George North
Mae World Rugby, y corff sy’n rheoleiddio rygbi ar draws y byd, wedi galw am adroddiad llawn gan Undeb Rygbi Cymru yn esbonio’r camau sy’n cael eu cymryd i drin cyfergydion.

Cafodd yr asgellwr George North ei anafu yn ystod ail hanner gornest agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr nos Wener, ond fe arhosodd ar y cae.

Mae World Rugby wedi bod yn astudio fideo o’r driniaeth a gafodd North, ac maen nhw wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru am sicrwydd eu bod nhw wedi dilyn y canllawiau priodol.

Mae trin cyfergydion yn rhan o strategaeth lles chwaraewyr World Rugby.