth yn barod roedden ni’n anfon e drosodd. Mi gyrhaeddon ni bwynt lle oedd na ddadl wedi codi rhwng yr Inland Revenue a’r IBA ynglŷn â statws ein incwm ni. Roedd incwm S4C a oedd yn dod o hysbysebion yn cael ei laundro gan yr IBA, a’r cwestiwn oedd, a ddylai yr incwm yma gael ei drethu? Y penderfyniad oedd, ‘nag oedd’, am nad oedden ni yn gwneud mwy na hanner miliwn o werthiant unrhywbeth. Felly ddechreuon ni rhywbeth a elwir y ‘Ymddirideolaeth Ddarlledu’, a mi aeth incwm SuperTed i’r Ymddiriedolaeth Ddarlledu, a mae hwnnw yn rhoi grantiau pob blwyddyn hyd at heddiw, a felly mae’r hen arth fach yn dal i noddi heddiw. Aeth SuperTed byth i super-profit, ond mae’n cynhyrchu tua £20,000 y flwyddyn, o bot o £300,000.

EOW: Mae holl hanes SuperTed yn diddorol; sut gollon ni siawns i wneud llawr iawn o arian allan ohono, oherwydd bod nhw eisiau symud y cynhyrchu i India i fod yn rhatach, a mi wnaethon ni wrthod. Roedd hynny rhywbryd yn ystod y 10 mlynedd cyntaf, efallai pum mlynedd cyntaf. Mi fyddai wedi dod a lot o arian.

EOW: Rhywbeth od yw hwn – roedden ni wedi ffeindio hwn yn Cannes, rhyw gymeriad, pyped ond yn cael ei weithio gan gyfrifiadur; Ianto oedd enw’r pyped, dwi ddim yn credu ei fod e wedi para’n hirach na’r noson gyntaf!

DSJ: Mae’r tôn yn gartrefol iawn; bron yn amatur!  

EOW: Doedd ganddo ni ddim byd i fynd yn lle hysbysebion, y cyfan oedden ni’n gallu gwneud oedd pethau fel yma. HTV oedd yn gwerthu’r hysbysebion. Oherwydd streic yr actorion, yr unig ffordd oedd modd i Midland Bank hysbysebu – a nhw oedd banc S4C wrth gwrs! – oedd i Emrys Evans, Pennaeth Cymru y Midland Bank, a dwedodd e, ‘fe wnai o!’.

DSJ: Mae hynny bron yn well? Yn ddamweiniol? 

EOW: Roedd pawb yn y sefydliad yn nabod Emrys, oherwydd ei fod e’n drysorydd yr Eisteddfod, an annibynnwr mawr, felly byddai Emrys wedi bod yn rhywun derbyniol tu hwnt i’r gynulledifa. Ond y broblem oedd, mai Emrys oedd un o’r unig hysbysebion a oedd ar gael ar y pryd, a felly oedd e’n dod ymlaen trwy’r amser!

A wedyn dyma ni hysbysebiad yr Eisteddfod Genedlaethol – dwi ddim yn credu bod ni wedi talu am hwn!

Roedd yr ychydig arian a oedd yn dod mewn o’r hysbysebion yn mynd mewn i’r pot a oedd yn cael ei rannu trwy’r fformiwla wedyn. Roedd e’n fformiwla cymleth; 17% o holl incwm hysbysebu Prydain – sef Channel 4 a ITV – yn mynd i’r bedawredd sianel, ac o’r swm yna roedd Channel 4 yn cael 80% a ni yn cael 20%, felly 20% o 17%, 3.4% neu rhywbeth felly.

Nawr roedd yr awr yn mynd ymlaen i esbonio ein perthynas ni â Channel 4. Be mae hwn yn dangos oedd pa mor agos oedd Owen a Jeremy Isaacs. Mae Jeremy wedi ymddeol i rywle anghysbell uffernol, a mi ddaeth i angladd Owen Edwards, gorfod trafeilio dros ddeuddydd, ar y tren ac aros fyma ac acw. Roedd y darn yma cyn y sgwrs rhwng y ddau yn dangos y math o raglenni a oedd yn cael eu dangos ar Channel 4, ond bod ni’n dangos nhw fel rhaglenni a fyddai ar S4C oherwydd Channel 4.

