Mae Eddie Butler wedi marw’n 65 oed.
Daeth i amlygrwydd fel chwaraewr rygbi gyda thîm chwedlonol Pont-y-pŵl, gan ennill 16 o gapiau dros Gymru gan arwain ei wlad chwe gwaith a sgorio dau gais rhwng 1980 a 1984, yn ogystal â chynrychioli’r Llewod yn Seland Newydd yn 1983.
Enillodd ei gap cyntaf yn ystod buddugoliaeth o 18-9 dros Ffrainc yn 1980, ac fe wnaeth e ymddeol o’r gamp yn 1985 gan fynd yn athro cyn mentro i fyd y cyfryngau gyda Radio Wales.
Yn ddiweddarach, aeth i fyd newyddiaduraeth, gan ddod yn golofnydd gyda’r Sunday Correspondent, yr Observer a’r Guardian, cyn mynd yn sylwebydd a darlledwr gyda’r BBC, nid yn unig ym maes chwaraeon ond wrth leisio rhaglenni amrywiol ar hanes Cymru.
Roedd e hefyd yn awdur o fri, ac yn ymgyrchydd tros annibyniaeth i Gymru, ac yntau wedi siarad yn rali YesCymru ym Merthyr Tudful.
Bu farw yn ei gwsg yn ystod taith elusennol i ddringo mynyddoedd Periw.
Teyrngedau
Daeth y newyddion am farwolaeth Eddie Butler mewn teyrnged gan elusen Prostate Cymru, sy’n dweud mai “Ed oedd llais Cymru”, a’i bod hi’n “fraint” ei gael yn rhan o’r elusen.
Maen nhw’n dweud iddo ddangos ei “haelioni ac ymrwymiad cadarn” i waith elusennol yn ystod ei daith olaf gyda nhw i Machu Picchu, a’i fod e wedi marw’n dawel yn ei gwsg yn Ecoinka.
Mae’n gadael ei wraig, Susan, a chwech o blant.
“Rydym yn torri’n calonnau o glywed am golli Eddie ac mae pawb yn y byd rygbi yng Nghymru’n anfon eu cydymdeimlad dwysaf i deulu ac anwyliaid Eddie,” meddai Undeb Rygbi Cymru wrth dalu teyrnged iddo.
“I nifer, Eddie oedd llais rygbi Cymru a bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith cefnogwyr o amgylch y byd, yn ogystal â’i ffrindiau yn y gêm ac yma yn Undeb Rygbi Cymru,” meddai Rob Butcher, cadeirydd yr Undeb.
“Fe gynrychiolodd ei wlad yn falch fel chwaraewr, ac roedd yn bresenoldeb mewn blychau gohebu o amgylch y byd ymhell ar ôl ymddeol o’r gêm, ac mae e wedi bod yn aruthrol yn y ffordd mae e wedi gwasanaethu rygbi Cymru yn ysgrifenedig ac ar lafar dros y degawdau.
“Roedd e’n unigolyn unigryw ac mae ar y gêm yng Nghymru ddyled fawr iddo am ei gyfraniadau ar y cae ac oddi arno.”
“Nos da, Eddie,” meddai Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd. “Am newyddion eithriadol o drist.
“Fe ges i’r fraint aruthrol o rannu llwyfan gydag Eddie Butler yn rali annibyniaeth Merthyr yn 2019.
“Cawr addfwyn yr oedd ei huodledd wedi ysbrydoli cynifer o bobol. Bydd colled ar ôl ei lais – colled mawr ar ei ôl.”
“Am newyddion trist o golled: cawr o ddyn rygbi a gwir gyfaill Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Mae YesCymru’n dweud iddyn nhw glywed am ei farwolaeth “gyda thristwch mawr”, ac mae AUOB Cymru, sy’n trefnu’r gorymdeithiau annibyniaeth hefyd wedi talu teyrnged iddo.
“Gyda thristwch mawr clywn am farwolaeth Eddie Butler,” meddai’r mudiad.
“Diolch am roi gobaith i ni mewn cyfnod roedd wir ei angen.
“Cwsg mewn hedd.”
Dywedodd Mike Phillips, cyn-fewnwr Cymru, fod y newyddion am ei farwolaeth yn “sioc”.
“Alla i ddim credu! Roedd e’n foi mor hyfryd.”
Yn ôl y sylwebydd criced Edward Bevan, mae ei farwolaeth yn “sioc ofnadwy”.
“Roedd e’n ddarlledwr gwych ar sawl pwnc,” meddai.
“Roedd e hefyd yn gydweithiwr, yn ffrind, ac mae fy nghariad a chydymdeimlad yn mynd at Susan a’i deulu.”