Mae cantores ac ymgyrchydd o Gaerdydd wedi trefnu protest ar-lein i wrthwynebu gwneud William yn Dywysog Cymru, ar y diwrnod pan fydd y Brenin Charles III yn ymweld â’r brifddinas.
Bydd Gwenno Dafydd yn lansio cân a fideo dwyieithog y mae hi wedi’i hysgrifennu i hybu annibyniaeth.
Daw’r gerddoriaeth gan Katherine Cole, gyda Gwi Jones, canwr ifanc o Aberystwyth, yn canu’r gân.
Enw’r gân yw ‘Clyw Lais y Ddraig yn Rhuo’ ac mae’r fideo’n dangos delweddau o’r tair rali annibyniaeth mae YesCymru wedi’u cynnal hyd yma – yng Nghaernarfon, Caerdydd a Merthyr.
Bydd y gân a’r fideo’n cael eu lansio am 12 o’r gloch ddydd Gwener (Medi 16) ar dudalen Facebook Gwenno Dafydd, tra bydd y brenin yn ymweld â Chaerdydd.
Penderfynodd gynnal y brotest ar Facebook oherwydd ei bod hi wedi’i brawychu wrth weld pobol yn cael eu harestio am brotestio yn erbyn y frenhiniaeth dros y dyddiau diwethaf.
Y trefniadau
Dyma’r tro cyntaf i Charles III ddod i Gymru ers dod yn Frenin Lloegr a throsglwyddo rôl Tywysog Cymru i’w fab William, yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.
Daw eu hymweliad ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr, gydag ambell ddigwyddiad yng Nghymru i nodi’r diwrnod wedi’u canslo.
Yn ystod eu hymweliad, bydd y pâr yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd wrth iddyn nhw ddod i Gymru ar ôl bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos hon hefyd.
Yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, byddan nhw’n cael eu cyfarch gan Arglwydd Raglaw De Morgannwg ac yn cymryd rhan mewn gwasanaeth o ddiolchgarwch er cof am y Frenhines, gyda’r Deon yn arwain, ac anerchiadau a darlleniadau gan Archesgob Cymru Andy John a’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Byddan nhw’n cyfarfod â phlant ysgol a’r gymuned leol cyn teithio i’r Senedd i dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad yn y Siambr a theyrngedau gan Aelodau.
Y disgwyl yw y bydd yna gynulliad wedyn rhwng y brenin, y Prif Weinidog a’r Llywydd Elin Jones yng Nghastell Caerdydd, cyn i’r brenin a’r frenhines gydweddog gyfarfod â sefydliadau, elusennau ac arweinwyr ffydd.
‘Gwarthus’
Mae’r ffaith fod yr ymweliad yn cael ei gynnal ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr yn “warthus”, yn ôl Gwenno Dafydd.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw (y teulu brenhinol) wedi bod yn hynod o haerllug yn penderfynu bod William yn dod yn Dywysog Cymru,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw wedi bod yn amharchus trwy ddod â’r Brenin Charles draw i Gaerdydd ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr.
“Mae o’n warthus y ffordd mae pobol yn trio gwthio tywysog arnom ni heb i ni gael unrhyw hawl ddemocrataidd.
“A dyna pam dw i’n lansio’r fideo yma dydd Gwener am 12 o’r gloch, achos dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi datgelu pryd yn union mae Charles yn dod.
“Ond dw i’n rhyw deimlo erbyn hanner dydd y bydd o wedi bod yn Llandaf ac ar ei ffordd i’r Senedd, neu ar y ffordd i’r Castell efallai.
“Y nod ydi boddi gweplyfr (Facebook) efo’r fideo yma am annibyniaeth a’r ffyrdd y mae’r Cymry wedi cael eu hamharchu yn y gorffennol, megis Tryweryn.
“Dw i am iddo godi ymwybyddiaeth pobol am ein hanes ni.
“Does yna ddim llawer o sôn am Owain Glyndŵr yn y fideo, mae o’n fwy i wneud gydag annibyniaeth.
“Ond mae’r ffaith ei fod o’n cael ei lansio ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr yn rywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddo, diwrnod ni ein hunain ar gyfer ein Tywysog olaf.”
Prydain yn troi mewn i “wladwriaeth heddlu”?
Mae gweld sut mae pobol wedi cael eu harestio dros y dyddiau diwethaf am leisio barn ar y frenhiniaeth wedi brawychu Gwenno Dafydd, sy’n dweud bod Prydain yn troi’n “wladwriaeth heddlu”.
Mae’n debyg mai yng Nghaeredin y mae’r ddau achos mwyaf blaenllaw wedi bod hyd yma.
Yno, cafodd dynes oedd yn dal arwydd yn dweud ‘F*** imperialism, abolish monarchy’ ei harestio.
Digwyddodd hyn y tu allan i Eglwys Gadeiriol San Silyn, lle’r oedd arch y Frenhines yn gorwedd ddydd Llun (Medi 12).
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod dynes 22 oed wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â tharfu ar yr heddwch.
Yn y cyfamser, cafodd dyn 22 oed ei gyhuddo o darfu ar yr heddwch ar ôl heclo Andrew, Dug Caerefrog, wrth iddo gerdded y tu ôl i arch ei fam, y Frenhines.
Roedd fideo yn dangos y dyn yn gweiddi arno wrth iddo ddilyn yr arch ar hyd y Filltir Frenhinol yng Nghaeredin.
Fe wnaeth y gŵr ifanc gyfiawnhau ei weithred wrth yr heddlu drwy ddweud na ddylai dynion pwerus allu aflonyddu ar ferched ac osgoi’r canlyniadau – gan gyfeirio at honiadau sydd wedi cael eu gwneud am Andrew.
“Cafodd ei ryddhau a bydd yn ymddangos yn Llys Siryf Caeredin…” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Alban.
“Bydd adroddiad yn cael ei anfon at wasanaeth erlyn cyhoeddus yr Alban.”
Wrth ymateb i’r digwyddiadau, dywed Gwenno Dafydd fod “y lle yma yn troi mewn i wladwriaeth heddlu”.
“Mae o’n echrydus ac yn peri poen meddwl.
“Dw i’n ymgyrchydd, dw i wedi bod yn protestio ers blynyddoedd ac mi fues i yn y brotest yn erbyn Deddf Heddlu.
“Roedden ni’n gallu gweld bryd hynny bod hyn ar y ffordd.
“Mae beth sy’n digwydd yn codi braw enfawr arna i, a dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn gyfrwys.
“Dyna pam dw i wedi penderfynu cynnal protest ar-lein gan ein bod ni’n symud tuag at sefyllfa lle allwch chi ddim hyd yn oed dal darn o bapur i fyny fel protest.
“Mae’n golygu bod pobol yn gallu cymryd rhan heb fod yna berygl i’r unigolyn am sefyll i fyny a chael llais democrataidd.”