Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eu lle ymhlith y safleoedd dyrchafiad yn Ail Adran y Bencampwriaeth, ar ôl i Middlesex godi uwch eu pennau gyda buddugoliaeth o ddeg wiced dros y sir Gymreig yn Lord’s.

45 o rediadau oedd eu hangen ar y Saeson ar ôl bowlio Morgannwg allan am 220 yn eu hail fatiad, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod o fewn awr ar y bore olaf.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Middlesex 12 pwynt ar y blaen i Forgannwg yn y ras am ddyrchafiad gyda dwy gêm yn weddill, a bod y sir Gymreig bellach yn drydydd gyda dim ond dau dîm yn gallu codi o’r Ail Adran.

Roedd gan Forgannwg ddwy wiced yn weddill pan ddechreuodd y chwarae, ac fe gipiodd Toby Roland-Jones y ddwy wrth waredu Ajaz Patel a Michael Hogan i orffen gyda phum wiced am 61, y pedwerydd tro eleni iddo gyrraedd y garreg filltir.

Chafodd Mark Stoneman a Sam Robson fawr o drafferth wrth gyrraedd y nod mewn 5.2 pelawd.

Manylion

Roedd gan Forgannwg flaenoriaeth fach o 15 o rediadau ar ddechrau’r diwrnod olaf, ac fe ychwanegon nhw 29 at eu sgôr.

Cafodd Ajaz Patel ei ollwng gan Ethan Bamber oddi ar fowlio Roland-Jones cyn cael ei ddal gan Tim Murtagh wrth yrru ar yr ochr agored yn y belawd ganlynol.

Batiodd Michael Hogan yn ymosodol yn erbyn bowlio Roland-Jones a Murtagh, wrth sgorio 14 cyn cael ei ddal gan Bamber oddi ar fowlio Roland-Jones.

Tarodd Sam Robson dair ergyd yn olynol i’r ffin yn erbyn y Cymro a chyn-fowliwr Middlesex James Harris, a daeth y fuddugoliaeth wrth i Stoneman sgubo’r troellwr llaw chwith Patel i’r ffin i orffen heb fod allan ar 20.

‘Un sesiwn wael efo’r bat wedi costio’r gêm’

“Ddaru ni gael un sesiwn wael efo’r bat ac mae hi wedi costio’r gêm i ni, yn y bôn,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

“Ar ôl gwylio Dave (Lloyd) ac Eddie (Byrom) yn chwarae fel ddaru nhw, yn rhoi’r 123 yna ymlaen a mynd am bedwar y belawd a gwneud iddi edrych yn hawdd, hwyrach fod rhywfaint o hunanfoddhad wedi dod i mewn iddi.

“Ddaru ni golli ambell wiced wael.

“Doedd dim momentwm a ddaru ni ddim ceisio brwydro i gael peth yn ôl, felly rydan ni’n andros o siomedig.

“Rydan ni’n edrych tuag at un o’n hogia’ ni i gael canred mawr i’n rhoi ni mewn sefyllfa i sgorio 400 o rediadau, a dydan ni ddim wedi cyflawni hynny yn y ddwy gêm Bencampwriaeth ddwytha’.

“Felly mae angen i ni gael hynny’n iawn ar gyfer y ddwy gêm ola’ os ydan ni am gael unrhyw siawns o gael dyrchafiad.

“Mae angen i ni gael pwyntiau llawn o’r ddwy gêm i fod ag unrhyw siawns.”

 

Morgannwg ar fin colli gêm hollbwysig yn y ras am ddyrchafiad

Maen nhw ar y blaen o 15 o rediadau yn unig yn eu hail fatiad, gyda dim ond dwy wiced yn weddill ar ddiwedd y trydydd diwrnod
Lord's

Middlesex yn gwasgu Morgannwg yn y ras am ddyrchfiad

Mae Mark Stoneman a John Simpson wedi sicrhau bod y Saeson yn rheoli’r gêm yn Lord’s

James Harris yn achub Morgannwg ar ôl i’r batwyr gael eu chwalu gan Middlesex yn Lord’s

Mae’r sir Gymreig yn parhau i frwydro am ddyrchafiad yn y Bencampwriaeth
Lord's

Morgannwg yn teithio i Lord’s i herio Middlesex mewn gêm Bencampwriaeth a allai fod yn dyngedfennol

Mae Morgannwg yn ail a Middlesex yn drydydd, gyda dau dîm yn gallu ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor