Alla’i ddim peidio meddwl bod marwolaeth y Frenhines wedi dod ar yr adeg waethaf bosib.
Mewn cyfnod lle mae gyda ni Brif Weinidog newydd sy’n arwain llywodraeth eithriadol o asgell dde, argyfwng costau byw, Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd dan bwysau erchyll, a gwlad sy’n dal i gael chwip din gan effeithiau – neu realiti – Brexit, dyma’r peth olaf yr oedden ni ei angen. Mae’r wlad ar ei gliniau, ond ’di’r ots am hynny, mae’n debyg.
Y gofid yw y bydd y pethau sydd wedi eu rhestru uchod yn cael eu hanghofio, neu eu hanwybyddu, wrth i’r cyfryngau a rhan helaeth o’r boblogaeth golli eu hunain mewn galar. Yn wir, rwy’ wedi clywed sawl cyflwynydd, newyddiadurwr a gwleidydd yn awgrymu bod yr argyfwng costau byw yn “amherthnasol” yng nghyd-destun marwolaeth Ei Mawrhydi – rwtsh botes maip!
Yn y cyfamser, mae’r cyfryngau yn Lloegr – a Chymru i raddau helaeth – wedi penderfynu nad oes unrhyw beth yn haeddu cael ei drafod oni bai am farwolaeth y Frenhines a’r teulu brenhinol.
A beth mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn ei wneud yn ystod ‘wythnos o alar’, meddech chi? Wel, mae adroddiadau’n awgrymu bod Kwasi Kwarteng, Canghellor y Deyrnas Unedig, yn bwriadu cael gwared â chapiau ar fonysau bancwyr. Cafodd y capiau hyn eu cyflwyno gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn cwymp ariannol 2008, felly mae’r gallu i gael gwared arnynt yn un arall o fendithion gwych Brexit. Mae’n debyg bod Kwasi Kwarteng yn credu bod angen denu mwy o dalent i sector ariannol Llundain. A dywedodd ffynonellau wrth y Financial Times ei fod e am i Lundain fod yn fwy cystadleuol yn erbyn Efrog Newydd, Frankfurt, Hong Kong a Paris. Fe alla i feddwl am nifer o bobol sydd angen cymorth gan y Llywodraeth ar hyn o bryd – dydy bancwyr Llundain ddim yn eu plith!
Ynni
Yn y cyfamser, mae Liz Truss wedi cyhoeddi ei chynllun i fynd i’r afael â phrisiau ynni. A beth yw’r cynllun hwn? Benthyg £150bn er mwyn gallu capio biliau ynni ar £2,500 a gwarchod elw’r cwmnïau ynni. Pwy fydd yn cael eu gorfodi i dalu’r arian yma yn ôl? Ia, rydach chi wedi dyfalu yn gywir. Ni, y trethdalwr.
Mae economegwyr hefyd o’r farn y bydd y bobol gyfoethocaf yn elwa mwy na’r rhai tlotaf o ganlyniad i’r cynllun, am ei fod yn ffafrio aelwydydd sy’n defnyddio mwy o ynni. Yn ôl melin drafod Resolution Foundation, bydd aelwydydd incwm uwch, sydd fel arfer yn defnyddio mwy o ynni, yn debygol o arbed cyfartaledd o tua £1,300 y gaeaf hwn o’i gymharu ag arbediad o £1,100 ymysg yr 20% o aelwydydd tlotaf. I’r pant y rhed y dŵr!
Yn y cyfamser, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno treth ffawdelw (windfall tax) ar gwmnïau ynni. Mae’r bloc yn gobeithio codi £140bn o ganlyniad i’r dreth fydd wedyn yn cael ei rannu gyda 27 gwlad yr Undeb er mwyn lliniaru costau ynni pobol. “Mewn amseroedd fel hyn, mae’n rhaid i elw gael ei rannu a’i ddosbarthu i’r sawl sydd ei angen fwyaf,” meddai Ursula von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Lwcus ein bod ni wedi dianc rhag yr Undeb Ewropeaidd ddieflig, ynte?
Gwladwriaeth heddlu?
Yr hyn sydd wedi bod yn frawychus i’w weld yr wythnos hon, hefyd, yw’r ffordd y mae pobol wedi cael eu hambygio a’u harestio gan yr heddlu am fynegi safbwyntiau gwrth-frenhiniaeth.
Mae’n debyg mai yng Nghaeredin y mae’r ddau achos mwyaf adnabyddus wedi bod hyd yma. Yno, cafodd dynes oedd yn dal arwydd yn dweud ‘F*** imperialism, abolish monarchy’ ei harestio. Digwyddodd hyn y tu allan i Eglwys Gadeiriol San Silyn, lle’r oedd arch y Frenhines yn gorwedd ddydd Llun (12 Medi). Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod dynes 22 oed wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â tharfu’r heddwch.
Yn y cyfamser, cafodd dyn 22 oed ei gyhuddo o darfu ar yr heddwch ar ôl heclo’r Tywysog Andrew wrth iddo gerdded y tu ôl i arch y Frenhines. Roedd fideo yn dangos y dyn yn gweiddi ar y Tywysog wrth iddo ddilyn yr arch i fyny Milltir Frenhinol Caeredin. Fe wnaeth y gŵr ifanc gyfiawnhau ei weithred i’r heddlu drwy ddweud na ddylai dynion pwerus allu aflonyddu ar ferched ac osgoi’r canlyniadau – gan gyfeirio at honiadau sydd wedi cael eu gwneud am y Tywysog Andrew.
Mae rhywun yn poeni bod gan yr heddlu’r hawl i ymddwyn yn y ffasiwn fodd. Ai sefydlu gwladwriaeth heddlu yw’r uchelgais? Bydd yn rhaid cadw llygad barcud ar unrhyw brotestiadau sydd ar y gorwel, er mwyn gweld sut y bydd yr heddlu yn ymateb.
A gyda chymaint yn wynebu gaeaf mor anodd eleni, fe allai hynny ddigwydd yn gynt yn hytrach na hwyrach.
Tywysog Cymru newydd
Ar ben hyn oll, fe ddaeth y newyddion ein bod ni am gael Tywysog newydd yma yng Nghymru, gyda William yn olynu ei dad.
‘Nid nawr oedd yr amser i gael trafodaeth ar y mater hwn, cyfnod o alar ydoedd,’ meddai sawl un wrth i mi gwestiynu dilysrwydd cael Tywysog ar wlad ddemocrataidd, ddatganoledig. Ffeindiais y datganiad hwnnw’n un od ar y naw, mae o fel dweud wrth rywun nad oes ganddyn nhw hawl i drafod gwleidyddiaeth yn ystod etholiad cyffredinol – pwy a ŵyr, ella’ y daw hynny yn realiti o ystyried ymddygiad yr heddlu dros yr wythnos ddiwethaf!
Ond a dweud y gwir, y ffaith fod yna dywysog newydd yw’r lleiaf o fy ngofidion o ystyried y darlun ehangach. Ydw, dw i’n deall ac yn cydnabod yr arwyddocad hanesyddol, ac ydi mae’r sarhad cenedlaethol y mae’r teitl yn ei gynrychioli yn destun gwylltineb i mi. Fodd bynnag, dyw’r ffaith bod yna Dywysog Cymru – fel ag y bu drwy gydol fy oes – ddim wir yn mynd i effeithio rhyw lawer ar fy mywyd. Rhai o’r pethau sydd yn cael effaith mawr, ac yn peri poen meddwl cyson, yw’r ffaith fod cymunedau Cymreig, yn ogystal â’r iaith Gymraeg, yn cael eu colli i’r argyfwng tai.
A sôn am dai, mae pris cyfartalog un yng Nghymru wedi cynyddu £14,000 er mis Mawrth – ffigwr dychrynllyd o wallgof. Yn y cyfamser, mae haf llawn tywydd eithafol a thannau gwyllt wedi dangos nad oes modd anwybyddu’r argyfwng newid hinsawdd yr ydyn ni gyd yn ei wynebu.
Ac fe soniais i ar ddechrau’r darn am y llanast y mae’r Deyrnas Unedig ynddo ar hyn o bryd. Felly ella’ mai’r rheini oedd yn dweud wrtha i nad nawr oedd yr amser i drafod cael Tywysog newydd oedd yn gywir. Ond nid oherwydd mai cyfnod i alaru yw hwn y mae hynny, ond oherwydd bod yna heriau dwys sydd angen mynd i’r afael â nhw cyn troi’n sylw at y Tywysog newydd.