Mae Gareth Charles, cyn-ohebydd rygbi BBC Cymru, yn dweud y bydd Eddie Butler yn cael ei gofio fel “dyn addfwyn iawn”, “paradocs o foi”, “dysgedig ymhlith y dihirod”, “cwmnïaeth ffantastig” ac fel dyn â “dawn geiriau”.

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i gyn-gapten rygbi Cymru a Phont-y-pŵl ers i’r newyddion am ei farwolaeth ym Mheriw yn 65 oed dorri ddoe (dydd Gwener, Medi 17).

Daeth Eddie Butler i amlygrwydd fel chwaraewr rygbi gyda thîm chwedlonol Pont-y-pŵl, gan ennill 16 o gapiau dros Gymru ac arwain ei wlad chwe gwaith a sgorio dau gais rhwng 1980 a 1984, yn ogystal â chynrychioli’r Llewod yn Seland Newydd yn 1983.

Enillodd ei gap cyntaf yn ystod buddugoliaeth o 18-9 dros Ffrainc yn 1980, ac fe wnaeth e ymddeol o’r gamp yn 1985 gan fynd yn athro cyn mentro i fyd y cyfryngau gyda Radio Wales.

Yn ddiweddarach, aeth i fyd newyddiaduraeth, gan ddod yn golofnydd gyda’r Sunday Correspondent, yr Observer a’r Guardian, cyn mynd yn sylwebydd a darlledwr gyda’r BBC, nid yn unig ym maes chwaraeon ond wrth leisio rhaglenni amrywiol ar hanes Cymru.

Dros Gymru

Roedd Eddie Butler hefyd yn awdur o fri, ac yn ymgyrchydd tros annibyniaeth i Gymru, ac yntau wedi siarad yn rali YesCymru ym Merthyr Tudful.

“Roedd e’n ddyn addfwyn iawn,” meddai Gareth Charles wrth golwg360. “Paradocs o foi mewn sawl ffordd, rhywun ag acen fyddai rhywun yn meddwl bod e’n Seisnigaidd, ond eto i gyd yn Gymro i’r carn. Er bod e’n dod o Went, roedd Cymru yn amlwg yn bwysig iawn iddo fe.

Ond a oedd hi’n syndod i Gareth Charles pan safodd Eddie Butler gerbron torf o filoedd o bobol ym Merthyr a datgan ei gefnogaeth i annibyniaeth ac i YesCymru?

“Oedd, ond efallai byddai hynny’n taro rhywun fel un o’r paradocsys hyn yn ei gylch e.

“Fe ges i bach o sioc ond eto i gyd, typical Ed! Anghonfensiynol i’r carn, yn gwneud y pethau annisgwyl, ond nid ar chwarae bach oedd e’n gwneud e, wedi bod yn meddwl lot yn ei gylch e.

“Efallai yn y gorffennol, byddai wedi meddwl na fyddai annibyniaeth yn beth da ond o ystyried popeth, ac o ystyried pobol a chymdeithas ac amgylchiadau, ac fel mae pethau ar y funud, yn amlwg roedd e wedi meddwl yn ddwys amdano fe ac yn amlwg wedi meddwl am beth oedd e’n credu oedd y ffordd orau ymlaen.

“Mae e’n mynd i fod yn golled fawr i Gymru yn gyffredinol, nage jyst i chwaraeon, nage jyst i ddarlledu, achos roedd e’n ddarlledwr heb ei ail hefyd.”

Dyn â “dawn geiriau”

Fel sylwebydd, dyn â dawn geiriau oedd, ac a fydd, Eddie Butler, yn ôl Gareth Charles.

“Roedd geiriau mor, mor bwysig i Ed,” meddai.

“Pan wyt ti’n meddwl ’nôl am yr holl montages hyn, nage jyst chwaraeon ond digwyddiadau eraill hefyd, roedd dewis geiriau mor, mor bwysig i Ed, a fi’n meddwl oedd e wedi meddwl yn ddwys ambwyti dyfodol Cymruac roedd e wastad yn meddwl yn ddwys cyn bod e’n siarad hefyd, nage dim ond am y byd chwaraeon ond yn gyffredinol, a fel’na droiodd e ma’s gyda bod yn lladmerydd i Yes Cymru ac i annibyniaeth hefyd.

