Mae Ian Rush wedi’i benodi’n ymgynghorydd a llysgennad pêl-droed Cymru.

Ei nod yn y swydd fydd hyrwyddo pêl-droed Cymru ar lawr gwlad ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Daw’r penodiad wrth i dîm y dynion baratoi i gystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, ac wrth i’r merched gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd.

“Pêl-droed ydi’r prif gamp yng Nghymru rŵan, ac ryden ni’n adeiladu enw gwych gartref a thramor, a rhaid i ni barhau i adeiladu ar hynny,” meddai.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dod yn arweinydd cyfoes, blaengar yn y gêm ac mi ydw i wrth fy modd o gael arwain y mudiad hwn.”

Bywyd a gyrfa

Cafodd Ian Rush ei eni yn Llanelwy, ac fe enillodd e 73 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 28 o goliau.

Fe wnaeth ei record sefyll tan 2018, pan gafodd ei thorri gan Gareth Bale.

Cafodd Rush yrfa ddisglair yn Lerpwl, gan ennill llu o dlysau’r gynghrair, Cwpan FA Lloegr a Chynghrair y Pencampwyr ddwywaith, ac mae’n awyddus i fanteisio ar apêl Cwpan y Byd i dynnu sylw at fanteision pêl-droed.

“Mae Cwpan y Byd FIFA yn gyfle gwych,” meddai.

“Mae’n rhoi cyfle gwych i ni hyrwyddo’n cenedl ar y llwyfan mwyaf un, a bydda i’n gweithio’n galed i fanteisio ar hyn.

“Rhaid i ni sicrhau bod pêl-droed yn cael ei thyfu ym mhob pentref a thref yng Nghymru drwy adeiladu’r strwythurau a’r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi ein clybiau, ein hysgolion a’n partneriaid.”

Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, mae’r penodiad yn un allweddol.

“Rydym wrth ein boddau o gael croesawu Ian i rôl bwysig o fewn teulu Cymdeithas Bêl-droed Cymru,” meddai.

“Gan ddefnyddio’i brofiad pêl-droed aruthrol a’i enw da rhyfeddol, byddwn yn adeiladu partneriaethau allweddol ar draws y byd pêl-droed.

“Mae Ian yn Gymro balch ac fe fydd yn wych cael cydweithio a dod â Chymru i lwyfan y byd.”

Bydd yn dechrau yn ei swydd ar unwaith, ac fe fydd e’n teithio gyda Chymru i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Tachwedd.