Mae Davis Love wedi’i benodi’n gapten ar dîm yr Unol Daleithiau ar gyfer Cwpan Ryder y flwyddyn nesaf.

Mae’r Americanwyr wedi troi at y dyn oedd yn gapten ym Medinah yn 2012 mewn ymgais i osgoi colli am y pedwerydd tro o’r bron.

Llwyddodd Ewrop i gipio’r fuddugoliaeth yn y ‘Miracle of Medinah’ ar ôl bod ar ei hôl hi o 10-4, gan ennill o 14.5-13.5 yn y pen draw.

Ar ôl i’r Unol Daleithiau golli yn Gleneagles y llynedd, cafodd pwyllgor o 11 o swyddogion, cyn-gapteiniaid a chwaraewyr presennol ei benodi i ddod o hyd i gapten newydd.

Dywedodd Davis Love fod y pwyllgor “yn angerddol ac wedi ymroi i adeiladu strwythur tîm sy’n gosod y seiliau ar gyfer timau’r dyfodol”.

Roedd un o aelodau’r pwyllgor, Phil Mickelson yn feirniadol o’r capten diwethaf, Tom Watson ar ddiwedd y gystadleuaeth yn yr Alban y llynedd.

Ond bellach, mae’n gyffrous am y dyfodol.

“Mae cael pawb ynghyd, cael y cyfle i gael llais a chael effaith a gwneud gwahaniaeth yn gyffrous i bawb”.

“Mae’n gam positif wrth i ni edrych i’r tymor hir a thuag at y deg Cwpan Ryder nesaf dros y ddau ddegawd nesaf.”

Tom Lehman yw’r cyntaf i gael ei enwi’n is-gapten, ac mae lle i gredu mai cyn-gapten arall a chwaraewr profiadol fydd y ddau is-gapten arall.

Cafodd y Gwyddel Darren Clarke ei enwi’n gapten Ewrop yr wythnos diwethaf.