Bydd pump o chwaraewyr yn gadael Clwb Criced Morgannwg ar ddiwedd y tymor.

Mae’r sir wedi cyhoeddi ymadawiadau Lukas Carey, Ruaidhri Smith, Joe Cooke, James Weighell a Tom Cullen.

Daeth gêm gynta’r bowliwr cyflym Lukas Carey, sy’n 25 oed, yn erbyn Swydd Northampton yn Abertawe yn 2016, ac fe chwaraeodd e mewn 70 o gemau i’r sir ar draws pob fformat.

Chwaraeodd yr Albanwr Ruaidhri Smith am y tro cyntaf yn 2013, gan chwarae 67 o weithiau.

Ymunodd Joe Cooke, 25, â’r sir yn 2019 gan chwarae 29 o gemau, tra bod James Weighell wedi symud i Gymru y llynedd ac wedi chwarae 36 o weithiau.

Symudodd Tom Cullen, y wicedwr wrth gefn, i’r sir yn 2017 gan chwarae 36 o gemau.

“Mae yna benderfyniadau anodd i’w gwneud bob amser wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac asesu gwneuthuriad y garfan wrth symud ymlaen,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae’r holl chwaraewyr sy’n gadael wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’r clwb a hoffwn ddiolch i’r chwaraewyr am eu hymroddiad i Forgannwg yn ystod eu cyfnod yma, ac mae pawb yn y clwb yn dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”