Mae clwb rygbi yng Nghaerdydd yn apelio am gymorth i brynu nwyddau hanfodol i ddau o’u chwaraewyr oedd wedi ffoi o Uganda fis Awst y llynedd.
Roedd Benon Kizza a Philip Pariyo wedi gwrthod dychwelyd i’w mamwlad yn dilyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Roedd y ddau yn cynrychioli eu gwlad yn y gystadleuaeth saith bob ochr yn Glasgow, ond fe arhoson nhw yn Yr Alban yn dilyn y Gemau.
Roedd lle i gredu eu bod nhw wedi dod o hyd i waith yn Glasgow, ond mae’n ymddangos bellach eu bod nhw wedi ymgartrefu yng Nghymru, ac yn chwarae i glwb St Peter’s yng Nghaerdydd.
Mae’r clwb wedi apelio am arian gan y cyhoedd i brynu nwyddau hanfodol ar gyfer y ddau, sydd wedi symud i mewn i fflat yn Sblot.
Yn ôl y clwb, mae angen arian ar y ddau i brynu peiriant golchi, rhewgell ac offer coginio.