Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi mai Matty Jones yw rheolwr newydd tîm pêl-droed dan 21 Cymru.

Chwaraeodd e dros Gymru 13 o weithiau yn ystod ei yrfa, gan chwarae i glybiau Leeds a Chaerlŷr ac ers mentro i’r byd hyfforddi, mae e wedi ennill trwydded UEFA Pro.

Ymunodd e â Chymru fel rheolwr y tîm dan 18 yn 2020, ar ôl cyfnod yn hyfforddi timau oedran Abertawe, ac fe weithiodd e â thîm merched Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb yn y Gymdeithas am y cyfle yma, ac i bawb sydd wedi fy helpu ar y daith,” meddai.

“Mae’n anodd cuddio’r emosiwn sydd yn dod gyda’r newyddion oherwydd rwy’n teimlo’r balchder a’r angerdd.

“Mae cynrychioli Cymru yn rhywbeth arbennig iawn ac rwyf wastad wedi bod yn falch o hynny.

“Ces i nifer o heriau yn ystod fy ngyrfa chwarae ac rwy’n gobeithio bydd y profiadau hynny yn medru fy helpu pan rwy’n gweithio ac yn cefnogi’r chwaraewyr ifanc yn eu llwybr i’r tîm cyntaf.”

Bydd y tîm dan 21 yn chwarae yn erbyn Awstria yn ei gêm gyntaf wrth y llyw ar ddydd Mawrth, Medi 27, a hynny fel rhan o’r paratoadau cyn i’r ymgyrch ragbrofol Ewro dan 21 2025 ddechrau y flwyddyn nesaf.

Y garfan

Mae’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Awstria wedi’i chyhoeddi:

Cian Tyler (Coventry), David Robson (Hull), Ed Beach (Chelsea), Evan Watts (Abertawe), Fin Stevens (Abertawe – ar fenthyg o Brentford), Ollie Denham (Caerdydd), Owen Bevan (Yeovil – ar fenthyg o Bournemouth), Matt Baker (Stoke), Owen Beck (Bolton Wanderers – ar fenthyg o Lerpwl), Iestyn Hughes (Caerlŷr), Luca Hoole (Bristol Rovers), Zac Ashworth (West Brom), Oli Hammond (Nottingham Forest), Tom Sparrow (Stoke), Eli King (Crewe Alexandra – ar fenthyg o Gaerdydd), Oli Ewing (Caerlŷr), Charlie Savage (Manchester United), Ryan Howley (Coventry), Jordan James (Birmingham), Jadan Raymond (Crystal Palace), James Lannin-Sweet (Arsenal), Ed Turns (Brighton), Pat Jones (Huddersfield), Josh Farrell (Juventud de Torremolinos CF – ar fenthyg o Granada FC), Josh Thomas (Abertawe), Joe Taylor (Peterborough).