Mae caneuon Dafydd Iwan wedi ysbrydoli Mentrau Iaith ar draws Cymru i gynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni.

Bydd gweithgareddau ar gyfer pawb ar draws y wlad, gan gynnwys sesiynau cerddorol cymunedol, cystadlaethau i blant a phobol ifanc, cyfres o furluniau ac adnoddau addysgiadol hwyliog.

Bydd cyfle hefyd i gefnogwyr Cymru ddangos eu cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol drwy lofnodi crysau T fydd yn cael eu cyflwyno i’r chwaraewyr cyn dechrau Cwpan y Byd.

Daw’r cyfan fel rhan o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, ac mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol yn yr ymgyrch hon.

“Gwych gweld bod “Yma o Hyd” wedi rhoi cymaint o asbri i dim pêl-droed Cymru a’r cefnogwyr,” meddai Dafydd Iwan.

“Mae’r Mentrau Iaith ac eraill yn adeiladu ar y cynnwrf arbennig hwn gan greu ymgyrch gyffrous sy’n mynd i roi cyfle i bawb yng Nghymru – ifanc a hŷn – i ymfalchïo yn eu gwlad ac yn y Gymraeg.

“Mae gweld y cynnwrf hwn yn enwedig ymhlith y bobl ifanc, yn codi fy nghalon.”

‘Croesawu pawb o bob cefndir’

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch gyffrous hon,” meddai Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru.

“Mae’n gyfle arbennig i ddangos bod Cymru a’r Cymry yn croesawu pawb o bob cefndir i’n cymunedau trwy ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ac wrth gwrs yr iaith Gymraeg, ein diwylliant a threftadaeth.

“Hoffem ddangos elfennau eraill o hanes Cymru a’r Gymraeg trwy addysgu am yr heriau a’r llwyddiannau gan annog plant a phobol ifanc yn arbennig i ymfalchïo yn eu gwlad, eu hiaith a’u cymunedau.

“Byddwn ni’n dathlu mewn ffordd gyfoes a hwyliog sy’n cynnwys pawb.”

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Mentrau Iaith drefnu dathliadau mawr pêl-droed.

Enillodd Osian Jones o Aberaeron gystadleuaeth ‘Gwlad y Chants’ yn ystod yr Ewros y llynedd gyda’i “Sea Shanty y Wal Goch”.

Cafodd Osian ddiwrnod anhygoel yn mwynhau ei wobr, sef gwylio un o ymarferion diweddaraf tîm pêl-droed Cymru a chwrdd â’r tîm i gyd.

“Roedd Osian wrth ei fodd cael ennill cystadleuaeth creu ‘chant’ Gymraeg ar gyfer cystadleuaeth yr Ewros, ac roedd gwobr o cael gweld ei hoff dîm – Cymru – yn ymarfer yn hufen ar y gacen!” meddai Eryl Jones, tad Osian.

“Cafodd gwrdd gyda rhai o’i arwyr pêl droed – fe gafodd brofiad bythgofiadwy.”