Wrth i Gymdeithas yr Iaith ddathlu 60 mlynedd eleni, mae cyfrol i nodi’r achlysur wedi cael ei chyhoeddi.
Mae Rhaid i bopeth newid: Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith yn edrych yn ôl ar ymgyrchoedd y gorffennol ac yn ystyried amcanion Cymdeithas yr Iaith ar gyfer y dyfodol drwy lygaid rhai o’i haelodau mwyaf blaenllaw.
Dan olygyddiaeth Dafydd Morgan Lewis, a dreuliodd dros chwarter canrif fel swyddog cyflogedig gyda Chydmeithas yr Iaith, male cyfraniadau gan aelodau fel Dafydd Iwan, Steve Eaves, Angharad Tomos, Joseff Gnagbo a Mabli Siriol Jones.
Mae lluniau trawiadol gan Marian Delyth yn cofnodi’r 60 mlynedd yn y gyfrol hefyd.
Cafodd yr ymgyrchwyr eu gwahodd i gyfrannu tuag at y gyfrol, yn ôl Dafydd Morgan Lewis.
“Mae pob un yn perthyn i wahanol gyfnodau yn hanes y Gymdeithas a hynny o’r 1960au hyd heddiw,” meddai.
“Mae pob un hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y Gymdeithas, rhai am gyfnodau ac eraill am flynyddoedd lawer.
“Symudodd ambell un ymlaen i feysydd eraill, ond gydag ymrwymiad dwfn i ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau ac i ddyfodol y ddynoliaeth hefyd.
“Bydd nifer ohonynt yma yn 2062 pan ddethlir canmlwyddiant Tynged yr Iaith. Yr ydym o fewn deugain mlynedd i hynny.
“Rhywbeth yn debyg oedd y pellter rhwng darllediad Saunders Lewis a diwedd yr ugeinfed ganrif.”
‘Methu fforddio anobeithio’
Mae Dafydd Morgan Lewis yn gofyn a fedrwn ni fod yn fwy gobeithiol na Saunders Lewis yn 1962?
“Yn sicr ni allwn fforddio anobeithio,” meddai.
“Wn i ddim pryd y daeth “Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid” yn un o sloganau’r Gymdeithas.
“Tua dechrau’r 1990au, fe dybiaf, pan garcharwyd Alun Llwyd a Branwen Niclas. Mae hi’n slogan sy’n codi ei phen o dro i dro dros y blynyddoedd.
“Mae hi hefyd yn brawf o rym chwyldroadol y frwydr dros y Gymraeg.”
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ddydd Sadwrn, Hydref 8 yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth am 5:30yh.
Mae Rhaid i bopeth newid: Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith, £9.99, Y Lolfa, ar gael nawr yn eich siopau llyfrau lleol.