Mae Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru wedi disgrifio’r profiad o gyfarfod y Brenin Charles III fel un “swreal”.

Roedd Harriet Wright-Nicholas yn un o 12 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gafodd gyfarfod y Brenin Charles III ar ei ymweliad â’r Senedd heddiw (dydd Gwener, Medi 16).

“Roedden ni gyd yn gorfod sefyll yn adeilad Tŷ Hywel, ac fe gawson ni drafodaeth gyda Charles,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaeth o siarad gyda phob un ohonom ni.

“Buodd yn holi pethau fel ble’r ydyn ni’n cynrychioli, beth yw ein diddordebau ac am ein hysgolion ni hefyd.

“Roedd e’n rili neis cael siarad gyda fe, a gwybod ei fod e’n cymryd diddordeb ynom ni.

“Roedd e’n eitha’ swreal o brofiad, doeddwn i ddim yn disgwyl gallu cynnal trafodaeth gyda fe.

“Roeddwn i’n nerfus iawn, doeddwn i methu credu mod i’n mynd i gwrdd â Brenin a dw i dal methu credu fe nawr.”

“Trist” bod pobol yn protestio ymweliad y Brenin

Bu yna gryn brotestio yn erbyn ymweliad y Brenin Charles III y tu allan i Gastell Caerdydd.

Yn ôl ymgyrchwyr, y nod oedd annog y cyhoedd yng Nghymru ystyried pam fod teulu sy’n teyrnasu yn anghenraid o lywodraeth dda, ac a yw dyfodol gwahanol, heb y Frenhiniaeth, yn bosibl.

“Fe wnaethon ni glywed (am y protestio) ar ôl i ni gwrdd gyda’r Brenin,” eglura Harriet Wright-Nicholas.

“Mae e’n rywbeth eithaf rhyfedd rili, dw i ddim yn gwybod beth i feddwl amdano.

“Mae e’n eithaf trist bod y Frenhines wedi marw, a bod pobol yn protestio am (Charles III) yn dod yma.

“Ond yn amlwg, does neb yn gallu rheoli beth mae pobol eraill yn meddwl.”