Bydd treth y cyngor sy’n deillio o ardoll ail gartrefi dadleuol a chyllid gan Lywodraeth Cymru’n cael eu defnyddio i helpu pobol leol a phrynwyr tro cyntaf sy’n ei chael hi’n anodd dringo’r ysgol eiddo.

Mae Cyngor Gwynedd yn lansio cynllun “Prynu Cartref” gwerth £13m a fydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y cynllun i gynyddu treth y cyngor ar lety gwyliau gan hyd at 300%.

Mae pobol leol yn cael eu hannog i wirio’u bod nhw’n gymwys ar gyfer Cynllun Prynu Cartref Gwynedd. Cafodd y prosiect rhannu ecwiti ei lansio mewn partneriaeth â chorff Tai Teg a Llywodraeth Cymru’n gynharach yr wythnos hon.

Ac yntau eisoes ar gael yn genedlaethol, dywed y Cyngor eu bod nhw’n bwriadu ymestyn y cynllun presennol.

Yn y sir hon mae nifer fwyaf o ail gartrefi trethadwy, er bod niferoedd yn gostwng o ganlyniad i’r cynnydd yn y premiwm ail gartrefi a newid statws llety gwyliau.

Fel rhan o’r cynllun, gall ymgeiswyr fenthyg rhwng 10% a 50% o werth eiddo erbyn hyn, ac mae modd iddyn nhw gael eu cymeradwyo bellach os ydyn nhw’n aelwydydd sydd ag incwm o hyd at £60,000 – £45,000 oedd y terfyn blaenorol.

Mae hefyd wedi cynyddu’r uchafswm pris ar gyfer eiddo y mae modd ei brynu i £300,000 gydag oddeutu 6,000 o eiddo yng Ngwynedd ddim ar gael fel cartrefi i bobol leol.

Mae gan Wynedd 4,720 o ail gartrefi mae modd eu prynu yn y cyfnod 2022-23 – sydd ychydig yn is na’r ffigwr o 5,098 y llynedd, ac roedd gan y sir 1,349 o ail gartrefi gwag am gyfnodau hir, sy’n ostyngiad bach ar y ffigwr 1,558 y llynedd, yn ôl data Llywodraeth Cymru.

Mae’r arian diweddaraf yn cynnwys buddsoddiad o £8.5m gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Peilot Ail Gartrefi Dwyfor, oedd yn rhan o’r mesurau i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar gymunedau yng Nghymru.

Helpu pobol

Dywed y Cyngor eu bod nhw wedi cynyddu’r arian “yn sylweddol” o ryw £300,000 y flwyddyn i £13m, dros gyfnod o bedair blynedd, “i helpu mwy o bobol”.

Trwy eu Cynllun Gweithredu Tai, dywed y Cyngor eu bod nhw wedi “adnabod bwlch” yn narpariaeth “cartrefi canolraddol” ledled y wlad.

Mae cartrefi canolraddol yn disgrifio ystod o gartrefi sydd ar werth ac i’w rhentu sy’n cael eu rhoi ar gost sy’n uwch na rhent gymdeithasol ond sy’n is na lefel y farchnad.

Nod y cynllun yw helpu trigolion sy’n darganfod nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol ond sydd hefyd yn methu fforddio prynu neu rentu ar y farchnad agored.

Mae safle Coed Mawr ym Mangor yn un o’r rhai cyntaf i ddarparu deg o gartrefi canolraddol fforddiadwy.

Ers mis Mehefin y llynedd, meddai’r Cyngor, mae nifer y ceisiadau i brynu tai fforddiadwy ym Mangor wedi cynyddu gan 405% (o 60 i 303 o ymholiadau).

Mae cymorth arall yn cynnwys cynllun Tŷ Gwynedd i adeiladu cartrefi fforddiadwy canolraddol.

Mae’r Cyngor hefyd yn prynu ac adfywio eiddo gwag, neu’n cynnig benthyciadau a grantiau i drigolion lleol.

Mae prynu tir er mwyn codi tai yn gynllun newydd arall sydd ar gael, ac yn ddiweddar fe brynodd y Cyngor eu darn cyntaf o dir ym Morfa Nefyn, fel rhan o’u Cynllun Gweithredu Tai.

Maen nhw hefyd yn prynu tai ar y farchnad agored i’w rhentu i drigolion lleol am bris rhent fforddiadwy ac yn cynyddu’r stoc tai cymdeithasol trwy gydweithio â Chymdeithasau Tai.

‘Gweledigaeth glir’

“Trwy’r Cynllun Gweithredu Tai, mae gan y Cyngor weledigaeth glir i helpu pobol fyw mewn tai fforddiadwy o safon yn eu hardaloedd eu hunain,” meddai Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd.

“Ar adeg mor anodd, mae’r gwelliannau mae’r Cyngor wedi’u gwneud, gyda diolch i’r cydweithio efo Grŵp Cynefin, Llywodraeth Cymru a Pheilot Dwyfor, yn golygu y bydd y cynllun hwn yn helpu hyd yn oed fwy o bobol ledled Gwynedd.

“Dw i’n annog unrhyw un fyddai’n hoffi cael mwy o wybodaeth i ymweld â gwefan y Cyngor, os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, i gofrestru efo Tai Teg cyn gynted â phosib.”

Yn ôl Catrin Roberts, Rheolwr Tai Fforddiadwy Grŵp Cynefin, “mae prisiau tai wedi codi i’r fath raddau nes bod angen cynnig yr holl gefnogaeth bosib i brynwyr tro cyntaf”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi clustnodi hyd at £8.5m i ariannu Cynllun Prynu Cartref Gwynedd.

“Bydd hyn yn rhan hanfodol o’r Cynllun Peilot Ail Gartrefi hyd at 2024 yn Nwyfor, gan weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i ddarparu datrysiadau ystyrlon i bobol leol.”