Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cogydd o Ynys Môn, sy’n berchen bwyty Brat yn Llundain, sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Un o’r profiadau cyntaf efo bwyd dw i’n cofio’n glir iawn oedd cael malwod [escargot] ym Mharis gyda fy rhieni. Ro’n i tua 10 oed a ges i’r malwod efo menyn garlleg ac roedden nhw jest yn hollol wahanol i unrhyw beth ro’n i wedi trio o’r blaen. Hefyd roedd y ffordd roeddan nhw’n cael eu gweini wedi aros efo fi.

Dyna’r tro cyntaf i fi weld rhywbeth mor syml â malwod yn cael eu gweini efo gymaint o steil. Oedd o’n anhygoel rili ac yn foment dw i wedi cofio ers hynny. Wnes i sylweddoli bod yna fyd hollol wahanol allan yna. Roedd o wedi sbarduno fi i fod yn gogydd. Weithiau, dim y blas dach chi’n cofio ond y profiad ei hun. Dw i wedi trio bwydydd mewn gwahanol lefydd yn y byd, ac mae wedi helpu fi i ddallt gwahanol ddiwylliannau drwy’r bwyd.

Tatws Pum Munud a bwydydd fel yna oeddan ni’n gael adre pan o’n i’n tyfu fyny. O’n i ddim yn anturus iawn efo bwyd pan o’n i’n blentyn. Ond gan bo fi wedi tyfu fyny yn Biwmares roedd bob un swydd ges i yn ystod gwyliau’r haf mewn caffis a bwytai yno. Dw i’n cofio paratoi cregyn gleision, a jest sylwi beth oedd yn dod o’r môr o fy nghwmpas.

Os dw i eisiau comfort food mi na’i gael ŵy wedi’i botsio neu club sandwich, eitha boring a deud y gwir. Pan dw i’n trafeilio dros y byd dw i wastad yn cael y club sandwich a fries ac yn ffeindio fo’n eitha’ comforting ond pan dw i adra na’i gael rwbath fel mins a thatws, rhywbeth rili syml. Mae’r plant yn obsesd efo lasagne, ac wrth eu boddau efo nwdls. Maen nhw’n mwynhau bwyta nhw achos maen nhw’n edrych fel pryfed genwair!

Torbwt – un o brydau mwya’ poblogaidd Brat

I fi, y pryd bwyd delfrydol ydy bod efo’r teulu, tu allan ac yn coginio torbwt dros dân.  Dw i’n gwneud digon o entertainio yn y bwyty felly os oes pobl yn dod draw am fwyd y peth ola’ dw i isho ydy bod yn y gegin. Dw i’n trio gwneud pethau alla’i goginio o flaen llaw. Mae barbeciw yn berffaith achos ti’n gallu coginio rhywbeth yn ara’ deg dros dân, mae pawb yn sefyll rownd y barbeciw yn siarad, ac mae’n gymdeithasol iawn.

Roedd Taid yn arfer tyfu pys ac roedden ni’n bwyta nhw yn ffres, yn syth o’r pod. Dyna sy’n atgoffa fi o’r haf. Fel ‘na mae fy mhlant i’n bwyta nhw rŵan. Mae’n deimlad eitha nostalgic i fi fwyta nhw yn ffres fel ‘na.

Pys ffres yn cael eu coginio ar dân agored

Llyfr coginio gorau fi ydy Francis Mallmann – Seven Fires: Grilling the Argentine Way. Mae’n byw ym Mhatagonia ac mae jest yn son am goginio tu allan. Mae’n un o’r bobl oedd wedi ysbrydoli fi fwya’.

bratrestaurant.co.uk