Sut mae stopio Óscar Estupiñán o Hull? Dyna’r cwestiwn mawr y bydd yr Elyrch wedi bod yn meddwl amdano dros y dyddiau diwetha’ wrth iddyn nhw geisio taro’n ôl ar ôl torcalon hwyr yn erbyn Sheffield United nos Fawrth.
Roedd colli mor hwyr yn y gêm yn greulon, ond mae’n tanlinellu’r trafferthion mae tîm Russell Martin wedi’u cael wrth geisio chwarae am 90 munud cyfan ac osgoi diffyg canolbwyntio ar adegau allweddol. Mae’n rhaid gofyn pryd fyddan nhw’n dechrau dysgu gwersi. Bydd y digwyddiad arweiniodd at golli meddiant ac yna’r gôl yn destun trafod am beth amser, gyda Martin yn dadlau bod trosedd ar Kyle Naughton ond Paul Heckingbottom, rheolwr y Blades, yn dadlau bod Rhian Brewster wedi osgoi cyffwrdd ei wrthwynebydd. Eiliadau fel hyn sy’n gallu diffinio tymhorau, ac allwn ni ddim ond gobeithio na fydd yr Elyrch yn difaru pan ddaw diwedd y tymor.
Estupiñán, Chwaraewr y Mis yn y Bencampwriaeth ar gyfer mis Awst, yw prif sgoriwr y gynghrair hyd yn hyn, gyda saith gôl. Sgoriodd ei ddwy gôl gyntaf i’w glwb newydd yn erbyn Norwich, cyn sgorio dwy arall yn erbyn West Brom ac yna hatric yn erbyn Coventry. Ond dyw e ddim wedi sgorio yn ei ddwy gêm ddiwetha’, a bydd yr Elyrch yn gobeithio’i gadw’n dawel heddiw. Does dim amheuaeth mai yn y cwrt cosbi mae ei gryfder, a bydd yn rhaid i’r amddiffyn fod ar eu gorau i’w atal. Mae’n siwr y byddan nhw wedi edrych ar y gemau yn erbyn QPR, Sheffield United a Stoke i ddarganfod y gyfrinach i’w dawelu fe, gan sylweddoli o ochr dde’r cwrt cosbi mae’r goliau i gyd wedi dod.
O safbwynt yr Elyrch, tair gôl mae’r prif sgoriwr Joel Piroe wedi’u sgorio mewn naw gêm. Bydd yn rhaid iddo fe wella ar hynny os yw’r Elyrch am godi’u hunain o’r sefyllfa maen nhw ynddi ar hyn o bryd yng ngwaelodion y gynghrair. Ac mae hefyd yn hen bryd i Michael Obafemi ddychwelyd. Mae’n hawdd deall rhesymeg Russell Martin dros gadw’r ymosodwr allan ar ôl i’w obeithion o gael trosglwyddiad i Burnley gael eu chwalu ar yr unfed awr ar ddeg, ond fe welson ni sefyllfa debyg gyda Jamie Paterson hefyd y tymor diwetha’. All yr Elyrch ddim fforddio bod yn rhy ofalus yn y sefyllfa maen nhw ynddi, ac mae angen pob arf arnyn nhw yn yr ymosod ar hyn o bryd, gyda dim ond saith gôl yn eu naw gêm – yr un nifer ag Estupiñán ar ei ben ei hun, cofiwch!