Mae rhai apwyntiadau meddygol wedi’u canslo yng Nghymru ddydd Llun nesaf (Medi 19) o ganlyniad i angladd Elizabeth II, Brenhines Lloegr.

Mae’r diwrnod wedi’i ddynodi’n Ŵyl Banc, ac fe fydd y trefniadau’n amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall yng Nghymru.

Fydd dim apwyntiadau na chlinigau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yng Ngwent oni bai bod yr achos yn un brys, a bydd y rhan fwyaf o feddygfeydd a fferyllfeydd ynghau.

Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cysylltu â chleifion yn ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Torfaen a Threfynwy i roi gwybod iddyn nhw am y trefniadau.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru annog byrddau iechyd i weithredu yn ôl eu harfer ar ddiwrnodau Gŵyl Banc.

Bydd pobol yn dal yn gallu cael brechlyn Covid-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sef Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf, a bydd yr holl ganolfannau brechu Covid-19 ar agor, ond bydd modd i bobol aildrefnu eu hapwyntiadau o ganlyniad i’r angladd os ydyn nhw’n dymuno.

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cysylltu â chleifion pe bai angen aildrefnu eu hapwyntiadau neu eu llawdriniaethau, ond bydd modd i bobol gael eu brechlyn Covid-19, ond bydd meddygfeydd a deintyddfeydd ynghau.