Bydd pedwar ymgeisydd yn yr is-etholiad i olynu’r diweddar Hag Harries yn Llanbedr Pont Steffan.

Bu farw’r cynghorydd yn sydyn yn fuan ar ôl yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Cafodd enwebiadau eu cau ddydd Llun (Medi 12), ac mae enwau’r ymgeiswyr bellach wedi cael eu cyhoeddi, gyda thair plaid wedi’u cynrychioli ac mae un ymgeisydd annibynnol, sef Lee Cowles o Gydweli.

Sandra Louise Jervis o Lanwnnen sy’n sefyll yn enw’r Democratiaid Rhyddfrydol, ynghyd ag Ann Bowen Morgan o Lanbed yn enw Plaid Cymru, a Dinah Mulholland o Lanbed dros Lafur.

Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal ar Hydref 6 yn Neuadd Fictoria, fydd ar agor rhwng 7yb a 10yh.

Mae’n rhaid cofrestru i bleidleisio cyn Medi 20, a gall pobol 16 ac 17 oed bleidleisio hefyd.

Y dyddiad cau ar gyfer pleidlais bost yw Medi 21, ac mae modd lawrlwytho ffurflen drwy fynd i’r wefan gov.uk neu mae modd ffonio 01545 570881.

Dylid cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion er mwyn gwirio eich bod yn gymwys i bleidleisio.

Rhaid cofrestru erbyn Medi 28 trwy wefan y Comisiwn Etholiadol os ydych chi eisiau i rywun arall fwrw pleidlais drosoch chi.