Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi ymddiheuro wrth unrhyw un gafodd eu tramgwyddo ar ôl i “garfan fechan” o gefnogwyr darfu ar funud o dawelwch neithiwr (nos Fawrth, Medi 13).

Roedd y clwb yn talu teyrnged i Frenhines Lloegr cyn eu gêm yn erbyn Dagenham & Redbridge, yn unol â chynlluniau’r Gynghrair Genedlaethol, gyda’r Gynghrair Bêl-droed hefyd yn talu teyrnged gyda munud o dawelwch, a chlybiau yn Lloegr yn canu God Save The King.

Roedd torf o 9,835 ar y Cae Ras ar gyfer y gêm, gafodd ei hennill gan Wrecsam o 4-1 ac mae’r clwb yn dweud iddyn nhw gael eu “siomi” gan y rhai oedd wedi tarfu ar y funud o dawelwch.

“Dydy cael enw’r clwb yn y cyfryngau fore heddiw am y rhesymau anghywir i gyd ddim yn senario ddylai fod wedi codi, ac rydym yn dymuno ymddiheuro wrth bawb gafodd eu tramgwyddo gan weithredoedd y lleiafrif, ac yn diolch i’r mwyafrif helaeth oedd wedi parchu’r funud o dawelwch,” meddai’r clwb mewn datganiad.

Dywed y clwb eu bod nhw wedi gofyn i gefnogwyr oedd wedi tarfu ar y deyrnged i adael y stadiwm “er eu diogelwch eu hunain”.