Bydd yr elw o gân newydd canwr o Abertawe’n mynd at elusen Llamau er cof am ddyn digartref adnabyddus fu farw saith mlynedd yn ôl.

Mae ‘The Ballad of Tea Cosy Pete’ yn adrodd hanes y dyn digartref, sy’n cael ei ddisgrifio gan y canwr Tom Emlyn fel “ffigwr chwedlonol oedd â’r strydoedd yn gynefin iddo”.

Bu farw yn Ysbyty Treforys yn 2015 ar ôl cael strôc yng nghanol y ddinas, lle bu’n byw ers rhai degawdau.

Lansiodd y South Wales Evening Post gronfa goffa yn ei enw yn dilyn ei farwolaeth, ac aeth ychydig o’r arian at gynnal ei angladd.

Pwy oedd Pete?

Roedd y dyn digartref fu’n byw ar strydoedd Abertawe ers 1980 yn cael ei adnabod wrth ei ffugenw, ac ychydig iawn o wybodaeth oedd gan yr awdurdodau wrth geisio darganfod ei enw go iawn adeg ei farwolaeth.

Yn ddisgybl ysgol, roedd e yn yr un dosbarth yn Ysgol Dynevor â Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth.

Tra bod rhai yn ei adnabod fel Brian Burford, roedd eraill yn dadlau mai Brian Boswell oedd ei enw.

Yn dilyn ymchwil gan hanesydd lleol, fe ddaeth i’r amlwg ei fod wedi’i eni’n Brian Boswell, a’i fod wedi mabwysiadu enw partner ei fam – Burford – yn ddiweddarach, wedi i’r teulu symud o Gaerfaddon i Abertawe.

Roedd ganddo frawd – William Burford – a fu farw yn Llundain yn 22 oed.

Y sengl – “rhagrith a digartrefedd”

Mae ‘The Ballad of Tea Cosy Pete’ yn cael ei rhyddhau cyn i Tom Emlyn ryddhau ei albwm yr wythnos nesaf (Hydref 1).

“Roedd e’n ddigartref am nifer o flynyddoedd yng nghanol y ddinas, ac yn aml yn cael ei weld yn cerdded o gwmpas, ac mae gan lawer o bobol yn Abertawe straeon am siarad ag e,” meddai Tom Emlyn ar ei wefan.

“Roedd e’n ddeallus, yn siarad yn dda ac yn groyw.

“Bu farw ychydig flynyddoedd yn ôl, ac felly roeddwn i’n teimlo ei fod e’n haeddu teyrnged, felly ysgrifennais i’r gân hon i’w gofio fe fel bod dynol oedd yma ac sydd bellach wedi mynd.

“Roeddwn i hefyd eisiau ysgrifennu am ragrith a digartrefedd – dw i’n credu bod y geiriau’n egluro’u hunain.”

  • Bydd Tom Emlyn yn perfformio yn COPR Bar yn Abertawe gydag Nfamady Kouyaté ar Hydref 6 fel rhan o sesiynau byw Menter Iaith Abertawe.

 

Logo Golwg360

Cynnal angladd dyn digartref adnabyddus

‘Tea Cosy Pete’ yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd dinas Abertawe
Logo Golwg360

£3,000 er cof am ddyn digartref

Bu farw ‘Tea Cosy Pete’ yn Abertawe fis diwethaf