DSJ: Mae hwnna yn ddarlun o Channel 4 mawr, a S4C bach, a bod Jeremy Isaacs yn dod ymlaen yn siarad Cymraeg yn angredadwy … 

EOW: … a mae hwn yn 1982, tair blynedd ar ôl gwrthod datganoli a bob dim. Yn y cyd-destun yna…

DSJ: … roedd hwn yng nghyd-destun wedi pleidlais 1979, yng nghyd-destun Thatcher a’r Torïaid cynnar-80au, yng nghyd destun y Torïaid yn newid eu meddyliau ynglŷn â ffurfio S4C, yng nghyd-destun Gwynfor Evans a’i fygythiad; mae’n amser eithaf ymfflamychol, gyda pryderon ynglŷn â trais a’r IRA ag ati? 

EOW: Roedd y cyd-destun yn ddychrynllyd o beryglus, ac os oedden ni heb fynd ymlaen gan bwysleisio bod ni’n rhan o rhwybeth mwy, byddai hynny efallai wedi bod yn broblem. Cawsom ein beiriniadu am wneud, am gael Jeremy Isaacs yn y noson gyntaf o gwbwl. Ond dyna pam roedd rhaid ei gael e mewn un ffordd. Dyna oedd y broblem fwyaf oedd gynno ni, bod ni yno i wneud gwasanaeth teledu, ddim i wireddu breuddwyd Gwynfor Evans – sianel deledu fydd hi, ac os yw hynny yn gwneud yr holl bethau dyle fo, mi gewch chi’r canlyniad iawn beth bynnag. Ond sianel deledu yn gyntaf, a rydyn ni’n rhan o bartneriaeth, a rhan o’r bartneriaeth honno yw y dyn yma sy’n fodlon dod ar S4C, ar fonitor bach a siarad yn Gymraeg.

DSJ: Yw hi’n deg dweud bod llawer o’r negesuon a roddwyd yn yr awr gyntaf yma ynglŷn â lleddfu y gwreichion a godwyd dros yr ymgrych am y sianel? 

EOW: Oedd e ynglŷn â dweud wrth y genedl a oedd yn disgwyl mwy, beth oedd realiti’r sefyllfa – dyma beth ydych chi’n ei gael. Ond, hefyd rydyn ni’n rhan o rhwybeth llawer mwy, a mae gennom ni ffrindiau ym mhob man. Reit o’r dechrau roedden ni eisiau rhoi y syniad bod ni yn bartneriaeth efo sianel deledu, a dim arbrawf – rydyn ni’n gwneud rhywbeth a fydd yn para.

DSJ: Oedd ’na deimlad go iawn bydde S4C yn para am tua tair mlynedd a wedyn yn diflannu? 

EOW: Yn sicr, roedd ’na  lot o bobl yn bancio ar hynny. Gwleidyddion – Llafur yn arbennig – a’r BBC.  Doedd e ddim yn beryglus i Jeremy Isaacs wneud hyn, ond yn sicr doedd dim rhaid iddo fe. Roedd yna lot o gyd redeg rhyngom ni a Channel 4, roedden ni’n agos iawn. Roeddwn i’n mynd pob mis i Lundain i’w cyfarfod comisiynu nhw, a roeddwn i’n dweud wrthyn nhw beth oedden ni wedi comisiynu, a roedden nhw’n dangos lot o’n stwff ni efo is-deitlau ar y cychwyn! Roedden ni’n rhoi pethe am ddim, ac roedd Jeremy Isaccs yn hoff iawn o ryw ffilmiau gwledig a pethau felly, ac redden nhw’n dangos nhw yn Gymraeg efo is-deitlau.

Os oedd na ran risqué ofnadwy yn mynd allan, fydden nhw’n ffonio ni ar y noson a dweud ‘be careful on this one you can edit the beginning of part two because we think we might be in trouble on it’, ond wnaethon ni erioed, oherwydd y reddf oedd – yr hen beth ITV – unwaith oeddet ti’n torri ranks roeddet ti’n rhoi nhw mewn twll. Felly os oedd rhywbeth enllibus, roedd e’n mynd allan gen ni hefyd. Os oedden nhw’n fodlon talu, roedd hynny’n OK. Ond doeddwn ni ddim am dynnu’r rỳg o danyn nhw.

