Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cydnabod eu “sefyllfa unigryw” fel yr unig dîm o Gymru yn y Gynghrair Bêl-droed sy’n chwarae gartref heno, wrth i’r gynghrair dalu teyrnged i Frenhines Lloegr.

Bydd Wrecsam hefyd yn chwarae gartref, ond yn y Gynghrair Genedlaethol a does dim disgwyl iddyn nhw ganu God Save The King cyn y gic gyntaf.

Yn dilyn ei marwolaeth yn 96 oed, bydd y Gynghrair Bêl-droed a’r Gynghrair Genedlaethol yn cynnal teyrngedau, gan gynnwys munud o dawelwch, chwaraewyr yn gwisgo bandiau du, a chanu anthem genedlaethol y Deyrnas Unedig.

Bydd yr Elyrch yn herio Sheffield United yn Stadiwm Swansea.com heno (nos Fawrth, Medi 13), tra bydd Caerdydd a Chasnewydd oddi cartref, ac mae pryderon ymhlith y clybiau a’r cefnogwyr ynghylch yr ymateb y byddai’r anthem yn ei gael pe bai’n cael ei chwarae.

Tra bod Wrecsam wedi cyhoeddi rhybudd i’w cefnogwyr y dylen nhw barchu’r teyrngedau, mae’r Elyrch bellach wedi cyhoeddi canllawiau.

“Fel yr unig glwb yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr sy’n cynnal gêm yng Nghymru heno, rydym yn canfod ein hunain mewn sefyllfa unigryw, ac rydym yn teimlo’i bod yn briodol yn ystod adeg o alar genedlaethol i ymuno â gweddill y gynghrair wrth i ni dalu teyrnged,” meddai llefarydd ar ran y clwb.

Mae’r llefarydd wedi cadarnhau y bydd munud o dawelwch cyn y gic gyntaf, tra bydd y ddau dîm yn gwisgo bandiau du am eu breichiau.

“Gofynnwn i gefnogwyr sy’n bresennol – ar adeg pan fo llygaid y byd ehangach ar bêl-droed wrth dalu teyrnged i’w Diweddar Fawrhydi – barchu’r funud o dawelwch.”