Rhiannon Gwyn o Sling ger Bethesda yw Prif Artist Eisteddfod T, wrth i’r beirniad ddweud ei bod hi “wedi dychryn” gyda safon uchel y gystadleuaeth.

Yn ôl Lisa Eurgain Taylor, daeth 25 ymgais i law, a chafodd hi “bleser llwyr yn mynd trwy’r ceisiadau”.

“Dw i wrth fy modd efo gwaith Rhiannon a’r syniadau tu ôl i’w gwaith cerameg… Dw i wir yn gallu teimlo ei chariad hi tuag at ogledd Cymru ac mae’n cyfleu Eryri yn berffaith drwy ei gwaith.”

Graddiodd Rhiannon gyda gradd dosbarth cyntaf Artist Dylunydd: Gwneuthurwr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2019.

Ar ôl blwyddyn breswyl ar raglen ‘Inc Space’ i Raddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae hi bellach wedi dychwelyd adref i’r gogledd.

Yn ôl Rhiannon, mae cael ei magu yn ardal chwarelyddol Sling ger Bethesda wedi ac yn parhau i ddylanwadu’n gryf ar ei gwaith creadigol.

“Mae fy ngwaith yn archwilio ymdeimlad o le a’r syniad o fod â chysylltiad dwfn â’r dirwedd,” meddai.

“Rwy’n gweithio’n bennaf gyda llechi i greu naratif sy’n adlewyrchu fy ymdeimlad o hunaniaeth trwy archwilio’r cysylltiadau rhwng tirwedd fy nghartref yng Ngogledd Cymru a mi fy hun.

“Mae hyn yn cynnwys archwilio potensial llawn llechi drwy eu cynnwys gyda phrosesau cerameg i greu gwrthrychau sy’n portreadu ffurfiau o’r tir.”

Fel Prif Artist Eisteddfod T mae Rhiannon yn derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Alys Gwynedd sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd ac yn drydydd oedd Kelsey Brooks sy’n astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.