DSJ: Oedd na elfen o ‘Cymru bach’ ynglŷn â’r fath gyngor? 

EOW: Na, dwi’n meddwl mai cyfeillgarwch oedd e. Paul Bonner oedd Pennaeth Rhaglenni Channel 4 ar y cychwyn, ac roedd o a finnau yn ffrindiau. Roedd o’n gweld S4C, oherwydd bod ganddo dŷ yn ymyl Exeter, ac roedd y signal yn dod drosodd. Felly ar y penwythnos bydde fe’n gweld S4C, a bydde fo ar y ffôn yn dweud ‘a bit rubbish on Saturday night’!  Oedd hi’n berthynas reit agos, ac roeddwn innau’n mynd i’r sesiynau comisiynu yma, a roedden nhw ar lefel mor uchel. Wel, roedden nhw yn cael gwneud rhywbeth gwahanol, ond roedd rhaid i ni fod yn ofalus, bod ni ddim, yn enwedig ar y dechrau. Nhw oedd yr ‘alternative’ a ni oedd ‘the only’.

DSJ: Oedden nhw’n sylweddoli hynny felly? 

EOW: Oedden. Roedden nhw’n deall i’r dim. Roedd Jeremy Isaccs yn dod yn aml i dreulio’r noson, yn cyrraedd am tua pump, a wedyn yn eistedd drwy’r nos efo Owen, yn edrych, a bwyd yn dod i mewn. A bydden ni’n trafod ble oedden ni’n mynd, oedd yna bethau peryg ddyle ni osgoi, neu oedd ’na rywbeth y ddylwn y dylen ni [?} ni wneud mwy ohonyn nhw. Roedd hi yn berthynas arbennig, a hollol wahanol i’r berthynas draddodiadol rhwng darlledwyr.

Y peth arall oedd hyn yn arwyddo oedd – a gymaint i Owen a unrhywun arall – doedd S4C ddim yn regional broadcaster, roedd e’n network broadcaster, ond mai yng Nghymru oedd y network. A wedyn roedden ni’n rhan o rwydwaith efo Channel 4, yn penderfynu pa raglenni oedd yn mynd allan pryd. Partneriaeth oedd e. Yn aml oedden ni yn mynd allan yn fyw efo nhw, os oedd y rhaglen yn iawn. Ond gallet ti ddim gwneud delays ti’n gweld; doedd y dechnoleg ddim yna, y cyfan oedd gen ti oedd VTs. Roedden ni’n recordio popeth a oedd yn dod lawr y lein o Channel 4 – gallwn ni ddim dechre fo 10 munud yn hwyrach, roedd hi’n ganol yr 80au cyn i ni fedru gwneud hynny. Naill ai oedden ni’n efo nhw, neu oedd e’n mynd allan ar noson arall.

DSJ: Felly roedd e’n fyw i gyd mewn ffordd – hynny yw, roedd rhywun yn gwasgu botwm, bod ’na rhywun yn gwylio beth oedd yn mynd allan. 

EOW: Roedd S4C yn fyw drwy’r amser, oedd oherwydd y dechnoleg. Roedd pob rhaglen yn mynd allan o dâp o’r ganolfan.

DSJ: Oeddech chi’n teimlo fyddai ’na densiwn rhwng y rhaglenni a oedd yn dod o Channel 4 a’ch rhaglenni chi? 

EOW: Roedd e’n [o’n?] anochel. Roedden ni’n trio chwilio am y gynulledifa fawr, a Channel 4 yn trio chwilio am y niche. A wedyn roedd yna deimlad bod angen i ni roi hynna i gyd allan yn yr awr gyntaf – gan gynnwys rhyw fath o flas o’r gwahaniaeth rhwng S4C a Channel 4 – er mwyn iddynt wybod yn union beth i ddisgwyl.

DSJ: Oedd ganddoch chi syniad o faint o bobl a wyliodd y awr gyntaf?

