Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn addasu rhywfaint ar eu trefniadau ddydd Llun (Medi 19) gan fod y diwrnod yn Ŵyl Banc.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae’n rhaid iddyn nhw addasu rhai elfennau o’u gofal wedi’i gynllunio a blaenoriaethu cleifion ag anghenion brys lle bynnag y bo modd, yn sgil angladd Elizabeth II, Brenhines Lloegr.

Bydd unedau cemotherapi yn y gorllewin yn gweithredu fel yr arfer dydd Llun, a bydd “rhai llawdriniaethau ar gyfer achosion brys” yn cael eu cynnal.

Mae’r bwrdd iechyd am gysylltu â’u holl gleifion i gadarnhau neu aildrefnu eu hapwyntiadau.

“Pan fydd angen aildrefnu apwyntiadau, bydd y tîm perthnasol yn cysylltu â chleifion dros y dyddiau nesaf i aildrefnu eu hapwyntiad cyn gynted â phosibl,” meddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Mewn rhai achosion, gall hyn olygu dod ag apwyntiadau ymlaen i’r wythnos hon.

“Bydd rhai apwyntiadau cleifion allanol wyneb yn wyneb yn dal i fynd rhagddynt, ac efallai y bydd rhai yn cael eu cynnal fel apwyntiad ar-lein/rhithwir ddydd Llun.

“Os oes gennych apwyntiad ddydd Llun, ac nad ydym wedi cysylltu â chi erbyn 1pm ddydd Gwener, cysylltwch â hwb cyfathrebu’r bwrdd iechyd ar 0300 3038322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth ac arweiniad.”

Bydd meddygfeydd y bwrdd iechyd, a’r rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol a gwasanaethau deintyddol ar gau ddydd Llun hefyd.

“Bydd yr holl wasanaethau brys yn parhau fel arfer,” ychwanega’r bwrdd iechyd.

“Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch am eich cefnogaeth a’ch amynedd.

Trefniadau’r byrddau iechyd

O ganlyniad i’r angladd, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n canslo pob apwyntiad a chlinig yn yr ardal ddydd Llun, oni bai bod yr achos yn un brys.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dylai cleifion yn y gogledd gymryd bod eu hapwyntiadau neu eu llawdriniaethau’n digwydd fel y disgwyl ddydd Llun, oni bai eu bod nhw’n clywed yn wahanol.

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cysylltu â chleifion os oes angen ail-drefnu eu hapwyntiadau neu eu llawdriniaethau ddydd Llun.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn blaenoriaethu gofal a gwasanaethau brys. Bydd y rhan fwyaf o lawdriniaethau yn digwydd fel yr arfer ddydd Llun, ond bydd rhaid o’u clinigau’n cael eu canslo. Byddan nhw’n cysylltu â phawb sydd ag apwyntiad neu lawdriniaeth wedi’i threfnu at ddydd Llun i gadarnhau’r trefniadau.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gohirio apwyntiadau arferol ar gyfer cleifion allanol ddydd Llun, ac yn cysylltu â phawb fydd yn cael eu heffeithio. Byddan nhw’n parhau â llawdriniaethau brys a chanser, yn ogystal â gofal brys, cemotherapi, radiotherapi a dialysis arferol.

Dydy Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro heb gadarnhau eu trefniadau eto.

Canslo apwyntiadau yng Nghymru ar ddiwrnod angladd Brenhines Lloegr

Mae’r diwrnod wedi’i ddynodi’n Ŵyl Banc