“I gymaint o bobol, Bill McLaren oedd llais rygbi ac i bobol o oedran arbennig, Eddie fyddai wedi dilyn yn ôl ei draed e.

“Ond unwaith eto, doedd e ddim yn sylwebydd confensiynol. Doedd e ddim yr un math o sylwebydd ag o’n i wedi bod, er enghraifft. Roedd e’n gwneud ei sylwebaeth mewn ffordd hollol wahanol a hollol unigryw. Ed oedd Ed.

“Ond pan oedd hi’n dod wedyn i leisio pethau, pan oedd e’n cael amser i feddwl ac edrych ar luniau, i fi, dyna le oedd cryfder mawr Ed.

“Roedd dawn geiriau gyda fe yn amlwg. Ieithoedd wnaeth e yng Nghaergrawnt, Sbaeneg a Ffrangeg oedd e’n siarad yn rhugl. Roedd e’n siarad cymaint o ieithoedd.

“A hefyd, wnaeth e ddarn i raglen Byd y Bêl ar Radio Cymru, ynglŷn â thranc Pont-y-pŵl ar y pryd. A wnaeth e fe i gyd yn Gymraeg. Roedd e’n wych!

“Huw Eic oedd wedi sgriptio’r peth iddo fe, roedd e wedi cael lot o olygu, ond jyst y ffaith fod Eddie wedi dweud beth oedd e mo’yn dweud yn Saesneg, Huw wedi’i gyfieithu fe, ac wedyn bod Ed wedi mynd i’r drafferth o leisio fe, a’i wneud e i gyd yn Gymraeg, mae’n dangos pa mor bwysig oedd geiriau i Ed yn enwedig, a syniadau ac achosion.

“I fi, cryfder mawr Ed, doedd neb i’w dwtsho fe fel darlledwr, pan oedd hi’n dod i roi geiriau ar luniau, i gyfleu darluniau, a darluniau sydd wedi bod yn gofiadwy wedyn byth ers hynny.”

‘Cwmnïaeth ffantastig’

Roedd e’n sylwebydd blaenllaw a phoblogaidd, nid yn unig yng Nghymru ond ar rwydwaith y BBC drwy’r Deyrnas Unedig, gan ffurfio partneriaeth gofiadwy yn y blwch sylwebu gyda Jonathan Davies a Brian Moore. Bydd e hefyd yn cael ei gofio am drosleisio rhai o’r eiliadau mwyaf arwyddocaol yn hanes chwaraeon Cymru os nad yn hanes y genedl.

Ond sut fydd e’n cael ei gofio gan y rhai oedd yn ei adnabod e i ffwrdd o’r meicroffôn, tybed?

“Roedd e’n gwmnïaeth ffantastig lle bynnag o’t ti’n mynd,” meddai Gareth Charles.

“Roedd diddordeb gyda fe mewn pobol a pherthynas pobol a’u hamgylchiadau nhw, a’r gymdeithas yn gyffredinol. Roedd e’n gwybod lot am hanes, nage dim ond am hanes Cymru ond am hanes yn gyffredinol. Roedd e’n gallu siarad am bob math o bynciau.

“Pan wyt ti’n meddwl bod e wedi bod yn rhan o’r tîm Pont-y-pŵl enwog yna, gyda’r Pontypool Front Row a a John Perkins, Terry Cobner a Jeff Squire, roedd e’n hollol, hollol wahanol i unrhyw un ohonyn nhw.

“Fe wnes i ddweud yn y darn wnes i i S4C, dysgedig ymhlith y dihirod, fel maen nhw’n dweud yn Saesneg a scholar amongst the scoundrels. Ond roedd parch aruthrol gyda’r ddau at ei gilydd, gyda bois Pont-y-pŵl i Eddie, ac Eddie i fois Pont-y-pŵl.

“Er bod e wedi bod yng Nghaergrawnt ac wedi cael addysg dda, roedd e’n gallu ffitio mewn ym mhob math o sefyllfaoedd ac roedd e’n foi amldalentog, amlochrog, amlhaenog.

“Roedd lot fawr i Eddie Butler.”

Eddie Butler

Eddie Butler wedi marw

Roedd yn chwaraewr rygbi, yn sylwebydd, yn golofnydd, yn ddarlledwr ac yn ymgyrchydd tros annibyniaeth i Gymru