EOW: Oes, oes ma na ffigyrau – rhyw 200,000 o dan yr hen ffordd o fesur. Roedd hynny yn eithaf parchus. Yn is na BBC1, ond yn uwch na BBC2, oedd roedd e’n eithaf parchus.

Nawr ni’n mynd mewn i fontage yn dangos dewis o raglenni, yn pwysleisio bod ’na raglenni pobolgaidd hefyd. Roedden ni wedi recordio hwn y diwrnod cynt, yn y prynhawn.  Dyna Alun Armstrong, y cynhyrchiad theatraidd o Nicholas Nickelby.  Roedd y cyflwynwyr yma yn cael eu beriniadu; y lein hefo nhw oedd bod y ddwy gyflwynwraig yn newydd – wel, oedd Siân wedi gwneud dipyn o radio. Aeth Rowena i gynhyrchu ar ôl dwy flynedd, a mae hi yn dal i gynhyrhu; ond roedd hi o’r gogledd, a Sian o’r de …

O, gwranda ar hwn te…

DSJ: … beth yw hwn te? 

EOW: Arhosa di…

DSJ: … doeddwn i ddim yn disgwyl hynny! Adrodda’r stori te! 

EOW: Nid y fo yw’r unig un! Pan benderfynon ni werthu SuperTed yn Cannes, roedd rhaid i ni gael ryw stondin i fynd arni, y stondin roedd Chris Grace a finne yn eu nabod oedd TWI [Trans World International], cwmni McCormak. Y nhw oedd yn edrych ar ôl yr holl sêr yma, a wedyn daeth y cynnig yma, ‘would you like Bjorn Borg, to say good luck to S4C?’. Pam lai?

DSJ: Pwy gynhyrchodd y clip te? 

EOW: TWI! Pan ddaeth yr holl stwff yma o TWI, roedden ni’n gwybod bod nhw wedi gwneud rhywbeth, ond doeddwn ni ddim yn gwybod beth oedd y cynnwys yn mynd i fod! So roedd gen ti Bjorn Borg, ac os cari di ’mlaen rwan, gei di Miss World yn dweud pob hwyl i S4C!

DSJ: Beth oedd natur y cysylltiad rhwng S4C a TWI te? 

EOW: Nhw mewn gwirionedd oedd yr asiantaeth oedd yn gwerthu SuperTed. Diolch iddyn nhw y cyrhaeddon ni’r gwledydd a oedd yn gwerthu SuperTed. Roedd ganddo ni gornel o’i stondin nhw yn Cannes, a gwnaethon nhw hwn so bod ni’n aros efo nhw – gallet ti ddim gwrthod wedyn! So beth gaethon ni oedd y mini-docs yma efo pobl a oedd yn honni cysylltiad â ni, ac yn dweud pob hwyl i S4C! Felly, mae hwnna yn hollol bananas.

DSJ: Ydi – dwi’n disgwyl i Dewi Pws neidio allan a dechrau chwarae tennis gyda Bjorn Born unrhyw eiliad! Mae hwn yn edrych fel arwydd arall i fi. 

EOW: Mae o’n arwydd. Doedd gynnon ni ddim problem i’w gynnwys o, achos bod e’n cadarnhau y neges mai nid sianel fach ydyn ni, rydyn ni allan fynna, yn cysylltu gyda’r byd, peidiwch a’n cyfyngu ni.

DSJ: Felly i ryw raddau mae hwnna yn cyd-fynd â neges Channel 4, gyda chwaraeon amgen – Bjorn Borg yn ralio! – a hefyd bod Borg yn siarad Swedeg gyda Cymru, nid dod trwy’r Saesneg i ni.  

EOW: Unwaith cyrhaeddodd y stwff, gafon ni’r drafodaeth – ‘ydyn ni jyst am gael gwyneb Bjorn Borg yn dweud pob lwc i S4C?’, ond diawch, pam lai gadael iddyn nhw gael ei dogfen byr mewn hefyd.

DSJ: Oedd hynny ychydig yn ddamweiniol? 

