Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi dweud nad yw adroddiad am y cwricwlwm yng Nghymru’n cynnwys “gweledigaeth am rôl addysg Gymraeg wrth greu gwlad ddwyieithog”.
Cafodd yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ei gyflwyno gan yr Athro Graham Donaldson gan edrych ar addysg yng Nghymru’r holl ffordd o’r Cyfnod Sylfaen presennol hyd at Gyfnod Allweddol 4.
Disgrifiodd y Llywodraeth ganfyddiadau’r adroddiad fel rhai “radical a phellgyrhaeddol” gyda gweledigaeth ar gyfer yr hyn sy’n ddisgwyliedig yn y dyfodol ar gyfer pobl ifanc lwyddiannus sy’n dod i ben â’u cyfnod addysg statudol.
Mae’r adroddiad yn cynnwys pedwar prif amcan, yn ogystal ag awgrym y dylai sgiliau digidol fod yn gyfrifoldeb trawsgwricwlaidd ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd.
‘Dim gweledigaeth am y Gymraeg’
Mewn datganiad, dywedodd prif swyddog RhAG, Ceri Owen: “Mae gan Lywodraeth Cymru’r nod o greu gwlad ddwyieithog.
“Mae adroddiad Donaldson fel pe bai’n trafod y Gymraeg yn bwnc, ymysg pynciau eraill.
“Er ei fod yn cydnabod gwerth ysgolion Cymraeg, ac am eu gweld yn ganolbwynt i hyrwyddo arfer da, dyw’r adroddiad ddim yn cynnig gweledigaeth ar gyfer y twf y mae’n rhaid i ni ei weld mewn addysg Gymraeg.”
Ychwanegodd fod angen “gweledigaeth glir am rôl y Gymraeg mewn addysg wrth i ni greu Cymru ddwyieithog”.
“Bu ysgolion Cymru’n ddigon hir yn fodd o ladd yr iaith. Daeth yn bryd iddyn nhw ddod yn gyfrwng ei hadfywio.”
Cafodd yr adroddiad ei lunio ar sail tystiolaeth a gafodd ei chyflwyno gan drawstoriad o blant a phobol ifanc, ymarferwyr, rhieni neu ofalwyr, sefydliadau a busnesau.
‘Buddiannau gorau’r plant’
Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis: “Mae adroddiad yr Athro Donaldson yn nodi gwendidau’r trefniadau presennol o safbwynt y cwricwlwm, sy’n gwricwlwm a luniwyd yn ôl yn 1988 cyn oes y We Fyd Eang a’r holl ddatblygiadau ym maes technoleg a globaleiddio sydd wedi cael effaith mor sylweddol ar y modd yr ydym yn byw ac yn gweithio heddiw.
Mae’r cwricwlwm “wedi cael ei orlwytho, ei gymhlethu a… rhannau ohono wedi dyddio”, meddai.
“Bydd angen i unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflwyno’r trefniadau cwricwlwm newydd bwyso a mesur buddiannau gorau’r plant a’r bobl ifanc sydd eisoes mewn addysg.”