Ki Sung-yeung (llun: David Davies/PA)
Mae Ki Sung-yueng wedi dathlu ei ddychweliad o Awstralia trwy sicrhau pwynt i Abertawe mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn ei hen glwb, Sunderland.

Roedd y chwaraewr o Dde Corea wedi bod i ffwrdd am bump wythnos yn chwarae i’w wlad yng Nghwpan Asia.

Llwyddodd i benio’r bêl i’r rhwyd hanner ffordd drwy ail hanner y gêm yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma.

Fe wnaeth hyn achub y dydd i’r Elyrch a ymddangosai fel petaent mewn perygl o golli’r gêm ar ôl gôl feistrolgar gan Jermain Defoe i Sunderland ar ddiwedd yr hanner cyntaf.