EOW: Hollol! Wnaethon ni ddim eistedd lawr a dweud ‘w, mae’n rhaid i ni gael Bjorn Borg’. A wedyn gafon ni Terry James yn dweud hwyl fawr i S4C. Mae’n debyg mai drwy TWI byddwn ni wedi cael Terry hefyd. Roedden ni’n sicr eisiau sefydlu lle Cymru yn y byd, bod Cymru wedi mynd allan i Hollywood a llwyddo. Roedd hwnna yn fwy bwriadol. A dyma Miss World yn dod…

DSJ: Yw hi am ddweud gair?

EOW: Ddim yn syth ar ôl ennill – dim dyna oedd y peth cyntaf i ddod i’w meddwl hi!

DSJ: Mae’n ddiddorol natur dewisiadau TWI a chithe – Bjorn Borg, Miss World, Camelot – mae nhw yn y mainstream, ond gyda thema Gymreig gyda Arthur, a felly mae hwn yn rhoi teimlad o sut mae S4C am fod. Dyw Terry James ddim yn enwog am fod yn gyfarwyddwr theatr avant-garde, a bod hwnnw yn rhan o’r angen i S4C gyflenwi rhywbeth i bawb? 

EOW: Na fo, ac i fod yn boblogaidd hefyd. Rwy’n credu fod y clipiau yma hefyd wedi bod yn bwysig i ni er mwyn peidio bod yn debyg i’r BBC. A bod ni eisiau dangos bod ni’n gallu bod yn anghyfrifol.

DSJ: Oedd hynny’n rhan o’r dêl gyda Channel 4? 

EOW: Oedd. Ymlaen â ni. Mwy o hysbysebion ar y sgrin rwan; heb actorion wrth gwrs; a fo oedd y llall, Ken Rogers, o ‘Hyper Value’, a wnaeth ei hysbyseb ei hunan. Mae’r creadur wedi marw erbyn hyn. Showman go iawn! A nawr allan a ni.

EOW: Wel, mae hwn bach yn fwy obvious; rwy’n siwr bod na arwyddocâd mawr i hwn.

DSJ: Mae e’n eithaf asbwrd eto, ac efallai darlun o gefn gwlad mewn ffordd eithaf gwahanol. Ond, mae’r gân yn draddodiadol, a mae na gôr o ferched yn canu, a mae yna eifr, ond doedd na ddim esboniad, dim troslais, dim graffeg; mae’n olwg od ar rywbeth traddodiadol – ydw i’n darllen gormod mewn i’r peth?

EOW: Mae’n bosib bod ni wedi meddwl bod angen dod adref ar ôl rhai o’r pethau eraill sydd wedi bod yn gynharach yn yr awr. Hefyd wrth gwrs, wrth feddwl am y probelmau â hysbysebion, oedd y fath doriad yn ddefnyddiol i reoli’r amserlen.

DSJ: Mae geiriau Rowena wedyn, ynglŷn â’r posibiliad o doriadau cerddorol eraill o’r math yma, a wedyn y datganiad ynglŷn â pharodrwydd S4C i wrando i ‘chi’ y gynulleidfa, yn ategu’ch teimlad chi mai dod yn ôl i’r gynulleidfa oedd pwrpas y gân afr.

EOW: Yn union, a nawr i ffwrdd a ni i vox pops.

Cynhyrchwyr annibynnol oedd yn gwneud y vox pops yma, efo clipiau o raglenni annibynnol rhyngddynt. Roedd hefyd yn gyfle i sôn am y sector annibynnol. Os oedden ni am ddangos clipiau o raglenni a oedd gennym ni yn y bag yn barod i ddod, rhaglenni annibynnol fyddai rheini i gyd. Yr argraff oedden ni’n gobeithio byddai pobl yn cael ei gadael â oedd ‘dyma oedd pobl wedi bod yn gofyn am’. Hwnnw oedd y peth newydd, yn dod o’r bobl, yn hytrach na’r uchelfannau. Sôn am wrestlo er enghraifft; roedd honno at ddant cynulleidfa eithaf bach, ond cynulleidfa a fyddai’n gwylio dim byd arall ond wrestlo ar S4C. Doedden ni ddim yn gwybod pa mor gyfyng oedd y gynulleidfa am fod.

DSJ: Roedd na gynulledifa fawr ar gyfer wrestlo ar ITV ar y pryd, nagoedd?

EOW: Oedd, a’r un fath o gynulleidfa roedden ni’n cael, a wedyn roedd Orig yn ffigwr mawr. Y darn boncyrs oedd Bjorn Borg, Miss World, a nawr roedden ni’n dod nol yn werinol.

DSJ: Gyda interstitials ag ati – os mai dyna be galwyd nhw – yn yr oes analog yna, lle doedd dim time-shift yn bosib, ond wrth gwrs erbyn hyn mae interstitials wedi newid a wedi dod yn fath o frandio – felly oeddech chi’n arbrofi gyda hynny hyd yn oed yn 1982? Mae’n ddiddorol sut mae interstital ‘oes gafr eto’ yn symud ni o Miss World, i gefn gwlad, a wedyn i vox pops – mae hwnna yn eitha cyfuniad. Mae’n ddiddorol bod y vox pops yma ar leoliad, a’r rhaglenni sydd yn cael ei clipio rhynddynt hefyd ar leoliad – arwyddocaol?

EOW: Ydyn – roedd rhan fwyaf o raglenni Cymraeg cyn S4C yn bethau mewn stiwdio, ac roedd hi’n bwysig pwysleisio annibyniaeth a lleoliad y rhaglenni newydd ma.

DSJ: Ah, dyma Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan – oes na arwyddocâd bod y rheini yn y darn yma o’r awr?

EOW: Wel, mae ’na arwyddocâd, er dwi ddim yn siwr fod na arwyddocâd i’r lleoliad union yma o fewn yr awr. Ond, beth wnaethon ni oedd cymryd brand Syr Wynff – gan wybod nad oedd y brand wedi chwythu’i blwc er bod y BBC wedi penderfynu stopio gwneud nhw. Roedden ni wedi gwneud ffilm ar gyfer y Bwrdd Ffilmiau efo’r ddau ohonyn nhw, a roedd y ddau wedi bod yn dweud bod nhw eisiau gwenud y rhaglen eu hunain, ddim eisiau rhywun arall i gynhyrchu, ni’n gwybod beth sydd eisiau. Felly yr arwyddocâd yw bod y brand yma wedi cael ei gynhyrchu ganddyn nhw eu hunain, ac mai nid hierarchy BBC na ITV oedd y tu ôl i hyn; ‘rydych chi’n gwybod beth chi eisiau, gwnewch e eich hunain’.

DSJ: Felly mae hwna yn rhyw fath o ryddhad i’r ddau o gonfensiynau y BBC?

EOW: Dyna fo – eu cyfrifoldeb nhw oedd y gyllideb, dyna faint o arian sydd gynnon ni, a felly roedd hwnna yn bwysig. Damwain yw bod e yn ffitio i fewn i’r darn yma, er mai hwn yw darn ‘yr annibynns’ o’r awr gyntaf.

DSJ: Beth sy’n ddiddorol am hwn yw bod popeth arall annibynnol yn newydd, tra bod hwn yn frand a ddaeth o’r hen sector oeddech chi eisiau i barhau ar y sianel newydd.

EOW: Doedd y BBC ddim eisiau gwneud e [o?], ond roedden ni’n dal i feddwl bod angen e. Doedden nhw ddim eisiau gwneud nhw i ni, oherwydd bod nhw mor anodd i’w gwneud. Roedden ni wedi wedi cael trefniant gyda’r BBC i gymryd drosodd cynhyrchu’r rhaglen. Feddylion ni, ‘reit risciwn ni nhw’ a’r gwaethaf a gallai fod wedi digwydd oedd 6 rhaglen wael. A os wnaethon nhw gawl o hynny, wel dyna hi.

Ond fel droiodd hi allan, roedden nhw’n fabulous! Mei, rhyw foi o Dyffryn Nantlle oedd yn cynhyrchu nhw, a dyn camera o Fryste, Graham Edgar, a symudodd i fyny i’r gogledd, a fo oedd yn saethu nhw. Roedden nhw’n gwneud nhw am peanuts! Roedd hwnna yn rili Hollywood silent movie style. Rhedon nhw allan o arian i orffen y gyfres – methu fforddio’r set oeddyn nhw isio i wneud cowbois and indians – felly aethon nhw i gyd ar package tour i Sbaen, a mi saethon nhw fo yn Sbaen! Gret te! Duw a wyr beth oedd y sefyllfa ynglŷn â yswyriant – ond doedden ni ddim yn poeni am hynny!

