Yn ôl y bardd Dr Sara Louise Wheeler, mae angen dangos i bobol nad oes angen rhaid cael Cymraeg perffaith er mwyn cymryd rhan yn y byd llenyddol.
Yn wreiddiol o Wrecsam, ond bellach yn byw dros y ffin yng Nghilgwri, mae hi’n dweud fod tangynrychiolaeth o bobol o’r gogledd-ddwyrain yn cymryd rhan mewn talyrnau, a diffyg gwaith ganddyn nhw rhwng cloriau cylchgronau llenyddol.
Mae Dr Sara Louise Wheeler yn ysgrifennu colofn i Barddas, ac mae hi’n un o chwe artist sydd wedi derbyn Bwrsari Datblygu Syniad Theatr Genedlaethol Cymru.
Ynghyd â Mared Jarman, Bev Lennon, Ifan Pleming, Emma Daman Thomas, a Kallum Weyman, mae hi wedi derbyn grant ar gyfer artistiaid sy’n uniaethu â nodweddion penodol sy’n cael eu tangynrychioli ym maes y Theatr.
Bwriad y grant yw dechrau datblygu syniad ar gyfer dramâu neu gynhyrchiad theatr newydd gyda chefnogaeth y cwmni.
“Methu coelio’r peth”
Mae gan Dr Sara Louise Wheeler Syndrom Waardenburg Math 1, sef cyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ymddangosiad corfforol a’r clyw, ac mae ei gwaith yn mynd i’r afael â chymeriad sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw drawsffurfio.
O dderbyn y bwrsari, mae hi wedi gweld fod unrhyw beth yn bosib – boed hynny o safbwynt daearyddol, neu o ganlyniad i brofiadau corfforedig.
“Ro’n i wrth fy modd, doeddwn i methu coelio’r peth. Ro’n i’n meddwl, ‘Does dim age range i hwn, dw i’n 42, fedra i fynd amdano’,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n berson canol oed lle mae fy ngyrfa i wedi cael ei strywo, ro’n i’n trio creu un yrfa ac fe wnes i benderfynu mai stwff creadigol ydi be dw i isio ei wneud.”
Bu Dr Sara Louise Wheeler yn gweithio dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor ym maes gwyddorau cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar gymdeithaseg iechyd, nes i ailstrwythuro yn y brifysgol olygu ei bod hi wedi penderfynu mai yn y byd creadigol y mae hi am weithio.
“Felly fe wnes i drïo am y bwrsari, ac mewn ffordd ro’n i’n meddwl ‘Wna i byth glywed ganddyn nhw eto’.
“Wedyn nes i gael trwodd i’r second round, roll up my sleeve, na i drïo’n iawn wan, sgwennu rhywbeth da. Wedyn cael y bwrsari!”
“Just cael go”
“Dw i’n ’sgwennu colofn rŵan i Barddas, ‘O’r Gororau’ ydi enw honno,” ychwanegodd Dr Sara Louise Wheeler.
“Nes i ddechrau oherwydd roedd pobol o’r gogledd ddwyrain, a phobol fel fi, dw i’n byw yng Nghilgwri ochr arall i’r ffin, yn dweud bod angen mwy [ohonon ni].
“Dydych chi byth yn gweld pobol o’r gogledd ddwyrain, dydych chi ddim yn gweld nhw llawer yn Barddas dim ond Aled Lewis Evans a Siôn Aled Owen.
Yn ôl Dr Sara Louise Wheeler, sy’n ceisio meistroli’r gynghanedd a barddoniaeth arwyddiaith ar hyn o bryd, y patrwm yw bod nifer o blant ac oedolion o’r gorllewin yn cymryd rhan mewn talyrnau hefyd, ond bod diffyg cynrychiolaeth o’r gogledd-ddwyrain.
“Yn anffodus dyna ydi’r patrwm,” meddai,
“Mae poblogaeth Gwynedd a phoblogaeth Sir y Fflint yn debyg.
“Mae hi jyst yn achos o adael iddyn nhw wybod ‘Dyda chi ddim yn gorfod bod yn dod o Wynedd i gymryd rhan, dydych chi ddim yn gorfod cael Cymraeg perffaith, just cael go’,” pwysleisiodd.
“Felly, mae hi wedi bod yn anodd, dydw i ddim wedi cael cyfleoedd – mae gen i dyslecsia, ro’n i’n cael ffitiau yn hogan fach, mae’r cyffuriau ro’n i’n eu cael mae’n debyg eu bod nhw wedi stopio fi rhag datblygu ar un adeg, mae gen i Syndrom Waardenburg – ond mae o’n bosib.
“A dyna be mae’r bwrsari yma wedi dangos i ni gyd. Mae’n bosib cael stori, cael syniad, a chael pobol yn credu ynddo chi ddigon i roi grant bach a gweld sut mae hynny’n datblygu.
“A dyna’r cwbl fedrith unrhyw un ofyn amdano. Roedd o’n beth mor naturiol, ro’n i wedi bod yn ‘sgwennu am y cyflwr, gweld y grantiau yma oedd yn gofyn i bobol wneud nene – ‘sgwennu am gyflwr neu disability.”