Mae dyn 79 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char ar yr A465 ym Mrynmawr, Gwent neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad am 9.30yh nos Fawrth.

Bu farw’r dyn, a oedd yn gyrru car Peugeot 107,  yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrwyr y ddau gerbyd arall, Ford Mondeo a fan Volkswagen Caddy, fân anafiadau. Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty ond maen nhw bellach wedi gadael.

Bu’r ffordd ar gau am beth amser ond mae bellach wedi ail-agor.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r cerbydau’n teithio ar y ffordd cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.