Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi cyhoeddi carfan 28 dyn ar gyfer dwy gêm olaf Cynghrair y Cenhedloedd.

Bydd Cymru’n herio Gwlad Belg ym Mrwsel ar Fedi 22, cyn wynebu Gwlad Pwyl yn eu gêm gystadleuol olaf cyn Cwpan y Byd ar Fedi 25 yng Nghaerdydd, gyda’r ddwy gêm yn dechrau am 7.45yh.

Yn y garfan am y tro cyntaf mae Luke Harris, sy’n 17 oed ac yn chwarae i Fulham.

Bydd Gareth Bale yn teithio o’r Unol Daleithiau i arwain Cymru am y tro cyntaf ers iddo fe symud i Los Angeles, ond mae Aaron Ramsey, Harry Wilson ac Adam Davies allan o ganlyniad i anafiadau.

Carfan Cymru: W Hennessey, D Ward, T King; N Williams, R Norrington-Davies, B Davies, B Cabango, J Rodon, C Mepham, E Ampadu, C Gunter, C Roberts, S Thomas; J Allen, J Morrell, D Levitt, R Colwill, J Williams, W Burns, M Smith; D James, K Moore, M Harris, L Harris, G Bale, B Johnson, R Matondo, T Roberts