Mae’r ffaith fod Charles III, Brenin Lloegr, yn ymweld â Chymru ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr yn “eironig”, yn ôl Siôn Jobbins, cyn-gadeirydd Yes Cymru.
Dyma’r tro cyntaf i Charles III ddod i Gymru ers dod yn Frenin Lloegr a throsglwyddo rôl Tywysog Cymru i’w fab William, yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.
Yn ystod eu hymweliad, bydd Charles a Camilla, y Frenhines Gydweddog, yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd wrth iddyn nhw ddod i Gymru ar ôl bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos hon hefyd.
“Dw i’n meddwl bod yna elfen o ffliwc bod y dyddiau’n cyd-daro,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.
“Ond Tywysog olaf Cymru ydi Glyndwr, ynde, ac mi fyddai Tywysog Cymru, fel y byddai Brenin Denmarc neu Frenin Norwy, yn credu’n gryf bod angen annibyniaeth i Gymru.
“Mae e fel Tywysog yn ymgorfforiad o Gymru fel gwlad annibynnol.
“Mae o’n eironig bod yr ymweliad yn digwydd heddiw oherwydd Glyndŵr yw gwir Dywysog Cymru i mi a lot o bobol eraill.
“Ac eironi tu hwnt ydy fod gen ti ddyn oedd yn Dywysog Cymru, a wnaeth golli popeth, yn cael ei anwybyddu tra bod gen ti Dywysog Cymru sydd wedi cael pob dim yn cael ei fawrygi.
“Oherwydd bod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, buodd yn rhaid i ni aros 470 mlynedd i gael Prifysgol, roedd yn rhaid i ni aros 520 mlynedd i gael Eglwys ein hunain ac roedd yn rhaid i ni aros bron i 600 mlynedd i gael Senedd ein hunain.
“Mae o’n sarhad ar Gymru ein bod ni’n mawrygi’r teulu brenhinol wnaeth stopio hynny rhag digwydd, ac yn anghofio’r dyn wnaeth geisio cyflawni’r pethau hyn yr ydyn ni gyd yn cytuno arnyn nhw i raddau helaeth, ond wedi gorfod disgwyl canrifoedd amdanyn nhw achos bod Coron Lloegr wedi curo Glyndŵr mewn brwydr filitaraidd.”
‘Dim effaith’ ar yr ymgyrch annibyniaeth
Dyw Siôn Jobbins ddim yn credu y bydd marwolaeth y Frenhines a’r ffaith fod William yn dod yn Dywysog Cymru yn effeithio ar yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru.
“Dw i’n meddwl bod pobol yn eithaf diffuant, gan gynnwys cenedlaetholwyr,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod y ddadl am William wedi codi cwestiynau am beth ydi’r rôl.
“Yn amlwg, mae yna gefnogaeth gref i’r frenhiniaeth yng Nghymru, ond mae yna hefyd lot o bobol sy’n anhapus bod rhywun sydd ddim yn ymwneud â Chymru, neu o Gymru neu hyd yn oed, ag unrhyw ddiddordeb arbennig yng Nghymru, nawr yn ymgorffori’r genedl.
“A bellach, mae gennym ni bethau sy’n gwneud y gwaith yna yn well, megis y tîm pêl-droed er enghraifft.
“Mae pobol yn gweld y cyferbyniad yna, dw i’n credu.
“Felly dw i ddim yn meddwl y bydd hyn yn cael effaith ar yr ymgyrch annibyniaeth nac ar y ddadl gyfansoddiadol.
“Pan fydd yr angladd drosodd, mi fydd pobol yn dechrau meddwl am eu bywyd bob dydd a phwy sy’n eu rheoli nhw yn San Steffan a Senedd Cymru,
“Dw i’n meddwl bod pobol yn meddwl mwy am ba fath o Gymru y maen nhw eisiau byw ynddi.”