Ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr, mae’r canwr a cherddor Gwilym Bowen Rhys yn dweud ei fod e’n credu y dylid dychwelyd Llythyr Pennal i Gymru.

Ar Fawrth 31, 1406, anfonodd Owain Glyndŵr y llythyr at Siarl VI, Brenin Ffrainc, gan ofyn i’r brenin am gymorth â’i wrthryfel yn erbyn y Saeson.

Fe ysgrifennodd ei lythyr yn ystod synod yr Eglwys Gymreig ym Mhennal, ac mae’n rhoi darlun o uchelgais Owain Glyndŵr ar gyfer Cymru hunanlywodraethol, oedd yn cynnwys ei Heglwys ei hun a dwy brifysgol.

Cafodd copïau o’r llythyr hanesyddol eu rhoi i chwe sefydliad Cymreig, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn 2009 gan Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth ar y pryd.

Mae’r llythyr gwreiddiol wedi’i gadw yn yr Archives Nationales yn Paris, ac mae’r copïau wedi’u gosod ar femrwn gan ddefnyddio technegau heneiddio arbennig, gyda sêl Glyndŵr wedi’i hailgreu o fowldiau o’r gwreiddiol.

Daeth y llythyr gwreiddiol i’r Llyfrgell Genedlaethol yn 2000 ar gyfer Arddangosfa Owain Glyndŵr.

‘Datganiad o hyder Glyndŵr a Chymru ar y pryd’

“Ro’n i jyst yn digwydd bod ym Mharis, a digwydd pasio’r archif, a gan bod hi’n Ddiwrnod Owain Glyndŵr heddiw, neshi feddwl, dw i’n siŵr mai dyma lle mae Llythyr Pennal, neshi tsiecio ar y we ac, yn wir, yn fan’ma mae o, yn yr archif,” meddai Gwilym Bowen Rhys wrth golwg360.

“Dydi o ddim yn cael ei arddangos, wrth reswm, a dyna ydi’r peth, dydi o’n ddim byd pwysig yn hanes Ffrainc rili, ond mae o’n bwysig iawn, iawn yn ein hanes ni.

“Achos roedd o’n ddatganiad, yn fwy na dim byd, o hyder Glyndŵr a hyder Cymru ar y pryd o fod yn wlad annibynnol ac eitha’ modern am standards y bymthegfed ganrif.

“Yn y llythyr, mae Owain yn gosod allan ei fwriad o sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y gogledd ac un yn y de, ac ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, fyse rheina wedi bod yn brifysgolion cymharol gynnar yn Ewrop.

“A hefyd, roedd o’n datgan fysa’r Eglwys yn annibynnol a chanolfan yr Eglwys yng Nghymru fysa Tyddewi.

“Roedd o jyst yn gosod allan ei weledigaeth am Gymru fodern ar lefel Ewropeaidd, a bod o’n chwilio am gydnabyddiaeth i hynny gan Frenin Ffrainc a gan y Pab hefyd.

“Roedd o’n gofyn am gymorth Brenin Ffrainc, cymorth milwrol, ac roedd o’n esbonio sut bod Lloegr a Brenhiniaeth Lloegr yn hen elynion i’r ddau ohonyn nhw.”

Dychwelyd gwrthrychau o bwys hanesyddol

“Mae’r teimlad yn un diddorol o gael bod yn yr adeilad lle mae’r llythyr yn cael ei gadw, ac yn fy atgoffa i bod o’n golygu llawer mwy i ni nag ydi o i bobol Ffrainc,” meddai wedyn.

“Felly fysa fo’n gwneud synnwyr i ddychwelyd y llythyr yn ôl i Gymru, ynghyd â mynd yn ehangach o ran gwrthrychau hanesyddol.

“Dw i o’r gred y dylsen nhw i gyd gael eu dychwelyd i’r wlad lle maen nhw’n dod, yn enwedig o ganlyniad i imperialaeth a choncwest a ballu.

“Dros y byd, dylsai gwrthrychau hanesyddol gael eu dychwelyd i’r lle maen nhw’n dod.”