‘Mentro Mentro’ – unwaith eto – rebrand. Wel, Saeneg oedd hwn, ac roedd Ian Dickinson oedd wedi sefydlu brand eithaf cryf ar ITV -roeddwn i’n nabod o o HTV, a thrwy HTV oedd e’n gwneud nhw – o neud pethau boncyrs – mynd i ben Everest heb oxygen, neidio allan o awyren ag ati. Roedd hwn yn gyd-gynhyrchiad, ond roedden ni’n cael first showing.

DSJ: Jackass yr amser?

EOW: Ie! A dyma ‘S-4-sex’ efo Dyfan Roberts!

DSJ: Eto mae hwnna yn dangos cyffyrddiad o Channel 4?

EOW: Ydi, ydi. Dyn budr de! A wedyn dyna ni Joni Jones.

DSJ: Gwerthoedd cynhyrchu uchel iawn. Trueni bod e erioed wedi dod allan ar DVD. [Nodyn: mae bellach allan ar DVD]

EOW: Ie, doedd y Cymry Cymraeg erioed wedi cael rhwybeth fel yna o’r blaen. Rwy’n credu ar y dechre doedden ni ddim yn sylweddoli’r timescales. Roedden ni’n ceisio gwasgu cymaint allan o’r arian ag oedd yn bosib, felly wnaethon ni ddim trefnu i brynu pethe allan.

Rwy’n cofio gweithio ar y montage yma nawr – gweithio arno fo hefo Emlyn Davies, oedd y comisiynydd arall.

DSJ: Be ti’n cofio o’r broses?

EOW: Dwi’n cofio bod ni’n yr arwyddion, a mai y neges fawr oedd bod S4C yn fwy nag ydych chi wedi cael o’r blaen, ac yn wahanol, oherwydd ein bod ni wedi cael sector annibynnol, heb ypsetio’r BBC a HTV, a oedd yn gwneud cyfraniad. Felly y peth hawsa oedd rhoi section annibynns.

O, dyna ni, ryw gyfres ditectif Gymraeg. A dyma Ffred Ffransis.

Rydyn ni nawr yn y stwff heart-rending rwan! Ffred Fransis, y Mab Darogan. Roedd y Mab Darogan yn eitha mawr – cael impact mawr yn Eisteddfod Machynlleth 1981, Theatr Ieuenctid Maldwyn, opera roc am Owain Glyndwr. Ffred Fransis wrth gwrs oedd yr arch-brotestiwr, a oedd wedi bod yn y carchar yn aml dros y sianel, ar y sgrîn efo het heddlu!

DSJ: Oedd na broblem cael annibynns i wneud stwff light ents?

EOW: Beth wnaethon nhw oedd gwneud y stwff traddodiadol hollol o ran light ents – er enghraifft Noson Lawen, a oedd yn tynnu cynulleidfa anferth. Roedd hwn yn llythrennol, mynd i ’sgubor, gosod bêls, rhoi plant ar y bêls rhoi llwyfan lawr a wheel on the talent! Roedd yr annibynns yn gwneud beth oedd wrth eu traed nhw, a wedyn roedd BBC ac ITV yn gwneud pethe stiwdio – dyna oedd y split.  Byddet ti byth ar y cychwyn wedi cael rhywbeth mor soffistigedig allan o’r sector annibynnol a’r rhaglen sgetch yma nawr. Ti’n mynd mewn i 4 machine edit, a set gwahanol i bob sgit, ag ati. Dim ond y BBC oedd yn gallu gwneud hynny. Roedd stwff ITV yn glossy iawn, stwff Ronw, stwff Caryl; glossy, light ents, mwy Prydeinig ac yn cymharu’n ddau efo’r sianeli rhwydwaith oherwydd bod yr un safonau yn bodoli.

A wedyn Eiry Palfrey a Mystig Meg – predictions i’r sianel newydd…

DSJ: Ma ’na eitha teimlad o sbŵff ynglŷn â’r awr gyntaf yma.

EOW: Doedden ni ddim yn ddifrfol iawn!

