Gwn Taser
Mae cyn Ysgrifennydd Cartref, fu’n gyfrifol am gyflwyno gynnau Taser yng Nghymru a Lloegr, wedi dweud ei bod yn bryd i adolygu eu defnydd.

Mae David Blunkett wedi dweud ei bod yn bryd ail-ystyried eu defnyddio ar ôl i ffigurau ddangos bod yr heddlu wedi defnyddio gynnau Taser ar fwy na 400 o blant mewn blwyddyn.

Yn ôl ffigurau gan y Swyddfa Gartref roedd gynnau Taser wedi cael eu defnyddio ar 431 o blant yn 2013 – sef cynnydd o 37% ers y flwyddyn flaenorol.

Cafodd y ffigurau eu rhyddhau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Breakfast ar BBC Radio 5 Live.

‘Annheg i gyffredinoli’

Ond mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, ei bod yn annheg i gyffredinoli’r sefyllfa ac nad oes achosion o’r fath wedi bod yn ne Cymru.

Dywedodd: “Mewn llefydd lle mae’n ymddangos bod ’na broblem, mae adolygiad lleol yn gwneud synnwyr ond y drafferth wrth gyffredinoli ar lefel genedlaethol yw bod amser ac adnoddau’n cael eu defnyddio i fynd i’r afael a materion sydd ddim yn broblem yn lleol.

“Yn ne Cymru yn 2013 a 2014, doedd dim un digwyddiad lle cafodd gwn Taser ei ddefnyddio ar rywun o dan 16 oed.

“Nid ydym yn rhoi Taser i bobl plismon yn ne Cymru ond maen nhw ar gael i dimau plismona lleol. Mae ’na  reolau llyn mewn lle a bob tro mae Taser yn cael ei ddefnyddio mae adolygiad yn cael ei gynnal gan uwch swyddog.”

Ychwanegodd bod defnyddio gwn Taser yn aml yn llawer mwy diogel wrth i’r heddlu fynd i’r afael a throseddwr sydd â chyllell er enghraifft.

‘Defnydd priodol’

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod mesurau mewn lle i sicrhau bod gynnau Taser yn cael eu defnyddio’n briodol.

Dywedodd bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi gofyn i’r Prif Gwnstabl David Shaw i gynnal adolygiad manwl ynglŷn â’r defnydd o Tasers er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol.