'Tea Cosy Pete'
Mae £3,000 wedi cael ei godi yn dilyn marwolaeth dyn digartref adnabyddus a phoblogaidd yn Abertawe.
Yn dilyn marwolaeth ‘Tea Cosy Pete’ ar Ionawr 26 o ganlyniad i strôc, aeth papur newydd y South Wales Evening Post ati i sefydlu cronfa yn ei enw.
Ychydig iawn o fanylion sydd gan yr awdurdodau amdano ar hyn o bryd, ac mae ymdrechion ar y gweill i ddarganfod pwy yn union oedd y dyn oedd yn cael ei adnabod yn hoffus wrth ei ffugenw a fu’n byw ar strydoedd y ddinas ers 1980.
Bydd rhywfaint o’r arian yn cael ei ddefnyddio i drefnu angladd pe na bai modd dod o hyd i aelodau ei deulu.
Y gobaith yn y pen draw yw codi cofeb barhaol iddo yn Sgwâr y Castell yn y ddinas.