Tarodd Mark Stoneman 128, ei sgôr gorau y tymor hwn, wrth i dîm criced Middlesex ddechrau rheoli’r ornest Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Lord’s.
Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod a gafodd ei gwtogi gan y tywydd, mae’r Saeson ar y blaen o 72 o rediadau a byddan nhw’n dechrau’r trydydd diwrnod ar 286 am bump yn eu batiad cyntaf.
Dyma drydydd canred Stoneman y tymor hwn, ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 134 am y bumed wiced gyda John Simpson, sydd heb fod allan ar 72, tra bod Ryan Higgins bellach heb fod allan ar 35.
Mae hi’n debygol mai rhwng Morgannwg a Middlesex fydd y ras am yr ail safle holl bwysig er mwyn ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf.
Manylion
Roedd Stoneman bedwar rhediad yn brin o’i ganred pan ddaeth y glaw am y tro cyntaf, a bu’n rhaid i’r chwaraewyr gymryd cinio cynnar.
Ond cyrhaeddodd e’r garreg filltir wedi’r egwyl, oddi ar 179 o belenni wrth daro cyfres o ergydion i’r ffin.
Buan yr oedd Middlesex ar y blaen, ond daeth wiced wrth i Forgannwg droi at y troellwr Ajaz Patel, a hwnnw’n gwaredu Stoneman, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke.
Cyrhaeddodd Simpson ei hanner canred am y seithfed tro eleni, wrth iddo fe a Higgins gipio ail bwynt batio cyn i’r glaw orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae ddwywaith yn rhagor.