Mae dyn arfog wedi saethu tri o bobol yn farw mewn siop yn Ne Corea cyn rhoi’r adeilad ar dân.
Cafodd y saethwr 50 oed ei ddarganfod wedi marw yn ddiweddarach, ac mae lle i gredu ei fod wedi saethu ei hun yn dilyn y digwyddiad yn ninas Sejong.
Cafodd dryll arall ei ddarganfod yn ei gerbyd ger ei gorff.
Cafodd dyn 74 oed a’i fab 50 oed, a dyn 52 oed eu lladd yn y digwyddiad.
Dywedodd merch y dyn 52 oed ei bod hi’n byw gyda’r saethwr cyn i’w perthynas ddod i ben y llynedd, ac roedden nhw wedi ffraeo am faterion ariannol yn ddiweddar.
Cafodd y dyn 50 oed ei saethu y tu allan i’r siop cyn i’w dad gael ei saethu mewn tŷ cyfagos.
Cafodd y trydydd dyn ei saethu yn y siop cyn i’r saethwr daenu sylwedd ar y llawr a rhoi’r adeilad ar dân.
Roedd y saethwr wedi dwyn y dryllau o orsaf yr heddlu yn ninas Gongju ddwy awr cyn y digwyddiad.
Mae dryllau helwyr yn cael eu cadw yng ngorsafoedd yr heddlu yn Ne Corea ac yn cael eu rhoi i ddeiliaid trwyddedau yn ystod cyfnodau pan fo hela’n gyfreithlon.