Mae un o brif swyddogion y gyfraith Llywodraeth Prydain yn cael ei amau o osgoi talu trethi, yn ôl papur newydd y Sunday Times.

Mae Robert Buckland, Aelod Seneddol Ceidwadol dros Dde Swindon ac sy’n hanu o Lanelli, yn aelod o Invicta Film Partnership No 25, sy’n destun ymchwiliad.

Mae Buckland, y Cyfreithiwr Cyffredinol, yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Mae’r bargyfreithiwr hefyd wedi buddsoddi mewn tair partneriaeth ffilm arall sy’n defnyddio’r arfer o ddargyfeirio trethi.