Mae tîm criced Morgannwg ar fin colli gêm hollbwysig yn y ras am ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf, er i James Harris gipio pum wiced i’r sir Gymraeg.

Ar ddiwedd trydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Middlesex yn Lord’s, maen nhw’n 191 am wyth yn eu hail fatiad – dim ond 15 o rediadau ar y blaen gyda dwy wiced yn weddill.

Daeth y chwaraewyr oddi ar y cae bum pelawd yn gynnar ar ddiwedd y dydd oherwydd golau gwael, gan osgoi embaras i Forgannwg wrth geisio osgoi colli’r gêm o fewn tridiau.

Mae Morgannwg yn ail yn y tabl ar hyn o bryd, gyda dim ond tri phwynt rhyngddyn nhw a Middlesex, oedd yn drydydd cyn dechrau’r ornest, gyda dau dîm yn gallu ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor. Swydd Nottingham sydd ar y brig, 43 o bwyntiau o flaen Morgannwg.

Roedd gan Middlesex flaenoriaeth o 72 ar ddechrau’r diwrnod, wrth iddyn nhw ddechrau ar 286 am bump yn eu batiad cyntaf, a phan ddaeth eu batiad i ben ar 390, roedd ganddyn nhw flaenoriaeth batiad cyntaf o 176 i roi Morgannwg dan bwysau.

Manylion

Toby Roland-Jones, sydd ar frig y rhestr wicedi yn yr ail adran, wnaeth y difrod i Forgannwg wrth gipio dwy wiced mewn pedair pelen i orffen gyda thair wiced am 46 wrth i Forgannwg lithro o 123 heb golli wiced i 144 am chwech o fewn 18 pelawd.

Cipiodd Tim Murtagh ddwy wiced am 37 ac Ethan Bamber ddwy wiced am 36.

Pan ddechreuodd Middlesex ar ddechrau’r diwrnod, cafodd John Simpson ei ollwng gan Billy Root ar 75 oddi ar fowlio James Harris, cyn cael ei fowlio gan Michael Hogan un rhediad yn ddiweddarach.

Dilynodd Ryan Higgins yn y belawd ganlynol pan gafodd ei fowlio gan James Harris.

Batiodd Luke Hollman yn gadarn wedyn wrth gyrraedd ei hanner canred i wrthsefyll unrhyw berygl gan fowlwyr Morgannwg.

Goroesi cyfleoedd cyn colli wicedi

Roedd David Lloyd (70) ac Eddie Byrom (47) wedi gosod seiliau cadarn ar gyfer batiad Morgannwg ar ôl i James Harris gipio pum wiced am 90 gyda’r bêl i’r sir Gymreig, a’r troellwr llaw chwith o Seland Newydd, Ajaz Patel, yn cipio tair wiced am 68.

Ond fe allai fod wedi bod yn wahanol iawn pe na bai Byrom wedi’i ollwng oddi ar ei belen gyntaf gan Hollman yn y slip oddi ar fowlio Roland-Jones.

Fe oroesodd Byrom unwaith eto wrth iddo fethu pelen gan Higgins wyrodd i mewn ato.

Pan gafodd Lloyd ei ddal yn y gyli Sam Robson cyn te, doedd dim awgrym o’r hyn oedd i ddod wedi’r egwyl, wrth i Roland-Jones gipio dwy wiced ym mhelawd gynta’r sesiwn olaf, wrth i Byrom gael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Bamber, a Sam Northeast yn para tair pelen cyn cael ei ddal gan Simpson y tu ôl i’r wiced.

Cafodd sawl cyfle am ddaliadau eu gollwng cyn i Kiran Carlson gael ei ddal gan Stevie Eskinazi oddi ar fowlio Murtagh i adael Morgannwg yn 143 am bedair.

Cafodd Billy Root ei ddal gan Robson yn y slip oddi ar fowlio Bamber cyn i Shubman Gill gam-ergydio oddi ar Murtagh yn syth at Hollman yn y gyli.

Cafodd James Harris ei ddal gan Simpson oddi ar fowlio Roland-Jones, cyn i Higgins daro coes Chris Cooke o flaen y wiced, gyda Morgannwg bellach yn 175 am wyth.

Yn hwyr yn y dydd, cafodd Ajaz Patel ei ollwng gan Robson yn y slip cyn i’r golau bylu.

 

Lord's

Middlesex yn gwasgu Morgannwg yn y ras am ddyrchfiad

Mae Mark Stoneman a John Simpson wedi sicrhau bod y Saeson yn rheoli’r gêm yn Lord’s

James Harris yn achub Morgannwg ar ôl i’r batwyr gael eu chwalu gan Middlesex yn Lord’s

Mae’r sir Gymreig yn parhau i frwydro am ddyrchafiad yn y Bencampwriaeth
Lord's

Morgannwg yn teithio i Lord’s i herio Middlesex mewn gêm Bencampwriaeth a allai fod yn dyngedfennol

Mae Morgannwg yn ail a Middlesex yn drydydd, gyda dau dîm yn gallu ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor