Cafodd Bethan Sayed ei “siomi ar yr ochr orau” gan nifer y bobol wnaeth fynychu protest wrth-frenhiniaeth y tu allan i Gastell Caerdydd heddiw (dydd Gwener, Medi 16), wrth i Frenin Lloegr ymweld â’r brifddinas.

Bu ymgyrchwyr yn ymgasglu y tu allan i’r Castell am 1 o’r gloch y prynhawn.

Yn ôl cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, y nod oedd annog y cyhoedd yng Nghymru ystyried pam fod teulu sy’n teyrnasu yn anghenraid o lywodraeth dda, ac a yw dyfodol gwahanol, heb y Frenhiniaeth, yn bosibl.

Roedd y dorf i’w chlywed yn bloeddio’u protest wrth i’r car oedd yn cludo’r Brenin Charles III gyrraedd y castell.

Dyma’r tro cyntaf i Charles III ddod i Gymru ers dod yn Frenin Lloegr a throsglwyddo rôl Tywysog Cymru i’w fab William, yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.

Yn ystod eu hymweliad, mae’r Brenin a Camilla, y Frenhines Gydweddog, yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd wrth iddyn nhw ddod i Gymru ar ôl bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos hon hefyd.

‘Barn wahanol’

“Fe gefais fy siomi ar yr ochr orau oherwydd roedd yna tua 250 ohonom ni,” meddai Bethan Sayed wrth golwg360.

“Roedd yna bobol ar ochr y castell a phobol ar ochr arall y lôn yn protestio hefyd.

“Felly roedd e’n rili dda i ni ar ddechrau ymgyrch bod yna bobol yma, ac yn sicr roedd hi’n bwysig ein bod ni yma i ddangos bod yna farn wahanol.

“Fyddai’r drafodaeth ddim wedi digwydd heddiw oni bai bod pobol fel ni wedi troi fyny i ofyn a oes yna ddyfodol gwahanol i ni fel Cymry sydd ddim yn golygu bod yn rhan o frenhiniaeth.

“Felly dw i’n credu fod y brotest wedi mynd yn rili dda.”

‘Dim ond megis cychwyn’

“Wnaeth yr heddlu ddim amharu arnom ni o gwbl, roedden nhw’n iawn gyda ni,” meddai wedyn.

“Roedd cwpl o bobol yna wedi dweud pethau amharchus fel: ‘Peidiwch â bod yma’ a ‘Peidiwch â dal y posteri yma lan’.

“Ond roedden ni’n dweud ein bod ni’n byw mewn system ddemocrataidd a’n bod ni’n mynd i ddal y posteri yma lan.

“Os oedd pobol yna i gwrdd â’r teulu brenhinol, yn sicr doedd neb ohonom ni’n amharchus o hynny felly fe aeth pethau yn dda yn hynny o beth.

“Doedden ni ddim eisiau iddo droi yn rhywbeth oedd yn datgan casineb tuag at unrhyw beth, ond roedden ni eisiau dangos fod yna weledigaeth wahanol i ddyfodol Cymru, dyna oedd pwrpas heddiw.

“Dim ond megis cychwyn oedd hyn, a dw i’n falch bod yna bobol newydd wedi dod, pobol o bob oedran.

“Roedd un ferch yna heddiw yn ei hugeiniau cynnar yn dweud bod hi ddim wedi protestio o’r blaen, ond roedd hi wedyn yn gwneud cyfweliadau yn sôn am pam roedd hi wedi dod ac ati.

“Dyna’r tan sy’n cael ei danio yn rhywun pan maen nhw’n dod i’w protest gyntaf ac yn gweld bod yna fomentwm y tu ô i rywbeth.

“Dyna wnaeth ddigwydd i mi fel person ifanc, a dyna pam dw i dal yn ymwneud gydag ymgyrchu.

“Mae yna bobol sy’n dweud bod e ddim yn gwneud gwahaniaeth, ond mae e yn.

“Mae e’n gallu gwthio pobol sydd mewn pŵer i newid, a newid sut mae cymdeithas yn meddwl am bethau.

“Efallai bod yna fwyafrif o bobol yn credu mewn brenhiniaeth, ond dyw hynny ddim yn meddwl bod e wastad yn mynd i fod fel yna.”