'Tea Cosy Pete'
Mae angladd dyn digartref mwyaf adnabyddus Abertawe yn cael ei gynnal y prynhawn ma.

Bu farw ‘Tea Cosy Pete’ yn yr ysbyty wedi iddo ddioddef strôc yng nghanol y ddinas ar Ionawr 26.

Lansiodd y South Wales Evening Post gronfa goffa yn ei enw yn dilyn ei farwolaeth, ac fe fydd ychydig o’r arian yn mynd at gynnal yr angladd.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Treforys ar gyrion y ddinas am 3.30yh, ac fe fydd gwasanaeth preifat yn dilyn er mwyn gwasgaru’r lludw ar fedd y teulu.

Pwy oedd ‘Tea Cosy Pete’?

Roedd y dyn digartref fu’n byw ar strydoedd Abertawe ers 1980 yn cael ei adnabod wrth ei ffugenw, ac ychydig iawn o wybodaeth oedd gan yr awdurdodau wrth geisio darganfod ei enw go iawn.

Yn ddisgybl ysgol, roedd e yn yr un dosbarth yn Ysgol Dynevor â Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth.

Tra bod rhai yn ei adnabod fel Brian Burford, roedd eraill yn dadlau mai Brian Boswell oedd e.

Yn dilyn ymchwil gan hanesydd lleol, fe ddaeth i’r amlwg ei fod wedi’i eni’n Brian Boswell, a’i fod wedi mabwysiadu enw partner ei fam – Burford – yn ddiweddarach, wedi i’r teulu symud o Gaerfaddon i Abertawe.

Roedd ganddo frawd – William Burford – a fu farw yn Llundain yn 22 oed.

Yn dilyn y gwasanaeth angladdol, fe fydd lluniaeth yn Zac’s Place yng nghanol y ddinas.