Rhai o'r saith o gefnogwyr pel-droed mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain am eu holi
Mae lluniau saith o ddynion wedi cael eu rhyddhau gan yr heddlu sy’n ymchwilio i sylwadau hiliol mewn gorsaf drenau yn dilyn gem bêl-droed Cynghrair Pencampwyr Chelsea yn gynharach y mis hwn.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain (HTP) bod y lluniau wedi eu cymryd yng ngorsaf St Pancras yn Llundain tua 8yh ar 18 Chwefror.
Daeth y digwyddiad ddiwrnod yn unig ar ôl honiadau bod cefnogwyr Chelsea wedi gwrthod caniatáu i ddyn croenddu fynd ar drên y Paris Metro cyn y gêm gyda Paris St Germain, a’u bod wedi gweiddi sylwadau hiliol ato.
Dywedodd Ditectif Ringyll HTP, Steven Graysmark: “Rydw i am i unrhyw un sy’n adnabod y dynion yn y llun i gysylltu â ni. Rwy’n credu y gall y saith sydd, mae’n debyg, yn gefnogwyr Chelsea, ein helpu ni gyda’n hymchwiliad.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405040.