Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn dweud y dylai unrhyw benderfyniad ynghylch arwisgo Tywysog newydd Cymru gael ei wneud yng Nghymru.

Daw ei sylwadau wedi i dros 20,000 o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu trosglwyddo’r teitl i’r Tywysog William.

Yn wreiddiol, dywedodd Adam Price y byddai “amser” yn y dyfodol i gael dadl gyhoeddus ynghylch y teitl, gan fod meddyliau Plaid Cymru “gyda’r Teulu Brenhinol wrth iddyn nhw alaru”.

Ond mewn sylwadau gafodd eu gwneud ar Radio Cymru, dywedodd fod trafodaethau ynglŷn â lle y dylai’r Arwisgiad ddigwydd yn y cyfryngau wedi “croesi llinell”.

Daeth ei sylwadau wedi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud nad oes “dim brys” i gynnal Arwisgiad arall ac y dylai trafodaeth gael ei chynnal yn y cyfamser.

“Rwy’n croesawu’r hyn oedd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i’w ddweud ar y cwestiwn o Arwisgiad,” meddai Adam Price.

“Dw i wedi gweld straeon yn y wasg yn Llundain bod arwisgiad yn mynd i ddigwydd, a dw i’n meddwl bod llinell yn cael ei chroesi oherwydd mae hynny’n rhoi statws led-swyddogol i Dywysog Cymru ym mywyd Cymru.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n benderfyniad y dylen ni yng Nghymru ei wneud mewn cyfnod lle rydyn ni’n byw mewn Cymru ddemocrataidd fodern – mae’n benderfyniad y mae angen i ni ei wneud yma cyn i unrhyw gyhoeddiad gael ei wneud.”

‘Sensitifrwydd a phoen’

Ychwanega Adam Price na ddylid brysio i wneud penderfyniad, ond ei fod yn un i Aelodau o’r Senedd ei wneud.

“Rwy’n weriniaethwr, ac mae sensitifrwydd a phoen o gwmpas teitl [Tywysog Cymru] i nifer ohonom,” meddai.

“Ond mae gan eraill farn wahanol ac mae angen trafodaeth ar y mater.”

Heddwas

‘Anodd deall sut bod cyfiawnhad dros arestio’r protestwyr gwrth-frenhiniaeth’

Cadi Dafydd ac Alun Rhys Chivers

“Ar yr olwg gyntaf fyddech chi’n dweud y dylid bod rhyddid i unrhyw un ddatgan barn wleidyddol,” medd y cyfreithiwr Emyr Lewis wrth egluro’r sefyllfa