Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi amddiffyn hawl gweriniaethwyr i brotestio ar adeg ymweliad cyntaf Charles III â Chymru ers iddo ddod yn Frenin Lloegr.

Serch hynny, mae’n galw am bwyllo wrth brotestio ac yn dweud nad yw’n disgwyl Arwisgiad tebyg i un Charles yn 1969 ar gyfer ei fab William, Tywysog newydd Cymru.

Ac er nad yw’n disgwyl i William ddysgu Cymraeg fel y gwnaeth ei dad ym Mhrifysgol Aberystwyth hanner canrif a mwy yn ôl, mae’n dweud y bydd disgwyl iddo werthfawrogi pwysigrwydd yr iaith ym mywyd Cymru.

“Does neb yn disgwyl gwyrthiau,” meddai.

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan bwysig iawn o Gymru, sy’n cael ei siarad gan filoedd o bobol bob dydd.

“Dydy hi ddim o reidrwydd yr iaith hawsaf i’w chaffael yn ddiweddarach.

“Dw i’n eithaf sicr y bydd Tywysog newydd Cymru eisiau cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’r rhan mae’n ei chwarae wrth siapio’r Gymru gyfoes.”

Protest

Daw ei sylwadau ar raglen Today ar Radio 4 ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr ac ar achlysur yr ymweliad brenhinol â’r brifddinas, wrth i brotest yn erbyn yr ymweliad ddechrau ger castell Caerdydd am 1 o’r gloch.

“Mae gan bobol hawl ddilys i brotestio ac mae yna amrywiaeth o safbwyntiau,” meddai Mark Drakeford.

“Fy hunan, dw i ddim yn credu mai dyma’r wythnos pan fo angen i’r ddadl honno godi.

“Ond mae gan bobol yr hawl honno a dw i’n credu y byddan nhw’n gweithredu arni gyda phwyll ac y bydd yn droednodyn i’r teimladau sy’n dominyddu’r diwrnod.

“Fe ddylai gydnabod yr hawliau sydd gan bobol.

“Mae gen i bob ffydd yn Heddlu’r De, sydd wedi ymdrin â’r math yma o ddigwyddiad nifer o weithiau.

“Byddan nhw’n ymdrin yn gymesur â phrotest, gan sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu parchu ond nad yw’r hawliau hynny’n ymyrryd â’r hyn y bydd y rhan fwyaf o bobol wedi dod i Gaerdydd heddiw i’w weithredu.”

Wrth droi ei sylw at Arwisgiad posib, fe gyfaddefodd fod “Cymru 2022 yn wahanol iawn i Gymru 1969”, ac nad yw’n disgwyl ailadrodd y seremoni honno yng nghastell Caernarfon.

“Dw i ddim yn meddwl mai dyna’r ffordd iawn o’i chwmpas hi,” meddai.

“Dw i’n credu y bydd Tywysog newydd Cymru eisiau amser i ymsefydlu yn y rôl honno, i weithio allan lle gall e wneud y cyfraniad mwyaf i greu Cymru lwyddiannus y dyfodol, a bydd digon o amser i feddwl am sut a phryd y gellid nodi’r rôl newydd honno’n fwy ffurfiol.”

Cynnal protest ar-lein tra bydd y Brenin Charles III yn ymweld â Chaerdydd

Huw Bebb

“Mae o’n warthus y ffordd mae pobol yn trio gwthio tywysog arnom ni heb i ni gael unrhyw hawl ddemocrataidd”
Heddwas

‘Anodd deall sut bod cyfiawnhad dros arestio’r protestwyr gwrth-frenhiniaeth’

Cadi Dafydd ac Alun Rhys Chivers

“Ar yr olwg gyntaf fyddech chi’n dweud y dylid bod rhyddid i unrhyw un ddatgan barn wleidyddol,” medd y cyfreithiwr Emyr Lewis wrth egluro’r sefyllfa
Arwisgo Charles yn 1969

Wyt ti’n cofio Macsen? Os na, beth am 1969?

Ffred Ffransis

Eto eleni y mae rhai o’r un dadleuon â 1969. A fedrwn ni ddysgu o hanes?