DSJ: Mae’n debyg bod teledu byw wedi newid erbyn hyn, mae’n llawer yn fwy glossy nag oedd e – oherwydd y dechnoleg – ond mae rhywbeth wedi’i golli yn hynny?

EOW: Oes ma na ryw grit, rwy agosatrwydd wedi’i golli.

DSJ: Ac o edrych ar y awr gyntaf ’ma, doedd dim rhaid iddo fe fod cweit mor gritty a hyn, oedd e? Oedd hyn ar bwrpas?

EOW: Oedd. Er mwyn sefydlu bod ni yn wahanol, bod ni’n agos at y bobl – roedd y ddwy neges yna yn hanfodol i ddod drwodd.

DSJ: Sut oedd hi i wylio’r awr gyntaf ’na eto te?

EOW: Dwi ddim wedi gweld reit drwodd ers 1982, a ddim yn cofio rhai o’r pethau oedd ynddo fo. Dwi mor falch bod ni mor boncyrs. Oherwydd doedd dim byd yn fyna oherwydd bod ni’n teimlo bod rhaid iddo fo fod. Unwaith oedden ni wedi mynd i fewn i’r cyflwyniad ar y dechre, roedd ’na reswm am bopeth, a fel oedden ni’n mynd ati, roedd e’n fwy boncyrs a bizzare. A mi oedd e’n dangos faint o wahaniaeth oedd rhwng S4C a’r ddau ddarlledwr traddodiadol. Gallai ddallt, pam doedd pobl ddim yn impressed; os oeddyn nhw yn disgwyl rhaglen, ac yn hytrach yn cael awr o groeso, doedd ’na ddim lot o strwythur iddi, ond roedd y negeseuon yn dod allan.

DSJ: Wel, mae na strwythur, a ni wedi trafod hynny. Efallai ddim yn glir ar yr arwyneb, ond efallai yn fwy pwerus oherwydd hynny. Byddai wedi bod yn rhy fformiwlaic, a mae ’na ysbryd afreolus iawn i’r sianel o’r edrychiad yma. Dwi bron yn gallu cofio’r teimlad o wylio fe pan oeddwn i’n 10, a’r teimlad oedd bod e’n gynhyrfus, a bod e’n ddechre i rywbeth anrhagweladwy. Bod e ddim yn dwt, bod e yn ddechre, a bod ti ddim yn gallu gweld diwedd y peth, a bod unrhyw beth yn bosib oherwydd yr elfen afreolus yma, a dwi bron yn cofio’r teimlad yma o ‘off a hi’.

EOW: Dwi’n falch o hynny; bod ni wedi llwyddo i greu rhwybeth oedd yn nodweddiadol o S4C. Doedden ni ddim yn drefnus, doedd pethau ddim yn ffitio i fformiwla. Os oedd rhaglen yn werth deugain munud, roedden ni’n gadael iddi fynd am 40 ac yn ymdopi a’r effaith ar yr amserlen yn hytrach ’na dweud ‘na mae rhaid i chi dorri deng munud allan ohoni’. A mi oedd pobl wedyn yn cwyno bod pethe ddim yn dechre ar yr awr ac ar y hanner awr, ond yn y pendraw, y cynnwys sy’n bwysig.

DSJ: Oes na rhwybeth sy’n neidio allan atoch, sy’n annisgwyl?

EOW: Na, fel oedden ni’n mynd ymalen, roeddwn i’n cofio’r drefn. Mi oedd y switch yna o un rhan drwy doriad y hysbysebion, a wedyn yn dechrau efo’r geifr, doeddwn i ddim yn gwybod lle oeddwn i’n mynd efo hynna! Ond efallai bod ni wedi dweud ‘reit – dowch i weld sut fath o rhaglenni Cymraeg gewch chi’.

DSJ: Mi roedd y foment yna yn rhyw fath o bont – o’r abswrditi Miss World ac yn ôl i’r rhaglenni newydd. Hebddo efallai bydde’r ddau beth yna heb asio, wedi edrych yn od.

EOW: Diolch am y pleser o wylio eto!

  • Ewch i wefan Gwerddon – www.gwerddon.cymru – i bori drwy’r erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007